Dewch i Ddawnsio gyda CDCCymru fel rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Teulu Dydd Mercher 6 Mai 2020
Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn gwahodd cynulleidfaoedd a theuluoedd i gymryd rhan yn eu dathliadau ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Teulu ar ddydd Mercher 6 Mai gyda dosbarth hwyliog i'r teulu, Darganfod Dawns sy'n seiliedig ar symudiadau rygbi a dawns, gyda chyfle i wylio darn dawns CDCCymru sydd wedi ei ysbrydoli gan rygbi, Rygbi: Annwyl i mi/Dear to me ar 7 Mai.
Bob dydd Mercher mae CDCCymru wedi bod yn darlledu gweithdai a dosbarthiadau i bobl ifanc ar ei sianel cyfryngau cymdeithasol yn seiliedig ar gynyrchiadau CDCCymru. Ar ddydd Mercher 6 Mai bydd teuluoedd yn cael eu hannog i ddawnsio ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Teulu gyda darllediad arbennig o ddosbarth Darganfod Dawns a recordiwyd ymlaen llaw. Dros y 5 mlynedd diwethaf mae Darganfod Dawns wedi bod yn gyflwyniad delfrydol i ddawns ar gyfer pobl ifanc, yn ogystal ag oedolion. Mae'r sesiynau hyn wedi cael eu rhedeg ar gyfer ysgolion a theuluoedd ledled Cymru a'r DU. Bydd y sesiynau 45 munud yn cael teuluoedd i symud o'u hystafelloedd byw neu erddi; yn gyntaf gyda sesiwn gynhesu, yna cyfle i bobl ifanc ddysgu dawnsio fel dawnswyr proffesiynol CDCCymru. Bydd y dawnswyr yn dysgu rhai symudiadau hawdd a hwyliog o'r darn dawns a ysbrydolwyd gan rygbi, Annwyl I Mi / Dear to Me.
Wedi'i greu gan Gyfarwyddwr Artistig CDCCymru, Fearghus O'Conhuir, mae Annwyl i Mi / Dear To Me yn ymwneud ag angerdd rygbi, y bobl a'r gymuned sy'n cefnogi'r gêm ar y cae, ac oddi arno.
Bydd Darganfod Dawns yn cael ei ddarlledu ar YouTube a Facebook o 6 Mai am 11am. Fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth o Fyddardod, bydd y sesiwn â chymorth BSL.
Yn dilyn y dosbarth Darganfod Dawns bydd teuluoedd yn gallu gwylio'r fersiwn lawn o Annwyl I Mi / Dear to Me ar nos Iau 7 Mai am 7pm ar sianel YouTube a Facebook CDCCymru. Ffilmiwyd y darllediad yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2019, cyn i'r cynhyrchiad fynd i Japan yr un amser â Chwpan Rygbi'r Byd.
Yn dilyn y ffrwd, bydd sesiwn Holi ac Ateb fyw ar Facebook gyda Fearghus Ó Conchúir a’r Cyfansoddwr Tic Ashfield, sydd hefyd â chymorth BSL gan Samantha Dunn.
Os byddwch chi'n colli'r amseroedd darlledu'r wythnos hon a'r wythnos diwethaf, bydd CDCCymru yn cynnal yr holl gynnwys fideo ar ei wefan a sianel YouTube, i wylio eto ar unrhyw adeg.
Mae’r digwyddiadau wythnos o hyd yn rhan o raglen ddigidol ar-lein ‘Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru’, KiN: Ar-lein, a lansiwyd mis diwethaf gydag awydd i greu cymuned ar gyfer dawns ar-lein gyda chynulleidfaoedd, cyfranogwyr a'r sector.
I ddysgu mwy ewch i: ndcwales/digital-hub.
Llun: Jorge Lizalde