Groundwork Pro yn Cyflwyno

Scratch Groundwork

Dydd Sadwrn

10 Mehefin 2023

Mi fydd y digwyddiad yn ofod i hyd at 6 artist rannu gwaith sydd yn y cyfnod cyntaf o ddatblygu.

logo

Gwylio:

Dewch draw i Scratch Groundwork ar y 10fed o Fehefin, o 3-5yh!

Mi fydd 6 artist yn rannu gwaith newydd sydd ar gychwyn y cyfnod creu. Byddwch yn barod ar gyfer sgwrs ddifyr a lluniant ysgafn

Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim ond mae angen i chi gofrestru (mae’r gofod yn gyfyngiedig i 30)

Mi fydd cyfieithydd BSL ar gael i’r digwyddiad

welsh text on image, repeated below

Gwneud Cais

Beth yw’r digwyddiad

Mi fydd y digwyddiad yn ofod i hyd at 6 artist* rannu gwaith sydd yn y cyfnod cyntaf o ddatblygu.

Gall hwn fod yn waith unigol neu waith sydd yn cynnwys dawnswyr/cydweithwyr eraill.

  • Oes gennych syniad sydd wedi cael ychydig o amser i chwarae, ond dydych chi ddim yn siwr o le mae’n mynd, neu sut i’w ddatblygu?
  • Ydych chi’n pendroni sut gall gynulleidfaoedd ymgysylltu a’r gwaith?
  • A fyddech chi’n cael budd o glywed adborth gan eich cyfoedion creadigol?

Os ydych chi’n ateb ‘ie’ i rhai/rhein i gyd llenwch allan y mynegiant o ddiddordeb ar gyfer Scratch Groundwork. Mi fydd gennych slot o 5 munud i rannu’r gwaith a wedyn 10 munud o holi ac ateb i glywed adborth.

Mae’r digwyddiad yma yn cael ei gefnogi gan CDCCymru

*Mi fydd yr artistiaid yn cael eu dewis ar sail cyntaf i’r felyn.

 

Mi fydd artistiaid yn cael:

  • Help i ffeindio cyswllt i ofodau agored, megis Groundspace a CDCCymru, gofodau gwag i chwarae ac i siapio beth hoffech ddangos yn y noson Scratch
  • £150 i helpu dalu treuliau - ar gyfer artistiaid sydd yn teithio o tu allan i Gaerdydd mae yna gronfa arbennig i gefnogi eich taith
  • Adborth gan gynulleidfa gwahoddiedig

Caiff y dangosiad a’r sesiwn holi ac ateb ei ffilmio ac mae croeso i chi gael y deunydd ffilmio                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                       

Ar y diwrnod

  • Mi fydd amser yn y stiwdio theatr yn CDCCymru rhwng 1yh a 3yh i’r artistiaid
  • Mi fydd y seddi raked i lawr.
  • Ni fydd technoleg cryf ar gael, felly ni allwn newid y goleuo ayyb, mi fydd camera yna mewn sefyllfa sefydlog
  • Cyn y dydd mi fyddwn yn siapio sut hoffech gael eich adborth

Mi fydd cyfieithydd BSL ar gael ar gyfer y dangosiad

Gwneud Cais

Dates
Dydd Sadwrn 10 Mehefin 2023, 15:00
British sign language interpretation