Mae Bywydau Du o Bwys: FLWYDDYN YN DDIWEDDARACH
Ar 25 Mai, blwyddyn ers llofruddiaeth George Floyd, roeddem eisiau eich diweddaru ar y camau yr ydym yn eu cymryd tuag at newid.
Rydym wedi cryfhau ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol, y gallwch ei ddarllen yma. Mae'r cynllun yn amlinellu ein penderfyniad i leihau anghydraddoldeb yn ein sefydliad.
Un o'n prif nodau yw amrywio’r bobl sy'n gweithio gyda ni ac i ni, ac felly rydym ni'n gwneud newid:
- creu cyfleoedd i bobl sy'n profi hiliaeth yn ein cymdeithas, gan gynnwys i artistiaid a gweithwyr y celfyddydau i greu gwaith gyda CDCCymru.
- amrywio’r bobl sy'n eistedd ar ein bwrdd ymddiriedolwyr.
- creu rhaglen arweinyddiaeth amrywiaeth gyda chwmnïau cenedlaethol eraill.
Rydym hefyd wedi ymuno â rhaglen i hyrwyddo gwrth-hiliaeth mewn dawns gyfoes, wedi gwneud hyfforddiant rhagfarn anymwybodol, ac wedi noddi artistiaid sy'n amrywiol o ran ethnigrwydd a diwylliant i fod yn rhan o'r Tasglu Llawrydd.
Ond....megis dechrau yw hyn. Mae yna lawer mwy i'w wneud, gennym ni, a chan eraill, yn gweithio gyda'n gilydd. Rydym yn parhau i chwilio am ffyrdd i greu newid ar gyfer dawns ac i Gymru, i sicrhau cymdeithas fwy cyfiawn ac i newid am byth pwy ydym ni, gyda phwy rydym ni'n gweithio â nhw a phwy all fwynhau ein gwaith a bod yn rhan ohono.