Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
Surge | Gwefr
BSL Flyer | Audio Description Flyer |
Archwiliwch fydoedd newydd drwy ddawns.
Darganfyddwch dri byd newydd sy’n ymestyn o chwedloniaeth hynafol i ffuglen wyddonol ddyfodolaidd. Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn eich trawsgludo drwy stori, amser a lle gyda’r triawd o ddawnsfeydd hudolus a chynllunio hyfryd.
Beth am gael eich ysbrydoli gan ‘Infinity Duet’, cydweithrediad unigryw rhwng y coreograffydd Faye tan a’r artist Cecile Johnson Soliz y mae ei gwisgoedd sydd wedi’u gorchuddio gyda brasluniau a’r cerflun sy’n siglo yn cymryd eu lle ar ganol y llwyfan, ochr yn ochr â symudiad cynnes, ysbrydol sy’n archwilio pwysau ac amser.
Cewch eich hudo gan ‘Waltz’ Marcos Morau, sydd wedi swyno cynulleidfaoedd ar hyd a lled Ewrop. Mae bodau disglair o du hwnt i’r byd hwn yn symud ar draws tirwedd wen, foel gyda chywirdeb manwl iawn. Dyma antur ffuglen wyddonol yn creu anhrefn, trefn a rheolaeth, sy’n cael ei galw'n 'hollol gymhellol' gan y Times.
Yn olaf, cewch eich trawsgludo ar siwrne i ddarganfod ‘Mabon’ gan Osian Meilir.
Profwch y Mabinogion mewn goleuni newydd wrth i chi fynd ar daith drwy’r hen Gymru i gwrdd ag anifeiliaid hynaf y byd.

Mae dau berson yn mynd i'r afael â phwysau ac amser yn y ddeuawd deimladwy a chynnes hon sy'n plethu ynghyd dyluniad, cerfluniad, dawns a sain mewn cydweithrediad unigryw.
"Performers move fluidly around a large moving swing in the centre of the stage, reflecting a huge level of technical skill on their part, but also evoking the gleeful risk-taking involved in any great piece of art.
Buzz Magazine
Coreograffi: Faye Tan
Yr Artist: Cecile Johnson Soliz
Cyfansoddydd: Richard McReynolds
Dysgu Mwy am Infinity Duet

Mae waltz atgofus yn chwarae yn y pellter. Allan o’r lludw daw cwlwm o greaduriaid gloyw i fyw mewn byd newydd. Yn y dryswch a’r cynnwrf eu hunig obaith yw parhau’n unedig.
"It’s rare in dance to feel totally intrigued by what might happen next, but Marcos Morau’s Waltz – holds a real element of surprise...It is fascinating, intense and compelling."
The Guardian
Coreograffi: Marcos Morau
Cerddoriaeth Valse Triste, Op 44. (Berlin Philharmonic) by Jean Sibelius, Suspirium by Thom Yorke, Crawler by Holly Herndon, Pneuma by Caterina Barbieri.
Dysgu Mwy am Waltz

Mae Mabon wedi’i ysbrydoli gan ymgais i gwrdd â rhai o’r anifeiliaid hynaf yn y byd o chwedl y Mabinogion - casgliad o fythau a chwedlau hynafol o Gymru.
Osian’s background in folk dance is integral to their work which will twist tradition with rebellious contemporary choreography in this fantastical new work.
Coreograffi: Osian Meilir
Dylunio Gwisgoedd: Becky Davies
Cynllynydd Goleuo: Marty Langthorne
Cyfansoddydd:Cerys Hafana
Dysgu Mwy Am Mabon