Marcos Morau
Waltz
Waltz
gan Marcos Morau
Mae waltz atgofus yn chwarae yn y pellter. Allan o’r lludw daw cwlwm o greaduriaid gloyw i fyw mewn byd newydd. Yn y dryswch a’r cynnwrf eu hunig obaith yw parhau’n unedig.
Os wnaethoch chi fwynhau byd coreograffig trydanol Tundra yn 2017, mae hwn yn gyfle arall i brofi gwaith gan Marcos Morau, y coreograffydd arloesol o Sbaen.
CDCCymru yn Cyflwyno
Teithio rhyngwladol
Cynhyrchiad
Hyd: 30 minutes
Dawnswyr: 9
Premiere: Spring 2023
Coreograffydd: Marcos Morau
Cynorthwywyr Coreograffwyr: Valentin Goniot and Marina Rodriguez
Cerddoriaeth: Valse Triste, Op 44. (Berlin Philharmonic) gan Jean Sibelius.
Suspirium gan Thom Yorke
Crawler gan Holly Herndon.
Pneuma gan Caterina Barbieri
Goruchwyliwr Gwisgoedd a Gwneuthurwr Gwisgoedd: Elizabeth Catherine Chiu
Gwneuthurwr Gwisgoedd: Danial Thatcher
Rhaglennydd Goleuo: Will Lewis
Ffoto: Albert Pons
Marcos Morau
“utterly compelling”
“striking visuals and visceral physicality”
"dazzling"
The Times
“remarkable unison”
“endlessly inventive”
“it’s rare in dance to feel totally intrigued by what might happen next”
The Observer
“meticulously drilled"
“eye-catching".
“mysterious, other-worldly"
Culture Whisper
Marcos Morau
Rhwng Barcelona ac Efrog Newydd, astudiodd Marcos Morau ffotograffiaeth, symudiad a theatr. Mae’n adeiladu bydoedd a thirweddau dychmygol lle mae symudiad a darlun yn cwrdd ac yn amlygu ei gilydd.
Ers dros ddeng mlynedd, mae Marcos yn rhedeg La Veronal, fel cyfarwyddwr, coreograffydd, a dylunydd set, golau a gwisgoedd. Teithiodd y byd yn cyflwyno ei weithiau mewn gwyliau, theatrau a chyd-destunau rhyngwladol.
Ar wahân i’w waith gyda La Veronal, mae Marcos Morau yn artist gwahoddedig ar gyfer cwmnïau a theatrau amrywiol er mwyn datblygu creadigaethau newydd, sydd wastad hanner ffordd rhwng celfyddyd olygfaol a dawns, gyda sylw arbennig i ddramäwriaeth.
Fel y Dyfarniad Dawns Genedlaethol ieuengaf yn Sbaen, mae ei iaith yn rhan o dreftadaeth, o symudiad haniaethol a theatr gorfforol, wedi’u cymysgu ynghyd mewn cyfuniad swrrealaidd a thywyll. Iaith corff rymus a seilir yn nifodiant unrhyw resymeg organig, gan ddadelfennu symudiad a’i wneud yn hunaniaeth unigryw.