Eich Ymweliad
Mae’r Tŷ Dawns bob amser yn fwrlwm o weithgarwch o greu ac ymarfer repertoire Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, i amrywiaeth o weithgareddau cyfranogol.
Tŷ Dawns
Canolfan Mileniwm Cymru,
Stryd Pen y Pier,
Bae Caerdydd,
CF10 4PH
Ymweld â ni
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i'r Tŷ Dawns.
Mae mynedfa y Tŷ Dawns yng nghefn Canolfan Mileniwm Cymru, gyferbyn â Swyddfeydd Llywodraeth Cymru (Tŷ Hywel). Mae oddeutu 2-3 munud ar droed o du blaen y Ganolfan.
Mae drysau yn y Tŷ Dawns yn agor 20 munud cyn amser cychwyn y sioe. Oherwydd natur glos y Tŷ Dawns, ni fydd y rhai sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael eu gadael i mewn mwy na 15 munud ar ôl dechrau'r perfformiad.
Mae digon o luniaeth ar gael yng Nghanolfan Mileniwm Cymru neu mewn sawl lle ym Mae Caerdydd.
Mae croeso i chi gysylltu â ni os ydych yn newydd i'r ardal ac yr hoffech wybod mwy!
Lle rydym ni
Rydym yn sefydliad preswyl yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ynghyd ag Opera Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Cymru y BBC, Touch Trust, Tŷ Cerdd, Llenyddiaeth Cymru, Hijinx a’r Urdd. Mae'r Ganolfan yn ganolbwynt creadigol lle rydym yn creu gwaith unigol ac yn cydweithio ac yn bartneriaid ar ddarnau eraill o waith.
Mae mynedfa y Tŷ Dawns yng nghefn Canolfan Mileniwm Cymru, gyferbyn â swyddfeydd Llywodraeth Cymru (Tŷ Hywel). Mae oddeutu 2-3 munud ar droed o du blaen y Ganolfan.
Gallwch ein cyrraedd mewn car, ar drên, beic neu fws. Mae gwasanaethau bws yn stopio y tu allan i Ganolfan y Mileniwm ac mae yna le i chi gadw eich beiciau wrth y drysau i'r Tŷ Dawns. Os ydych yn gyrru, mae gan Fae Caerdydd nifer o gyfleusterau parcio. Mae Q-Park Bae Caerdydd gyferbyn â Chanolfan Mileniwm Cymru ar Stryd Pierhead ac mae ar agor 24 awr y dydd, defnyddiwch CF10 4PH i wneud eich ffordd i'r cyfeiriad cywir. Am unrhyw wybodaeth arall ynglŷn â thrafnidiaeth, parcio anabl neu fynediad ewch i wefan Canolfan Mileniwm Cymru yma