Dance Passion 2022 yn rhoi sylw i waith newydd CDCCymru
Mae rhan fer o Ludo, dawns newydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, sy’n ddoniol, yn dywyll, ac yn llawn egni ac sy’n ymwneud â phwysigrwydd chwarae gan Caroline Finn, ar gael ar BBC iPlayer.
Cafodd Ludo ei ffilmio yng nghartref y Cwmni yn y Tŷ Dawns yng Nghanolfan Mileniwm Cymru fel rhan o Dance Passion 2022, sy’n ddathliad cenedlaethol o ddawns wedi’i gyflwyno drwy gydol mis Chwefror a mis Mawrth gan BBC Arts ac One Dance UK.
Mae CDCCymru yn ymuno â chwmnïoedd fel The Royal Ballet, Ballet Black, Motionhouse, Rambert, Tap Attack, Vidya Patel, Birmingham Royal Ballet, Akram Khan, Candoco Dance Company, Simple Cypher a mwy mewn cyfres o raglenni awr o hyd o bedwar hwb ledled y DU.
Gallwch wylio Ludo ar BBC iPlayer nawr fel rhan o raglen uchafbwyntiau Dance Passion, a gafodd ei darlledu ar BBC4, neu mae hefyd i’w gweld fel rhan o raglen awr o hyd o’r hwb yn Warwick Arts Centre o 29 Mawrth.
Darn arall o Gymru sydd hefyd wedi’i gynnwys yw Heart Land, wedi’i greu gan Richard Chappel Dance ac Amser/Time gan Light/ Ladd/Emberton mewn cydweithrediad â Culture Colony, dau ddarn mewn cyfres o ffilmiau byr wedi’u comisiynu’n benodol ar gyfer galwad agored Dance Passion gan BBC Arts ac One Dance UK.
Mae'r fersiwn lawn o Ludo yn rhan o driawd o berfformiadau a fydd yn mynd ar daith ledled Cymru a Lloegr rhwng 3 Mawrth - 16 Mai. Mae taith Law yn Llaw CDCCymru hefyd yn cynnwys Codi gan Anthony Matsena, coreograffydd a gafodd ei eni yn Simbabwe a’i fagu yng Nghymru, a’r perfformiad cyntaf erioed o Wild Thoughts gan Andrea Costanzo Martini.