Dance for Parkinson's ballet pose

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ac English National Ballet yn lansio dosbarthiadau Dawnsio ar gyfer Parkinson’s newydd yn Sefydliad Glowyr y Coed Duon ym mis Tachwedd.

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ac English National Ballet yn lansio dosbarthiadau Dawnsio ar gyfer Parkinson’s newydd yn Sefydliad Glowyr y Coed Duon ym mis Tachwedd.

Yn dilyn rhaglen 2 flynedd lwyddiannus yng Nghaerdydd, mae English National Ballet a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn datblygu ei rhaglen Dawnsio ar gyfer Parkinson’s arloesol law-yn-llaw â Datblygu Celfyddydol Caerffili.

Bydd y dosbarth Dawnsio ar gyfer Parkinson’s yn cael ei arwain gan Gydymaith Artistiaid English National Ballet Yvette Wilson a Helen Woods a bydd y dosbarthiadau yn galluogi mwy o bobl i fedru cyrchu’r rhaglen bwysig a chynyddol boblogaidd hon. 

Mae Dawnsio ar gyfer Parkinson’s yn dod â chyfle unigryw i bobl fedru bod yn rhan o ddosbarthiadau dawns o safon uchel, a medru archwilio themâu, a cherddoriaeth o fewn dawns yn seiliedig ar arddulliau artistig English National Ballet a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.


Dywedodd Roger a fu’n rhan o ddosbarth yng Nghaerdydd, “Rwyf wedi gweld pobl yn codi o gadair olwyn a cherdded ar hyd ystafell o ben i ben fwy nag unwaith, er yn amlwg ddim bob tro.  Dyma’r unig sesiwn ffisio nad yw fy ngwraig eisiau ei golli – gyda’r lleill mae’n brin o frwdfrydedd, ond gyda’r rhain wnaiff hi ddim eu colli ar ei chrogi”.

Mae gwahoddiad i ofalwyr, cyfeillion ac aelodau o’r teulu i gymryd rhan, sy’n rhoi manteision iechyd corfforol a meddyliol amlwg yn ogystal â darparu cyfle i gael cyswllt cymdeithasol gyda phobl o’r un anian, ac yn anad dim arall, i gael hwyl mewn dosbarth hwyliog creadigol sy’n addas i bawb.
 

Mae dosbarthiadau yn costio £3.50 gyda lluniaeth ysgafn ar gael ar ddiwedd y dosbarth. Cynhelir y sesiwn gyntaf ar 1 Tachwedd a bydd honno yn sesiwn flasu rhad ac am ddim yn Sefydliad Glowyr y Coed Duon, 10am – 12noon ar gyfer pawb, yn ofalwyr, teuluoedd, cyfeillion ac unrhyw un arall sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli yn y rhaglen. Bydd y sesiynau Dawnsio ar gyfer Parkinson’s yn parhau tan 13eg Rhagfyr.

 

Am ragor o wybodaeth ynteu er mwyn archebu lle ar y rhaglen cysylltwch â Sarah Chew trwy ffonio 029 2063 5600 ynteu e-bostiwch sarah@ndcwales.co.uk . Am ragor o wybodaeth ynghylch Dawnsio ar gyfer Parkinson’s yn y Tŷ Dawns, Bae Caerdydd cysylltwch gyda Sarah Chew os gwelwch yn dda.

Cefnogir Dawnsio ar gyfer Parkinson’s yn y Coed Duon gan Gronfa Fawr y Loteri, Cymru a’r Hodge Foundation