Folu

Black Lives Still Matter: diweddariad

Mae wedi bod yn fis heriol i'r celfyddydau, yn llawn newid a gobaith posib. Er bod ein gweithlu yn llai, roeddem eisiau cysylltu â chi a'ch sicrhau ein bod yn dilyn camau ar gyfer gweithredu a newid.

Mae ein darn gwaith mwyaf wedi bod yn cryfhau'r uchelgais a amlinellwyd yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol; gallwch ei ddarllen yma. Mae'r cynllun yn amlinellu ein penderfyniad i leihau anghydraddoldeb yn ein sefydliad ac anghyfiawnder cymdeithasol mewn cymdeithas, ac mae'n gofyn am ein hymrwymiad parhaol i dorri rhwystrau.

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf rydym wedi ymgymryd â dysgu personol a strategol drwy lyfrau, hyfforddiant ac adnoddau newydd arbennig megis y Privilege Café, sy'n cael ei noddi gan nifer o'n staff.

Rydym yn creu mwy o gyfleoedd ar gyfer artistiaid Du a Lleiafrifoedd Ethnig, yn cynnwys tri phrosiect newydd ar gyfer artistiaid annibynnol sy'n gweithio gyda ni yn CDCCymru.

Rydym wedi cyfrannu arian at Dasglu Diwylliant a Hil Cymru i ymchwilio, herio a chynnig cyngor ar hil ar gyfer y sector Celfyddydau a Diwylliant yng Nghymru.

Rydym wedi noddi artistiaid Du a Lleiafrifoedd Ethnig i allu cynrychioli artistiaid dawns llawrydd yng Nghymru yn y Tasglu Llawrydd.

Yn yr hir dymor, byddwn yn archwilio sut allwn greu newid systemig sy'n para, gyda phartneriaid ac ymddiriedolwyr, drwy greu cyfleoedd newydd ar gyfer artistiaid a gweithwyr celfyddydau Du a Lleiafrifoedd Ethnig yn CDCCymru.

Nid ydym yn rhestru'r llwyddiannau hyn i geisio clod - dim ond gadael i chi wybod ein bod yn cymryd yr awenau o ran gweithredu, nid cynnig geiriau, ac yn eich gwahodd chi i wneud yr un peth