Dancer Camille in her own garden mid dancing, doing a standing splits

Keeping Fit and mentally active during lockdown

Cadw'n heini a chadw’r ymennydd yn effro yn ystod y cloi mawr

Mae ymarfer corff cyfyngedig a chael eu datgysylltu o'r stiwdio yn her i'n tîm. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae'n dawnswyr wedi ceisio cadw cysylltiad drwy ddosbarthiadau ar-lein, ymarferion a pherfformiad o'n ffrwd fyw o 2067: Time and Time and Time gan Alexandra Waierstall; creu cynnwys ar gyfer ein rhaglen ddigidol ar-lein newydd, KiN:Connected, yn ogystal â chymryd rhan yn nosbarth y cwmni gyda rhaglen 'Culture in Quarantine' y BBC.

Ychydig wythnosau'n ôl, rhannodd dawnswraig o'n cwmni, Camille Giraudeau, rai o'r pethau mae hi wedi bod yn eu gwneud er mwyn cadw'n weithgar gyda'r Telegraph. Yn ogystal â gwneud ymarferion bar ac ioga, mae hi hefyd wedi cael ysbrydoliaeth i ymgymryd â rhediadau 5k.

Hefyd, bu'n siarad â'r Telegraph am ail-greu 2067: Time and Time and Time again  gan Alexandra Waierstall o'i hystafell fyw, tra'r ymunodd ei chydweithwyr o ynysiad eu cartrefi hefyd. Dywedodd wrth Mark Monahan o'r Telegraph, "Roedd y profiad fel byw atgof, cael blas o'r hyn yr oeddem yn arfer ei wneud, i ddathlu'r ffaith ein bod yn gallu gwneud rhywbeth, a dal i gysylltu gyda'n cynulleidfa."

Gallwch ddarllen yr ethrygl 'Staying Fit in Lockdown' yn llawn ar wefan y Telegraph (nodwch os gwelwch yn dda y bydd angen i chi fod wedi mewngofnodi neu ar gyfrif rhad ac am ddim er mwyn darllen yr erthygl yn llawn).

Gallwch wylio 2067: Time and Time and Time yma tan Mehefin 14.