Ewch am ddawns i'r Clwb Rygbi CDCCymru yn dod â chlwb rygbi rhithiol ynghyd ar-lein
Wrth i Glybiau Rygbi a theatrau ledled Cymru aros hyd nes y gallant agor eu drysau unwaith eto, bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn dod â'r gymuned rygbi ynghyd mewn Clwb Rygbi rhithiol ar-lein ar 16 Gorffennaf.
Ymunwch a CDCCymru a phanel o arweinwyr Rygbi WRU a chefnogwyr o bob cwr o Gymru i wylio cwmni dawns gyfoes cenedlaethol Cymru yn perfformio ei ddarn dawns rygbi, Rygbi: Annwyl i Mi / Dear To Me, gyda thrafodaeth a dadl ar ôl y gêm i ddilyn yn ein clwb rhithiol.
Bydd y Clwb Rygbi Rhithiol ar 16 Gorffennaf yn cynnwys darllediad wedi ei recordio ymlaen llaw o ddarn dawns corfforol CDCCymru, Annwyl i Mi/Dear To Me. Wedi'i greu gan gyn Gyfarwyddwr Artistig CDCCymru, Fearghus Ó Conchúir, mae Rygbi: Annwyl i Mi / Dear To Me yn ymwneud ag angerdd rygbi, y bobl a'r gymuned sy'n cefnogi'r gêm ar y cae, ac oddi arno.
Perfformiwyd Rygbi: Annwyl i Mi/ Dear To Me am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst yn 2019, cyn teithio i Japan i gyd-fynd â Chwpan Rygbi'r Byd 2019. Yna, aeth fersiwn lai o'r darn dawns ar daith ledled Cymru fel rhan o daith Roots 2019, ac fel rhan o Daith KiN yn gynharach yn ystod Gwanwyn eleni, cyn y cyfnod clo yn y DU.
Manteisiodd cefnogwyr dawns ar y cyfle i wylio'r perfformiad cyntaf ar-lein ym mis Ebrill, a nawr, mae cynulleidfaoedd rygbi yn cael y cyfle i wylio'r darn sydd wedi ei recordio ymlaen llaw, yn ogystal â gwrando ar drafodaeth rhwng rhai o hyfforddwyr a dyfarnwyr rygbi cymunedol gorau Cymru, a chefnogwyr, yn y Clwb Rygbi Rhithiol. Bydd Fearghus Ó Conchúir, y dyn a greodd Rygbi; Annwyl i Mi/ Dear To Me, yn sgwrsio gyda Rheolwr Cyffredinol Rygbi Merched a Genethod WRU, Charlotte Walthan; Prif Hyfforddwr Rygbi Galluoedd Cymysg WRU, Darren Carew, a Sylwebydd Papur Newydd y Western Mail a chefnogwr Rygbi brwd, Carolyn Hitt, a fydd yn sgwrsio am y gêm o safbwynt cefnogwr.
Dywedodd Fearghus Ó Conchúir, "Pan greais Rygbi gyda CDCCymru, treuliasom amser sylweddol yn dysgu, gwrando a gwylio pob math o rygbi ar draws Cymru, gan ymgysylltu gyda'r gymuned ar y cae, ac oddi arno. Bu i ni ymuno â sesiwn hyfforddi'r Gweilch, ac ymunodd rhai o'r chwaraewyr i ddawnsio â ni, cawsom sgwrsio â thimau cymunedol a'u cefnogwyr yng ngogledd Cymru, a daeth Nigel Walker, cyn chwaraewyr rhyngwladol Cymru, i siarad â ni am ei brofiad, a gwyliasom gemau rhyngwladol gyda chefnogwyr yn ystod tymor yr Hydref. Mae Rygbi yn gêm sy'n cysylltu gwahanol gymunedau ledled y wlad, ac ar lwyfan rhyngwladol, lle mae unigolion o Gymru yn perfformio gyda phwer, angerdd a sgil. Fel cwmni dawns cenedlaethol, mae CDCCymru hefyd yn cael yr un profiad. Yr hyn sy'n cael ei ddangos gan y Prosiect Rygbi hwn yw'r ffordd mae dawns a rygbi yn gallu adeiladu a dathlu timau sy'n gweithio gyda'i gilydd, i gynnal gobeithion a breuddwydion cymunedau drwy berfformiadau ymrwymedig ar y llwyfan ac ar y cae. A bod y perfformiadau gwych hynny yn dibynnu ar, ac yn cael eu cynnal gan gefnogaeth y cymunedau maent yn helpu i'w creu."
Os bu i chi golli amseroedd darlledu'r wythnos hon a'r wythnos ddiwethaf, bydd CDCCymru yn cadw'r holl gynnwys fideo ar ei wefan a sianel YouTube, i wylio eto ar unrhyw adeg.
Darlledir digwyddiad y Clwb Rygbi Rhithiol ar ddydd Iau 16 Gorffennaf am 8pm, ar dudalen Facebook CDCCymru.
Mae darllediad Rygbi: Annwyl i Mi/Dear To Me yn rhan o raglen ddigidol ar-lein Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, KiN: Ar-lein, a lansiwyd ym mis Ebrill, gyda dymuniad i greu cymuned ar gyfer dawns ar-lein gyda chynulleidfaoedd, cyfranogwyr a'r sector.
I ddysgu mwy ewch i ndcwales/digital-hub.