Fearghus directing a group in a huddle on a rugby pitch
CDCCymru yn Cyflwyno

Rygbi

gan Fearghus Ó Conchúir

Mae rygbi yn gêm sy'n cysylltu gwahanol gymunedau ar draws y wlad ac mewn arena ryngwladol lle mae cyrff Cymreig yn perfformio gyda grym, angerdd a sgil.

Mae ein prosiect newydd, Rygbi, yn cysylltu arbenigedd CDCCymru mewn dawns ag arbenigedd y genedl mewn rygbi ac yn dathlu timau sy'n cydweithio i gyflawni gobeithion a breuddwydion cymunedau drwy berfformiadau ymroddedig ar lwyfan ac ar y cae chwarae. Mae hefyd yn defnyddio dawns i ddangos cryfder a phrydferthwch y cymunedau sy'n eu cefnogi.

Tîm Creadigol

Coreograffydd : Fearghus Ó Conchúir and performers

Cyfansoddwr : Tic Ashfield

Dylunydd Gwisgoedd : Carl Davies

Goruchwyliwr Gwisgoedd : Angharad Griffin

Coreograffwr

Fearghus Ó Conchúir

Fearghus Ó Conchúir directing headshot
rugby huddle with blue sky

Bydd prosiect Rygbi yn cynnwys:

  • Gweithdai, sgyrsiau, cymdeithasu, chwarae a dawnsio gyda chlybiau rygbi amrywiol a'u cymunedau cefnogol, i fynd at galon y gamp a phawb sy'n cymryd rhan.
  • Amrywiaeth o waith cyfranogi ar gael ar gyfer pob oedran sy'n cysylltu'r angerdd am rygbi gyda llawenydd dawns
  • Cyfres o berfformiadau byw ar gyfer lleoliadau dan do neu yn yr awyr agored ac ar gyfer lleoliadau o wahanol feintiau – rhai gyda dawnswyr proffesiynol CDCCymru, rhai gydag arbenigwyr symud a selogion eraill.

Bydd Rygbi yn cael ei berfformio mewn fformatau amrywiol drwy gydol y blynyddoedd nesaf gan gynnwys: 

Yn yr awyr agored yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2019 - Rygbi: Annwyl i Mi / Dear to Me

Yn Japan i gyd-fynd â Chwpan Rygbi'r Byd 2019 - Rygbi: Annwyl i Mi/Dear to Me

Fel rhan o Roots 2019 mewn lleoliadau gwledig bach - Rygbi: Annwyl/Dear

Fel rhan o'n taith wanwyn 2020 i leoliadau mwy o faint  - Rygbi: Yma/Here