New short film featuring Dance for Parkinson's across the UK
Bu ein dosbarth Dawns ar gyfer Parkinson’s yng Nghaerdydd yn cymryd rhan mewn prosiect ffilm fer a gynhaliwyd ledled y DU gan English National Ballet, y mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â nhw i gynnal y dosbarthiadau yn y brifddinas. Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru hefyd yn cynnal canolfannau Dawns ar gyfer Parkinson’s ym Mangor a Wrecsam yng Ngogledd Cymru.
Mae “Morning Rhapsody” yn ffilm ddawns wreiddiol sy’n serennu #DawnsArGyferParkinsons o’n hybiau partner yn Lerpwl, Rhydychen, Caerdydd, Ipswich, Gorllewin Llundain, Dwyrain Llundain a’n rhaglen ar-lein genedlaethol. Mae’r dathliad llon hwn o ddawns, cerddoriaeth a chymuned yn dangos y ffyrdd y mae mynegiant creadigol yn meithrin llesiant a chysylltiad.
Ffilm gan Peter Snell, gyda cherddoriaeth wedi’i chyfansoddi gan Charlotte Harding.
Bu cyfranogwyr yng nghanolfannau Dawns ar gyfer Parkinson’s ENB ledled y DU yn cymryd rhan mewn sesiynau i ddysgu’r coreograffi ar gyfer y ffilm fer newydd hon, “Morning Rhapsody” a gafodd ei ffilmio mewn canolfannau yn Lerpwl, Rhydychen, Caerdydd, Ipswich a Llundain, a’i olygu i greu ffilm fer yn dangos dathliad llawen o’r rhaglen Dawns ar gyfer Parkinson’s a’i fuddion.
Gall y rhai sydd â diddordeb mewn ymuno â dosbarthiadau ledled y DU glicio yma.
Neu, ar gyfer dosbarthiadau yng Nghymru yng Nghaerdydd, Bangor neu Wrecsam, cliciwch yma.