Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru

Dawns y Ceirw

21 – 23 Tachwedd 2024

Gwybodaeth ynghylch y cynhyrchiad
Ysgolion a Teuluoedd
Canllaw Oed: plant 5-9 oed a'u teuluoedd
Hyd y perfformiad: tua 45 munud

Mae’n Noswyl Nadolig ac mae pobl y pentref yn swatio’n gynnes yn eu cartrefi. Does neb yn sylwi ar y carw bach unig tu allan yn yr oerfel...

Wrth chwarae ar ben ei hun bach yn yr eira, mae Carw yn ysu am gynhesrwydd a charedigrwydd. Yn sydyn, mae golau bach disglair yn ymddangos! Er nad yw wedi mentro’n bell o’i bentref o’r blaen, mae Carw’n penderfynu dilyn y golau bach disglair ar antur hudolus trwy’r goedwig lle mae’n darganfod y cryfder a’r cariad sydd yn ei galon ei hun.

Wedi’i ysgrifennu a’i berfformio gan Casi Wyn (Bardd Plant Cymru 2022-23), bydd y sioe newydd swynol hon yn dod â hud, cerddoriaeth a dawns i gynulleidfaoedd ifanc ledled Cymru y gaeaf hwn.

Cyd-gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

 

Tîm Creadigol

Cyfarwyddwr Steffan Donnelly

Cyfarwyddwr Matthew Williams Robinson

Awdur + Cerddoriaeth wreiddio Casi Wyn

Dylunydd Set a Gwisgoedd  Tomás Palmer

Cast  Casi Wyn, Osian Meilir, Sarah 'Riz' Golden

Coreograffwr

Matthew Williams Robinson

Athrawon!

Mae tocynnau myfyrwyr yn £5, gydag athro am ddim i bob 10 myfyriwr sy'n archebu - i gadw lle cysylltwch â megan@ndcwales.co.uk

Dates & Times
Dydd Iau 21 Tachwedd 2024, 00:00
Dydd Gwener 22 Tachwedd 2024, 00:00
Dydd Sadwrn 23 Tachwedd 2024, 00:00