
Faye Tan a Cecile Johnson Soliz
Infinity Duet
Mae dau berson yn mynd i'r afael â phwysau ac amser yn y ddeuawd deimladwy a chynnes hon sy'n plethu ynghyd dyluniad, cerfluniad, dawns a sain mewn cydweithrediad unigryw.
CDCCymru yn Cyflwyno
Shorts | Byrion
Cynhyrchiad

Ni all y cerflun osgoi ildio i ddisgyrchiant, na’u cyrff chwaith.
Mae dau berson yn mynd i'r afael â phwysau ac amser yn y ddeuawd deimladwy a chynnes hon sy'n plethu ynghyd dyluniad, cerfluniad, dawns a sain mewn cydweithrediad unigryw.
Creodd y coreograffydd Faye Tan a'r artist Cecile Johnson-Soliz y gwaith hwn ynghyd â'r dawnswyr. Gyda cherddoriaeth gan Richard McReynolds, gwisgoedd wedi'u printio â darluniau Cecile a cherflun mawr siglog sy'n hawlio'r sylw, mae'r gwaith hwn yn eich swyno.
Hyd: 10 minutes
Dawnswyr: 2
Premiere: 30 February 2025, Dance House, Cardiff
Yr Artist: Cecile Johnson Soliz
Cyfansoddydd: Richard Mcreynolds
Dylunio Gwisgoedd: Cecile Johnson Soliz
Cynllynydd Goleuo: Will Lewis
Gwneuthurydd Gwisgoedd: Elizabeth Catherine Chiu
Dawnswyr A Chyd-Goreograffwyr: Charlotte Aspin, Alys Davies, Olivia Foskett, Sarah ‘Riz’ Golden, Jill Goh, Edward Myhill
Cyfarwyddydd Ymarfer: Victoria Roberts
Gyda Diolch i: Luca Chiodini, Dan Clark, Elena Grace, Sam Gilovitz, Niamh Keeling, Mario Manara, Matthew William Robinson, Ds Smith, Will Barrett Soliz, Rachel Verner
Faye Tan

Mae Faye yn ddawnswraig a choreograffydd o Singapôr ac ar hyn o bryd yn ddawnswraig llawn amser gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Meithrinwyd ei hymarfer coreograffig gan ei phrofiadau helaeth o weithio gyda choreograffwyr dawns gyfoes o bob rhan o’r byd a’i defnydd o wahanol arddulliau o ddawns, diwylliannau, dulliau a thechnegau. Mae ei gwaith yn aml yn cynnwys cymhlethdod yr emosiwn dynol sydd weithiau’n llethol, ac yn aml yn awdlau i brofiadau dynol o’r dyrchafedig.
Yn aml yn cydweithio gyda cherddorion ac artistiaid gweledol, mae hi wedi creu gwaith ar gyfer amrywiaeth o osodiadau a chyd-destunau gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, VERVE (DU), Frontier Danceland (Singapôr), y Ganolfan Hyfforddiant Uwch (DU) ac Ysgol Gelfyddydau Singapôr.
faye-tan.com/
@fayefayefaye.tan

Mae Cecile Johnson Soliz yn Americanes ail genhedlaeth o dreftadaeth Bolifaidd a fagwyd yng Nghaliffornia, Mecsico, Bolifia, Brasil, Ghana, a’r Eidal cyn cyrraedd y D.U. i astudio Celfyddyd Gain yng Ngholeg Celfyddyd ac Eurych Caerdydd. Yn dilyn 20 mlynedd yn Llundain, bu i Gymrodoriaeth Henry Moore mewn Cerfluniaeth ddod â hi i Gaerdydd yn 1995 ble mae hi’n byw a gweithio. Mae Cecile wedi arddangos dros gyfnod o 35 mlynedd yn y D.U. a thramor mewn arddangosfeydd unigol a grŵp, gan ennill y Wobr Aur mewn Celfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2017. Ar hyn o bryd mae hi’n cydweithio gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Ar gyfer Bio llawn a C.V. ewch i:
cecilejohnsonsoliz.net
@cecilejohnsonsoliz

Mae Richard McReynolds yn gyfansoddwr o Ogledd Iwerddon, yn artist aml-gyfrwng a chynhyrchydd creadigol wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Mae’n gweithio yn y croestoriad rhwng cyfryngau, ymchwilio i gysylltiadau newydd rhwng perfformiadau, sain ac elfennau gweledol. Mae ei waith yn cwmpasu gwaith sain, celf-berfformiad, delweddau cynhyrchiol, hyper-offerynnau a gosodiadau.
richardmcreynolds.com
@mcreynoldsrich



