Image of dancers working on Rugbi, standing ina line at the back with their backs to the camera and the director on the floor looking up at them and then a picture of Molly next to that. Blonde hair

Work Experience Blog: Mollie Jenkins

Diwrnod 1

Ar hyn o bryd, rwy’n aelod o sawl grŵp dawns: Cwmni Dawns Ieuenctid Spark, cwmni Dawns Ieuenctid Sir Fynwy ac rwyf wedi bod yn gydymaith CDCCymru ers blwyddyn. Rwy’n ddawnsiwr cyfoes awyddus ac mae gen i ddiddordeb yn y ffordd mae CDCCymru yn gweithio.

Cychwynnais y bore drwy ymuno yn un o ddosbarthiadau’r cwmni gyda Matteo Marfogila, a oedd yn heriol, ond roedd cael bod yn rhan ohono’n gyffrous. Roedd yn ddiddorol gweld y gwahaniaeth rhyngddo â dosbarthiadau’r Cymdeithion, ond eto’n cyfuno llawer o nodweddion tebyg.

Yna, roeddwn yn gallu gwylio ymarferion y cwmni ar gyfer y gwaith newydd ‘Rygbi’, wedi ei goreograffu gan y Cyfarwyddwr Artistig Fearghus Conchuir. Roeddwn yn chwilfrydig i weld sut roedd y gwaith am lwyddo i gyfleu rygbi a dawns gyfoes. Roedd yn ddiddorol gweld defnydd o fyrfyfyr a chyswllt o fewn y gwaith. Yna, aeth y cwmni ymlaen i drafod eu gyrfaoedd a sut y cefnogwyd nhw gyda’u datblygiad dawns. I mi, roedd hyn yn ddifyr ac yn ysbrydoledig. Rwyf wedi cael diwrnod gwych ac edrychaf ymlaen at weld y gwaith yn datblygu yn ystod yr amser y byddaf yn ei dreulio gyda CDCCymru.

 

Diwrnod 2

Dechreuodd y bore gyda dosbarth cyfoes dan arweiniad Laila a oedd yn waith caled ond yn llawer o hwyl. Ar ôl hyn, gofynnwyd i'r dawnswyr weithio mewn parau a gwneud tasg yn seiliedig ar waith byrfyfyr gan ddefnyddio gwaith cyswllt. Roedd yn rhaid iddynt ymateb i gyffwrdd ac amrywio eu ffocws i weld sut y byddai hynny'n effeithio ar eu symudiad. Gallwn weld sut roedd yr ymarfer hwn yn eu helpu gyda'u darn ac yn caniatáu i'r dawnswyr archwilio eu symudiad yn fwy manwl. I mi, roedd yn ddiddorol gweld pa mor bwysig yw eich mynegiant wyneb o fewn darn a sut y gall greu awyrgylch mor wahanol, gyda Fearghus yn annog mynegiadau cymaint â phosibl.

Wedi hynny roedd y dawnswyr yn ymarfer rhan o'u darn yn seiliedig ar waith cyswllt. Roedd yr adran hon yn ymddangos yn bwerus. Roeddwn i'n hoffi sut roedd yr arddull dawns haniaethol / gyfoes yn cael ei chymysgu â symudiadau rygbi gwahanol. Roedd hyn yn caniatáu i mi, fel aelod o'r gynulleidfa, ddilyn thema'r darn yn hawdd a dal i fwynhau'r dawnsio anhygoel ochr yn ochr. Yna dangosodd Fearghus ddetholiad o ddelweddau i'r dawnswyr i ysbrydoli eu symudiad ac i ddangos yr ystyr y tu ôl i'r darn. Mae hwn wedi bod yn ddiwrnod diddorol iawn i mi, i gymryd rhan yn y dosbarth a chael cipolwg go iawn ar sut mae'r dawnswyr yn gweithio. Rwyf wedi mwynhau heddiw ac rwy’n edrych ymlaen yn arw i ymuno â CDCymru yfory.

 

Diwrnod 3

Dechreuodd y bore ‘ma, yn debyg i ddoe, gyda dosbarth dawns gyfoes wedi ei harwain gan Laila, a oedd yn rhoi sylw i dechneg a chymalau symudiadau. Fe wnes i fwynhau dysgu coreograffi Laila gan ei fod yn gyffrous ond eto’n heriol. 

Ar ôl hynny, roedd Fearghus eisiau i’r dawnswyr dreulio amser yn gweithio ar fyrfyfyrio o fewn eu darn. Roedd yn hynod o ddiddorol gweld sut oedd y dawnswyr yn medru gweithio mor dda fel tîm wrth fyrfyfyrio gyda’i gilydd a sicrhau bod pawb yn ddiogel. Nid wyf wedi cael profiad hyd yma o ddefnyddio  byrfyfyrio wrth goreograffu nac i feddwl am syniadau, ond hoffwn arbrofi mwy gyda hynny wrth imi ddechrau coreograffu fy ngwaith fy hun.  Roedd y dawnswyr hefyd yn cael cyfle i ymarfer eu darnau gyda’r esgidiau y byddant yn eu gwisgo yn ystod y sioe, er mwyn dod i arfer â nhw.

Rwyf wir wedi mwynhau fy amser gyda CDCCymru yr wythnos hon, a chael gweld sut mae’r dawnswyr yn gweithio a sut maent yn creu darnau mor arbennig. Rwy’n hynod ddiolchgar i CDCCymru am y profiad gwych hwn, ac edrychaf ymlaen at ymuno â’r Partneriaid Rhaglen ym mis Medi am flwyddyn arall.