CDCCymru yn Cyflwyno
Teithio rhyngwladol
Gwybodaeth Gyffredinol
Mae CDCCymru yn cyflwyno cyfleoedd i’r cyhoedd brofi dawns gyfoes mewn gwahanol ffyrdd. Gallwn gynnig: gweithdai gydag ysgolion a grwpiau, perfformiadau ‘Darganfod Dawns’ ar gyfer ysgolion a sgyrsiau cyn /
ar ôl sioeau, a chyfleoedd i gynulleidfaoedd.
Rhowch wybod i ni os hoffech chi archebu unrhyw un o’r gweithgareddau ychwanegol o amgylch y perfformiadau.
Cwmni Teithiol: 16 o bobl yn cynnwys 10 dawnsiwr, Cyfarwyddwr
Artistig, Cyfarwyddwr Ymarfer, Cynhyrchydd a thechnegwyr.
Gall CDCCymru ddarparu’r holl offer goleuo, sain a llwyfan
os oes angen.
Lle: mae 12m x 11m yn ddelfrydol, o leiaf 10m x 9m ar gyfer
pob gwaith.
Cludiant: Rydym yn teithio gyda fan fawr (os yw llwybr ffordd yn bosibl) yn dibynnu ar faint o offer technegol y gellir ei ddarparu (yn dibynnu ar y repertoire).
Technegol: Mae CDCCymru yn teithio gyda desg oleuadau ETC GIO ac yn rheoli sain trwy Qlab ar gyfrifiadur Macbook Pro.