group images of people gathered to talk

Amser i Siarad

Mae Diwrnod Amser i Siarad ddydd Iau 4 Chwefror - rhan o ymrwymiad newydd ledled Cymru, sy'n newid y ffordd rydym yn meddwl am iechyd meddwl.
Mae 1 ym mhob 4 ohonom yn profi iechyd meddwl gwael ambell flwyddyn - heb sôn am y flwyddyn hon!
 
Gwyddom, o brofiad, fod siarad amdano yn gallu gwneud gwahaniaeth.

Os ydych angen help, siaradwch gyda ffrind, aelod o'r teulu, cydweithiwr yn y gwaith, neu edrychwch ar y grwpiau, adnoddau a dolenni gwych hyn – mae croeso i chi gysylltu:

 

Y Celfyddydau

Mae Freelancers Make Theatre wedi llunio rhestr wych o adnoddau am ddim a chost isel
https://freelancersmaketheatrework.com/wellbeing/

Mae gan Cult Cymru hyfforddiant gwych ar y gweill ar Gymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a Rheoli Straen.
https://cult.cymru/en/hyfforddi-digwyddiadau-training-events/

Platform

Gwefan: https://platfform.org/

Mae Platform yn gweithio gyda phobl sy'n profi heriau gyda'u hiechyd meddwl, ac o fewn cymunedau sydd eisiau creu ymdeimlad gwell o gysylltu, meddiant a llesiant yn y llefydd maent yn byw.

 


I'r sector Dawns:

Rhestr wych o sefydliadau iechyd a llesiant i ddawnswyr gan People Dancing https://www.communitydance.org.uk/useful-contacts-and-links/dance-health-and-wellbeing

Gweminarau iechyd meddwl ar-lein am ddim gan One Dance UK https://www.onedanceuk.org/programme/healthier-dancer-programme/health-events-conferences/

Cymorth clinigol iechyd meddwl i ddawnswyr

https://www.nidms.co.uk/mental-health

https://www.baatn.org.uk/

 

 

Iechyd Meddwl yn y gweithle
 

CIPD
Gwefan: https://www.cipd.co.uk/knowledge/culture/well-being 

 

Iechyd Meddwl yn y Gwaith -
Gwefan: https://www.mentalhealthatwork.org.uk/ 

Mae'r ddau'n cynnig gwybodaeth i gyflogwyr a staff ar iechyd meddwl yn y gwaith, ac wrth weithio gartref.


 

Os ydych angen siarad â rhywun yng Nghymru:

The Mix
Ffôn: 0808 808 4994

Neges Destun: 85258
Gwefan: http://themix.org.uk/
E-bost: https://www.themix.org.uk/get-support/speak-to-our-team/email-us

Gwasanaeth cefnogi yw The Mix ar gyfer unigolion dan 25 oed, sydd ar gael 365 diwrnod y flwyddyn. Maent yna i'ch help chi wynebu unrhyw heriau o'ch blaen - o iechyd meddwl i arian, o ddigartrefedd i ddod o hyd i swydd, o berthnasau'n chwalu i gyffuriau.

Gallwch siarad â nhw dros y ffôn, drwy e-bost, sgwrs ar-lein, a llinell neges destun argyfwng. Gallant hefyd eich helpu chi i gefnogi gwasanaethau yn eich ardal leol.

Heads above the Waves

Gwefan: https://hatw.co.uk/ 
Sefydliad nid er elw wedi'i leoli yng Nghaerdydd, sy'n codi ymwybyddiaeth am hunan-niweidio ac iselder mewn pobl ifanc.

Y Samariaid

Ffôn: 08457 90 90 90 (24 awr y dydd)
E-bost 
jo@samaritans.org
Gwefan www.samaritans.org

Darparu cefnogaeth emosiynol, anfeirniadol i bobl sy'n profi teimladau o drallod neu anobaith, gan gynnwys y rheiny sy'n arwain at hunanladdiad. Gallwch eu ffonio, e-bostio, ysgrifennu llythyr, neu yn y rhan fwyaf o achosion, siarad â rhywun wyneb yn wyneb.

CALL (Llinell Wrando a Chyngor Cymunedol):

Ffôn 0800 132 737
Gwefan:
www.callhelpline.org.uk

Cynnig cymorth emosiynol a gwybodaeth/llenyddiaeth ar Iechyd Meddwl a materion cysylltiedig i bobl yng Nghymru. Gall unrhyw un sy'n pryderu am eu hiechyd meddwl eu hunain, perthynas neu ffrind, ddefnyddio'r gwasanaeth. Mae Llinell Gymorth C.A.L.L. yn cynnig gwasanaeth gwrando a chefnogi cyfrinachol.

 

GIG Galw Iechyd Cymru

Ffôn 0845 4647
Gwefan
www.nhsdirect.wales.nhs.uk

Cyngor iechyd ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

neu

GIG One You -

Gwefan: https://www.nhs.uk/oneyou/ 

Cynnig cynllun personol gyda syniadau syml i wella iechyd meddwl.

 

Meic Cymru

Ffôn: 0808 80 23456 (8am – hanner nos, saith diwrnod yr wythnos)
Neges Destun: 84001
Gwefan:
www.meiccymru.org

Mae Meic yn wasanaeth llinell gymorth gyfrinachol ac am ddim i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Gallwch ffonio, anfon neges destun neu neges uniongyrchol iddynt yn Gymraeg neu Saesneg i gael cymorth, cyngor a gwybodaeth.

Llinell Wybodaeth Mind

Ffôn: 0300 123 3393 (9am-5pm Dydd Llun i Gwener)
E-bost
info@mind.org.uk
Gwefan www.mind.org.uk

Mae Mind yn darparu gwasanaethau gwybodaeth iechyd meddwl cyfrinachol. Mae Mind yn galluogi pobl i wneud dewisiadau gwybodus gyda chymorth a dealltwriaeth. Hefyd, mae gan Mind rwydwaith o bron i 200 o asiantaethau Mind lleol sy'n darparu gwasanaethau lleol.

Saneline

Ffôn 0845 767 8000 (6pm-11pm)
Gwefan
www.sane.org.uk

Mae Saneline yn llinell gymorth cenedlaethol sy'n darparu gwybodaeth a chymorth i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl, a'r rheiny sy'n eu cefnogi nhw. 

Childline

Ffôn: 0800 1111
Gwefan:
www.childline.org.uk

Mae Childline yn wasanaeth cyfrinachol am ddim sydd ar gael i unrhyw un dan 19 oed yn y DU. Boed yn rhywbeth bach neu fawr, maent wedi'u hyfforddi i'ch cefnogi chi ar unrhyw adeg, ddydd neu nos.