CDCCymru yn Cyflwyno
Shorts | Byrion
Dawns gyflym a chraff gan genhedlaeth newydd
Mae tri choreograffydd addawol yn llenwi'r llwyfan â drama, comedi dywyll a dylunio disglair, wedi'u trefnu i gyfuniad o gerddoriaeth newydd a chlasuron.
Dewch i gael eich swyno gan naws deimladwy a chynnes ‘Infinity Duet’, perfformiad sy'n plethu ynghyd dawns, cerfluniad, darluniad a sain gan y coreograffydd Faye Tan a'r artist Cecile Johnson Soliz.
Cysylltwch â thriawd o ddawnswyr cydamserol, gwirion ac aruchel sy'n cydsymud yn berffaith i gerddoriaeth The Police a Bjork.
Mae ‘UN3D’ gan Osian Meilir yn waith hyfryd i'w wylio ac a fydd yn eich gadael yn teimlo'n gwbl gytûn.
Chwerthwch lond eich bol gyda chomedi dywyll glyfar ‘Hang In There, Baby’ gan John-William Watson, wedi'i lleoli yng nghanol parti gwaith yn y Flwyddyn Newydd ac mae cyfres o benderfyniadau gwael yn arwain y gweithwyr i mewn i sefyllfa gynyddol swreal.
![two dancers in white costumes printed with charcoal line drawings bend backwards under a swinging sculpture made of twisted paper that hangs from the roof](/sites/default/files/2025-01/3_0.png)
Infinity Duet
gan Faye Tan and Cecile Johnson Soliz
"Ni all y cerflun osgoi ildio i ddisgyrchiant, na’u cyrff chwaith."
Mae dau berson yn mynd i'r afael â phwysau ac amser yn y ddeuawd deimladwy a chynnes hon sy'n plethu ynghyd dyluniad, cerfluniad, dawns a sain mewn cydweithrediad unigryw.
Creodd y coreograffydd Faye Tan a'r artist Cecile Johnson-Soliz y gwaith hwn ynghyd â'r dawnswyr. Gyda cherddoriaeth gan Richard McReynolds, gwisgoedd wedi'u printio â darluniau Cecile a cherflun mawr siglog sy'n hawlio'r sylw, mae'r gwaith hwn yn eich swyno.
Cyfansoddydd: Richard McReynolds
Dylunio Gwisgoedd: Cecile Johnson Soliz
Cynllynydd Goleuo: Will Lewis
![dancers in purple pyjama like costumes and glitter swim caps](/sites/default/files/2025-01/2.png)
UN3D
gan Osian Meilir
Cydamserol, gwirion ac aruchel - triawd o ddawnswyr yn cydsymud yn berffaith i gyfeiliant trac sain Bjork a The Police a ddaw â gwên i'r wyneb.
Yn cynnwys symudiadau a ysbrydolwyd gan nofio cydamserol, dawnsio llinell a siglo llyfn y Supremes.
Mae UN3D yn waith sy'n hyrwyddo cysylltiad dynol dros berffeithrwydd mesuredig.
Mae'r dawnswyr, mewn gwisgoedd sidan trawiadol, yn archwilio'r gwahaniaeth rhwng symud gyda'i gilydd a chytgord wrth iddynt anelu at undod a chydbwysedd.
Cerddoriaeth:
Synchronicity - The Police
Unison - Björk
Dylunio Gwisgoedd: Layla Zheng
Dysgu Mwy
![dancers dressed in office suits and party hats stand, sit and lie across a small square office set.](/sites/default/files/2025-01/1_0.png)
Hang in There, Baby
gan John-William Watson
“The you of today, but also tomorrow; somehow.”
Richard Life, Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Life & Stuff Incorporated
Mae 'Hang In There, Baby' yn archwilio'n perthynas â ffawd a gwneud penderfyniadau. Wedi'i lleoli yng nghanol parti gwaith yn y flwyddyn newydd, daw'r gomedi dywyll hon yn gynyddol swreal wrth i undonedd di-baid bywyd swyddfa chwalu'n 'hunllef bac-man-aidd'.
Gan gyfuno sgript ffuglen wyddonol, dylunio gwych a sgôr gwreiddiol gan Adam Vincent Clarke, mae'r ddawns hynod ddoniol ac annisgwyl hon yn eich annog i ddal eich tir, waeth beth fo'r canlyniadau.
Cyfansoddiad Gwreiddiol a Dylunio Sain: Adam Vincent Clarke
Set a Dylunio Gwisgoedd: John-William Watson & Joshua Cartmell