Marvin standing against the ocean

Systemau Cred: Fy Nghydweithrediad Artistig gyda'r Dawnsiwr a'r Cerddor, Ed Myhill

Gan Marvin Thompson

Yn y Dechreuad

Rwy'n fardd o deulu o Jamaica. Yn wreiddiol o Tottenham, Llundain, rwyf yn awr yn byw ymysg mynyddoedd de Cymru.

Ym mis Mehefin 2020, ysgrifennais fy ngherdd 'Triptych' fel ymateb i blac yn Aberhonddu yn ne Cymru. Mae'r plac, a ddadorchuddiwyd ym mis Hydref 2010, yn anrhydeddu'r masnachwr caethwasiaeth, Capten Thomas Philips. Roedd y gofeb gyhoeddus hon, sydd wedi'i chwalu ers hynny, yn sarhad ar y miliynau o bobl a oedd wedi dioddef ac a fu farw yn ystod y fasnach gaethwasiaeth drawsatlantig.

Ar ddechrau ein cydweithrediad Plethu/Weave, rhannais 'Triptych' (sydd hefyd yn tynnu sylw at fy nghredoau Cristnogol) gydag Ed Myhill, y cerddor a'r dawnsiwr a fy mhartner. Roeddwn yn nerfus. Beth pe bai Ed yn anghyfforddus gyda phynciau hil a hunaniaeth yr wyf yn aml yn ysgrifennu amdanynt? A oeddwn yn gallu ysgrifennu cerdd newydd ar gyfer ein cydweithrediad nad oedd yn adlewyrchu fy nymuniad i wneud Prydain yn lle mwy croesawgar i'm plant a'm llysblant Treftadaeth Ddeuol?

Anfonodd Ed, sydd o dreftadaeth Gwyn Prydeinig, e-bost ataf am 'Triptych'. Wrth ddarllen ychydig linellau cyntaf ei ohebiaeth, rwyf yn cydnabod fy rhagfarnau fy hun. Ni fyddwn wedi bod mor bryderus pe byddwn yn gweithio gydag artist lliw. Efallai fod gan artist o'r fath lliw croen tebyg i mi. Fodd bynnag, pwy sydd i ddweud y byddent wedi dymuno cynhyrchu celfyddyd sy'n canolbwyntio mor agos ar faterion hiliaeth?

Wrth i mi ddarllen e-bost Ed, dysgais iddo gael ei symud gan 'Triptych'. Yn wir, yn ei farn ef, roedd rhan 1, neges agored i Gyngor Tref Aberhonddu, yn hynod ingol. I ddyfynnu Ed: 'Rwyf wedi bod i Aberhonddu droeon ac nid oeddwn yn ymwybodol o'r [plac] hwn ac mae'n fy synnu'n rhannol ond nid yw'n fy synnu ychwaith, o ystyried y sawl achos tebyg ledled y DU.' Dewiswyd ein cerdd.

 

Sgyrsiau

Yn ystod un o'n cyfarfodydd Zoom cychwynnol, mynegodd Ed amheuon ynghylch gweithio gyda'n cerdd ddewisol. Fel person creadigol Gwyn, dyma'r tro cyntaf iddo ymgodymu â thema hiliaeth wladychol a'i etifeddiaeth. Roedd yn meddwl tybed ai ef oedd y person iawn ar gyfer y swydd. Cwestiwn allweddol Ed oedd, 'O ystyried grym emosiynol dy gerdd, pam ydw i'n dawnsio?' 

Mae cwestiwn Ed yn mynd at wraidd pam y cefais gymaint o bleser gweithio gydag ef. Mae'n ddawnsiwr a cherddwr meddylgar a dychmygus iawn a oedd yn gwbl ymwybodol y gallai ei gorff Gwyn fod yn broblem weledol pan gaiff ei osod ochr yn ochr â'm geiriau.

Yng nghyd-destun ffilm gyhoeddus, roeddem yn teimlo bod angen ymdrin â'r llinellau canlynol yn ofalus:

         

Dylwn i dderbyn hefyd roedd amserau’n wahanol yna a dylai tawelu fy nghorff, darllen llyfr capten i’m plant?

Bydd Voyage Journal yn ddefnyddiol i ddysgu mae ein hynafiaid wedi diflannu allan o’r stori; fy mhlant i,

mae nhw yn gallu dysgu ambyty fod yn picanninies,

heb enw ond Jim Cro yn ddiledus i Wilberforce.

 

Gwnaethom gytuno y dylai fy wyneb i ymddangos ar y sgrin i gyd-fynd â'r gair-n. Roedd Ed yn deall y rheol mai dim ond pobl Ddu, o dan bron pob amgylchiad, sy'n cael defnyddio'r gair-n. Gwnaethom hefyd drafod y niwed dwfn a achoswyd pan ddefnyddiodd gohebydd Gwyn y gair-n fel rhan o ddarllediad newyddion y BBC. Y peth olaf yr oeddem eisiau oedd i'n gwaith creadigol gael ei fwrw i'r cysgod gan ddadlau.

Dylid nodi, yn ystod camau olaf ôl-gynhyrchu, fod Llenyddiaeth Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu ychwanegu rhybudd cynnwys at ein fideo. Cytunodd Ed a minnau fod hyn yn briodol.

 

 

Ffilmio a Ffurfio

Roedd fideo cychwynnol Ed o'i ddawns/symudiad mewn cae ŷd a'i ailgymysgedd sain o'm cerdd yn ysbrydoledig. Roedd ei gysyniad o ddawns yn aml yn ymateb i iaith, yn hytrach na cherddoriaeth, yn agoriad llygad. Cefais fy ysbrydoli hefyd gan ddewis Ed o'r lleoliad ffilmio. Roedd y cae ŷd yn drosiad gweledol ar gyfer caeau cansen siwgr a chotwm planhigfeydd Caribïaidd ac Americanaidd. Roedd fy nghred yn ein gweledigaeth artistig yn fy ngwthio i uchelfannau newydd o greadigrwydd.

Gan fod 'Triptych' yn gerdd sestina, ailadroddir rhai geiriau drwy gydol y testun. Un o'r geiriau ailadroddus hyn yw 'sea'. O ganlyniad, recordiais fy ffilm yn y môr yn Dawlish Warren. Atgyfnerthodd y tonnau fy mherthynas â chynnwys emosiynol fy ngherdd.

O wybod bod golygu ffilmiau yn broses greadigol lle mae syniadau newydd yn ffynnu, rhoddais y rhyddid i mi fy hun archwilio ochr ymholgar fy natur. Symudodd rhywbeth yn neges y gerdd i mi orchuddio fy nghorff mewn tywod gwlyb. Mwd. Roedd yn ymwneud llai â'r dyfyniad, ‘a mouth drying to mud' ond yn ymwneud mwy â thrawsnewid fy hun yn rhywbeth nad oedd bellach yn cael ei ystyried yn ddynol. Bwystfil. Caethwas.

 

 

Golygu

Roedd fy nghred yn newisiadau creadigol Ed yn golygu fy mod yn hapus iddo olygu ein ffilm heb fawr o fewnbwn gen i. Mae'r golygiad terfynol yn amlygu sensitifrwydd Ed i natur gymhleth y themâu a archwiliwyd gennym.

Er enghraifft, yn y ffilm, mae fy adroddiant o'r gair 'slave' wedi'i gyplysu â saethiad o Ed wedi plygu i lawr gyda'i freichiau ar led. Yma, mae ei gorff Gwyn yn ein hatgoffa mai dim ond un amlygiad o gaethwasiaeth yw'r fasnach gaethwasiaeth drawsatlantig. Efallai mai dyma'r enwocaf oherwydd ei natur ddiwydiannol a'i hetifeddiaeth sy'n bodoli yn hiliaeth gwrth-Ddu heddiw. Fodd bynnag, drwy gydol hanes, mae pobl o bob lliw croen wedi bod yn destun caethiwo.

At hynny, fel atodiad gweledol â'm hadroddiant o'r gair-n, dewisodd Ed saethiad ongl isel o'm brest i fyny. Mae'r saethiad hwn yn lliwio fy nghorff Du gyda phŵer. Yn yr olygfa hon, rwyf hefyd yn gwisgo crys-t Du (yn hytrach na brest foel a welir mewn rhannau eraill o'r fideo). Mae'r elfennau gweledol hyn yn ymhelaethu grym person Du'n defnyddio'r gair-n i herio erchyllterau gwladychol Prydain yn y gorffennol. Yn y sefyllfa benodol hon, credaf fod Ed a minnau wedi trawsnewid y gair-n i fod yn air sy'n herio.

At hynny, mae ein dewis o dirweddau naturiol ac amaethyddol yn gwahodd gwylwyr i fynd i'r afael â'r thema dinistrio ecolegol. Mae ffocws pobl ar yr amgylchedd fel adnodd economaidd yn adlewyrchu ein triniaeth o bobl a ddilynodd. Yn y ddau achos, anwybyddir dimensiynau ysbrydol bodolaeth dynol o blaid elw. Rheolau gofidus.

 

Cydbwysedd

Thema gyffredinol y prosiect Plethu/Weave yw harmoni. Mae'r fideo y mae Ed a minnau wedi'i greu yn ymgorffori'r cysyniad hwn: bardd Du a dawnsiwr a cherddor Gwyn yn gweithio mewn cytgord artistig. Mae'n anrhydedd imi fod wedi cydweithio â rhywun a oedd yn awyddus i gymryd risgiau artistig.

Mewn e-bost, ysgrifennodd, 'Rwy'n teimlo bod gan y [ffilm] bwrpas go iawn ac rwy'n credu yn yr hyn rydym wedi'i wneud! Diolch!'

 

Ed, diolch.