yn Cyflwyno
Tŷ Agored Ymddiriedolwyr
4 – 16 Mehefin 2025
Tŷ Dawns a Ar-Lein
Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn dymuno recriwtio ymddiriedolwyr newydd – ymunwch â nhw am Dŷ Agored anffurfiol ym mis Mehefin – cewch gwrdd â’r Ymddiriedolwyr presennol a chael gwybod mwy am y cwmni a’r swydd.
-
Ymunwch â ni ar gyfer un o'n sesiynau Tŷ Agored anffurfiol, yn y Tŷ Dawns neu ar-lein lle byddwch chi'n cael y cyfle i gwrdd â'r Ymddiriedolwyr presennol ac aelodau tîm CDCCymru. Wedi'u cynnal gan Alison Thorne (Cadeirydd), mae'r sesiynau hyn yn ffordd wych o ddysgu mwy am ein cenhadaeth, ein gweledigaeth, a'r gwaith a wnawn fel sefydliad.
Byddwch hefyd yn darganfod beth mae'n ei olygu i fod yn Ymddiriedolwr gyda CDCCymru, y sgiliau a'r profiad rydym yn chwilio amdanynt mewn aelodau bwrdd newydd a chael y cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Sesiwn 1
Dydd Mercher 4 Mehefin (Bore)
Ar-lein 8.30am - 9.30am
Sesiwn 2
Dydd Llun 16 Mehefin 2025 (Gyda'r nos)
Tŷ Dawns, Bae Caerdydd 5-6pm
Os hoffech fynychu un o'r sesiynau Tŷ Agored, cofrestrwch am le ar ein gwefan trwy glicio yma.
Dewch yn Ymddiriedolwr ar gyfer @cdccymru ac ymunwch â bwrdd amrywiol sy’n ymroddedig i ysbrydoli pobl Cymru ac i sicrhau bod pawb yn cael cyfle cyfartal i gael mynediad i fyd dawns.
Ymwelwch â ndcwales.co.uk/ymddiriedolwr Mae’r pecyn yn egluro sut i gysylltu â’r Cadeirydd am sgyrsiau rhagarweiniol.