
Let's Dance!
2 Mawrth 2025
Rydym wrth ein boddau ein bod yn cymryd rhan yn y diwrnod Let’s Dance ar 2 Mawrth 2025.
Byddwn yn cynnal sesiwn Dawns ar gyfer Parkinson’s arbennig gan gysylltu â hybiau ledled y wlad, a bydd sesiwn flasu ar gyfer ein hyfforddiant Aelodau Cyswllt Ifanc ar gyfer oedrannau 13-18.

Mae Let’s Dance yn fudiad cenedl gyfan o sefydliadau dawns, elusennau, gweithwyr iechyd proffesiynol, grwpiau cymunedol ac enwogion a fydd yn dod ynghyd ar 2 Mawrth 2025. Gydag un nod yn unig - i annog mwy o bobl i ddawnsio.
Nod Let's Dance yw:
- Codi ymwybyddiaeth o fuddion dawns, ar gyfer eich iechyd meddyliol a chorfforol.
- Gwneud ymuno a dod o hyd i weithgaredd dawns addas yn haws i bobl, waeth beth yw eu hoedran, profiad neu lefel eu ffitrwydd.
- Dod â phobl o bob lliw a llun ynghyd i greu cysylltiadau drwy ddawns.
Yn y bôn, rydym eisiau i bobl fod yn heini, cysylltu a chael hwyl. Let's dance!
Let's Dance! Gyda Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
11am – 1pm: Ymunwch â ni ar 2 Mawrth ar gyfer sesiwn Dawns ar gyfer Parkinson’s. Mae dosbarthiadau yn greadigol ac yn hyrwyddo teimladau o ryddid rhag cyfyngiadau corfforol a chymdeithasol Parkinson’s.
1.30-3.30pm: Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn flasu Cysylltiadau Ifanc.
Mae lleoedd am ddim ond maent yn brin - cofrestrwch isod.

Ymunwch â ni ar 2 Mawrth ar gyfer sesiwn Dawns ar gyfer Parkinson’s arbennig ar ddiwrnod Let’s Dance!
Bydd hybiau Dawns ar gyfer Parkinson’s English National Ballet (fel ni) o bob cwr o'r wlad yn cynnal dosbarthiadau ar yr un pryd ar hyd a lled y genedl, cyn ymuno â’i gilydd i gyd-ddawnsio ar zoom.
Gall dawnsio helpu pobl i symud yn rhwyddach, gall ddatblygu sadrwydd osgo’r corff, asgwrn cefn mwy ystwyth, ynghyd â gwella balans, tra bo’r defnydd o rythm a llais yn gallu helpu gyda chiwiau symud a mynegiant.
11yb: Ymunwch â ni am ddosbarth Dawns ar gyfer Parkinson's AM DDIM, p’un a ydych yn fynychwr rheolaidd yn y sesiynau neu eisiau rhoi cynnig arni - mae'r sesiwn hon yn agored i bawb sy’n byw gyda Parkinson’s a’u teulu a ffrindiau.
12-12:20yp: - Byddwn yn ymuno ag English National Ballet ar-lein, lle bydd eu harbenigwyr yn addysgu darn o ddawns dathliadol i'w ddawnsio gyda’n gilydd
12.20-12:30yp: - Byddwn yn ymuno â dosbarthiadau Dawns ar gyfer Parkinson’s eraill ledled y DU ac yn perfformio gyda’n gilydd drwy zoom.
12.30-1yp: Te, bisgedi a sgwrs
Fel ym mhob sesiwn Dawns ar gyfer Parkinson’s, mae croeso i gyfranogwyr gyflawni rhan o’r sesiwn, neu’r sesiwn gyfan, yn ddibynnol ar ba mor gyfforddus ydynt, a gellir cyflawni’r holl symudiadau wrth eistedd neu sefyll, a byddant yn cael eu haddasu ar gyfer eich gallu.

Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn flasu Cysylltiadau Ifanc ar 2 Mawrth ar gyfer Diwrnod Let’s Dance, digwyddiad ledled y wlad yn dathlu’r pethau gwych y gall dawns eu gwneud i ni.
Ddawnswyr 12-18 oed Caerdydd, cysylltwch!
Profwch ddosbarth dawns modern a sesiwn greadigol yn ein stiwdios hyfryd ym Mae Caerdydd, wedi’u haddysgu gan y dawnsiwr proffesiynol Camille Giraudeau.
Mae’r sesiwn hon yn ddelfrydol ar gyfer dawnswyr ifanc sydd eisiau rhoi cynnig ar ddawns fodern, neu’r rheiny sydd â diddordeb mewn gwneud cais ar gyfer ein rhaglen Aelodau Cyswllt Ifanc y flwyddyn nesaf.
Mae lleoedd am ddim ond maent yn brin - cofrestrwch gan ddefnyddio’r ffurflen isod.
Dysgu Mwy i Aelodau Cyswllt Ifanc
Ymweld â Ni
Tŷ Dawns
Canolfan Mileniwm Cymru,
Stryd Pen y Pier,
Bae Caerdydd,
CF10 4PH
Ymweld â ni
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i'r Tŷ Dawns.
Mae mynedfa y Tŷ Dawns yng nghefn Canolfan Mileniwm Cymru, gyferbyn â Swyddfeydd Llywodraeth Cymru (Tŷ Hywel). Mae oddeutu 2-3 munud ar droed o du blaen y Ganolfan.
Mae drysau yn y Tŷ Dawns yn agor 20 munud cyn amser cychwyn y sioe. Oherwydd natur glos y Tŷ Dawns, ni fydd y rhai sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael eu gadael i mewn mwy na 15 munud ar ôl dechrau'r perfformiad.
Mae digon o luniaeth ar gael yng Nghanolfan Mileniwm Cymru neu mewn sawl lle ym Mae Caerdydd.
Mae croeso i chi gysylltu â ni os ydych yn newydd i'r ardal ac yr hoffech wybod mwy!
Lle rydym ni
Rydym yn sefydliad preswyl yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ynghyd ag Opera Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Cymru y BBC, Touch Trust, Tŷ Cerdd, Llenyddiaeth Cymru, Hijinx a’r Urdd. Mae'r Ganolfan yn ganolbwynt creadigol lle rydym yn creu gwaith unigol ac yn cydweithio ac yn bartneriaid ar ddarnau eraill o waith.
Mae mynedfa y Tŷ Dawns yng nghefn Canolfan Mileniwm Cymru, gyferbyn â swyddfeydd Llywodraeth Cymru (Tŷ Hywel). Mae oddeutu 2-3 munud ar droed o du blaen y Ganolfan.
Gallwch ein cyrraedd mewn car, ar drên, beic neu fws. Mae gwasanaethau bws yn stopio y tu allan i Ganolfan y Mileniwm ac mae yna le i chi gadw eich beiciau wrth y drysau i'r Tŷ Dawns. Os ydych yn gyrru, mae gan Fae Caerdydd nifer o gyfleusterau parcio. Mae Q-Park Bae Caerdydd gyferbyn â Chanolfan Mileniwm Cymru ar Stryd Pierhead ac mae ar agor 24 awr y dydd, defnyddiwch CF10 4PH i wneud eich ffordd i'r cyfeiriad cywir. Am unrhyw wybodaeth arall ynglŷn â thrafnidiaeth, parcio anabl neu fynediad ewch i wefan Canolfan Mileniwm Cymru yma