Jack Philp Dance yn Cyflwyno

Into the Novacene

1 – 2 Mawrth 2024

1-2 Mawrth 2024 7.30yh

Yn drawiadol yn weledol, yn gyflym ac yn edrych i'r dyfodol. Mae Into the Novacene yn waith dawns cyfoes am ddechreuadau oes newydd a byd newydd.

Yn drawiadol yn weledol, yn gyflym ac yn edrych i'r dyfodol. Mae Into the Novacene yn waith dawns cyfoes am ddechreuadau oes newydd a byd newydd.

Wedi’i greu gyda chast eithriadol o 6 pherfformiwr a’i ysbrydoli gan ymchwil a llenyddiaeth a ysgrifennwyd gan y peiriannydd a’r gwyddonydd James Lovelock, mae’r gwaith yn mynd â ni ar daith i ddyfodol.

Wedi’i osod yn erbyn cefndir o gydfodolaeth rhwng natur, dynoliaeth a thechnoleg ddigidol yn cyd-fyw fel un system, mae’r coreograffi’n cyfleu’r teimladau organig hynny ym mhwll y galon, mae’n chwarae ar ymdeimlad o chwilfrydedd, o gyfarfod, o gymuned ac o undod, yn ogystal â dathlu manylrwydd brwd ac osgo rhywbeth o’r dyfodol.

Yma, rydyn ni'n cerdded tua'r dyfodol gyda'r gred bod yn rhaid iddo fod yn wych, a bod yn rhaid iddo fod yn epig.

Cwmni dawns gyfoes yw Jack Philp Dance sy’n creu gwaith dawns corfforol gyda chydweithrediad wrth ei wraidd.

Wedi’i leoli yng Nghymru, mae’r cwmni wedi mynd â dawns sydd wedi’i hysbrydoli gan wyddoniaeth a thechnoleg ar daith ers 2018. Fel cwmni, rydym eisiau annog a gwefreiddio cynulleidfaoedd ynghylch y byd o’n cwmpas a rhannu ein rhyfeddod a’n brwdfrydedd am ymchwil a thechnolegau digidol. Mae Jack Philp Dance wedi creu gwaith, sydd wedi’i gyfarwyddo gan Jack Philp, ar gyfer y llwyfan, sgrin ac arddangosiadau digidol, gartref yn y DU ac Ewrop, gan weithio ochr yn ochr â rhwydwaith cydweithredol eang o artistiaid, dylunwyr, technolegwyr a gwyddonwyr.

instagram logo linkfacebook logox icon

Dates
Dydd Gwener 1 Mawrth 2024, 19:30
Dydd Sadwrn 2 Mawrth 2024, 19:30