Awakening image - dancer stepping out of a white box with green background

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi taith wanwyn DU 2019: AWAKENING

Coreograffi gan: Fernando Melo, Caroline Finn, Marcos Morau a Lee Johnston

Mae taith newydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Awakening, yn teithio ar draws y DU y gwanwyn nesaf, gan agor yng Nghasnewydd, De Cymru, ar 1 Mawrth, sef Dydd Gŵyl Dewi 2019.

Bydd cwmni dawns cenedlaethol Cymru yn ymweld ag un ar ddeg o drefi a dinasoedd ledled y DU yn ystod mis Mawrth, Ebrill a Mai 2019. Daw'r daith wrth i'r cwmni ddechrau ar gyfnod newydd o ran arweinyddiaeth artistig, o dan y Cyfarwyddwr Artistig a benodwyd yn ddiweddar, Fearghus Ó Conchúir. Mae taith Awakening yn parhau ag ymrwymiad y cwmni i wneud dawns ddiddorol ac arloesol gyda phob math o bobl ac ar eu cyfer, mewn pob math o leoedd.

Cyn taith y gwanwyn 2019, dywedodd Fearghus Ó Conchúir, Cyfarwyddwr Artistig CDCCymru, "Fel rhan o'n taith Awakening, rydym yn cyflwyno amrywiaeth o waith i'n cynulleidfaoedd.  Mae'r amrywiaeth hon yn cynnwys byd dyrys ac ymbleserus Revellers' Mass, gwaith newydd gan ein coreograffydd preswyl, Caroline Finn; hud a lledrith effeithiol ymddangos a diflannu yn Afterimage Fernando Melo; symlrwydd teimladwy They Seek to Find the Happiness They Seem Lee Johnston, gyda'i adleisiau o Astaire a Rogers, a thrachywiredd llyfn Tundra arobryn Marcos Morau."

Mae'n mynd ymlaen i ddweud, "Dengys yr amrywiaeth hon o waith amlochredd y cwmni, a'i allu i gynnig amrywiol safbwyntiau ar y byd i gynulleidfaoedd.  Mae'r rhain yn weithiau hardd sy'n ein gwahodd ni i weld rhywbeth gwahanol ac rydym yn edrych ymlaen at rannu'r gwahaniaeth hardd hwnnw gyda chynulleidfaoedd sy'n dod i weld y gwaith a gyda phobl sy'n ymuno yn ein gweithdai a'n gweithgareddau ymgysylltu creadigol cysylltiedig. Mae ein holl waith wrth baratoi a chreu ond yn gwneud synnwyr pan fyddwn yn cwrdd â chynulleidfaoedd a chyfranogwyr Cymru a gweddill y DU, a dyna pam mae'r daith hon mor bwysig i ni." 

Bydd CDCCymru yn cysylltu â chymunedau drwy gyfranogiad dawns a gweithgarwch datblygu cynulleidfa mewn chwe lleoliad ar y daith hon, a gefnogir gan Sefydliad Foyle yng Nghymru, a Chyngor Celfyddydau Lloegr yn Lloegr - ym Mangor, Abertawe, yr Wyddgrug, Yr Amwythig, Huddersfield a Blackpool.

Mae 2018 wedi bod yn flwyddyn eithriadol o brysur i'r cwmni gyda taith DU gyfan (Terra Firma), perfformiadau yn Awstria a'r Almaen, taith ar y cyd â Music Theatre Wales (Passion), taith yng Nghymru yn ystod yr hydref (Roots), cywaith gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn ogystal â gweld dros 6000 o bobl yn cymryd rhan ym mherfformiadau a gweithdai cymunedol y cwmni ledled y wlad.

Mae Awakening yn cynnwys pedwar darn dawns, y  perfformir tri ohonynt ym mhob lleoliad.

Mae Afterimage, gan y coreograffydd o Frasil Fernando Melo, yn daith o ddelweddau gwib; o ymddangos a diflannu. Defnyddir drychau ar y llwyfan i greu profiad theatrig unigryw lle mae'r gorffennol a'r presennol yn gwrthdaro ag arddull ddawns sy'n farddonol ac yn greadigol.

Mae Revellers’ Mass yn twrio i fyd moethus y ddefod. Mae grŵp annhebygol yn ymgasglu ar gyfer swper, lle mae argyhoeddiadau, traddodiad a moesau cymdeithasol yn cael eu rhoi ar brawf mewn noson annisgwyl o rialtwch. Mae'r coreograffi bywiog a'r cymeriadau rhyfedd wedi'u hysbrydoli gan ddarluniau eiconig a digwyddiadau hanesyddol.  Mae coreograffi Revellers’ Mass gan goreograffydd preswyl CDCCymru, Caroline Finn, a  enillodd Artist Dawns Benywaidd Gorau yng Ngwobrau Theatr Cymru 2017.

Mae Tundra yn rhwygo tudalennau o'r llyfrau hanes ar ddawns werin Rwsiaidd, yr USSR a chwyldro, gan adfywio hen syniadau gydag ystyr newydd. Mae'r dylunio beiddgar wedi'i ysbrydoli gan gelf a sinema. Dawns sydd mor robotaidd o fanwl-gywir mae yr un mor hardd ac y mae'n syfrdanol. Enillodd Tundra 'Cynhyrchiad Dawns Gorau' yng Ngwobrau Theatr Cymru 2017 ynghyd â 'Coreograffydd gorau' i Marcos Morau. Hefyd cyrhaeddodd y cynhyrchiad yn ddiweddar restr fer Gwobrau Theatr y Deyrnas Unedig ar gyfer 'Cyflawniad mewn Dawns'. I weld yr hysbyseb ar gyfer Tundra cliciwch yma.

Cynhelir y daith rhwng 1 Mawrth a 7 Mai 2019.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am daith Awakening gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yma http://ndcwales.co.uk

British Theatre Guide - Tundra “Frankly, I could have watched this segment for hours.”

Mae They Seek to Find the Happiness they Seem gan Lee Johnston, sef Cyfarwyddwr Ymarfer y cwmni, yn ymwneud â'r diffyg cysylltiad a all ddigwydd mewn perthynas. Mae'r ddawns yn defnyddio darnau wedi'u haildrefnu o goreograffi eiconig gan gyplau enwog gan gynnwys Fred Astaire a Ginger Rogers mewn perfformiad amrwd a hardd sy'n cyffwrdd â'r galon.

Bydd taith Awakening hefyd yn cynnwys mynediad i gyfleoedd cyfranogiad Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys:

Darganfod Dawns - mae hyn yn ddelfrydol ar gyfer pobl ifanc (7 oed a throsodd) ac yn brofiad llawen, llawn hwyl o ymuno a gwylio darn dawns tra'n dysgu sut beth yw bod yn ddawnsiwr.

Gwylio Dosbarth Dawns – cyfle i fraslunio, tynnu lluniau a  dysgu rhagor am gyfrinachau cefn llwyfan a gwylio'r dawnswyr yn agos wrth iddynt baratoi ar ddiwrnod y sioe.

Sgwrs ar ôl y Sioe – cyfle i holi aelodau o gwmni CDCCymru am eu gwaith a'r hyn sydd ei angen i fod yn ddawnsiwr mewn cwmni dawns blaenllaw yn y DU.

Revellers Mass image 13 dancers at a table depicting the last supper
After Image photo 1 dancer lead back on a table with another dancer appearing to come out of the body in a ghostly way

Theatr Glan yr Afon

Casnewydd
1 Mawrth | 7.30pm

Newportlive.co.uk/Riverfront
01633 656757

Afterimage/Revellers’ Mass/Tundra

Teulu yn Darganfod Dawns 2 Mawrth

 

Linbury Theatre, Royal Opera House
Llundain
8 – 9 Mawrth | 7.45pm

roh.org.uk
020 7212 9755

Afterimage/Revellers’ Mass/Tundra

Ysgolion yn Darganfod Dawns 8 Mawrth

Teulu yn Darganfod Dawns 10 Mawrth

 

Theatr Clwyd
Yr Wyddgrug
15 – 16 Mawrth | 7.30 pm

theatrclwyd.com
01352 701521

Afterimage/Revellers’ Mass/They Seek To Find The Happiness They Seem

Teulu yn Darganfod Dawns 16 Mawrth

 

Pontio
Bangor
18 Mawrth | 7.15pm

pontio.co.uk
01248 38 28 28

Afterimage/Revellers’ Mass/They Seek To Find The Happiness They Seem

 

Yr Hafren
Y Drenewydd
21 Mawrth | 7.30 pm

thehafren.co.uk
01686 614555

Afterimage/Revellers’ Mass/Tundra

Ysgolion yn Darganfod Dawns 22 Mawrth

Grand Theatre
Blackpool
26 Mawrth | 7.30 pm

blackpoolgrand.co.uk
01253 290 190

Afterimage/Revellers’ Mass/Tundra

Ysgolion yn Darganfod Dawns 27 Mawrth

Canolfan Celfyddydau Taliesin
Abertawe
4 Ebrill | 7.30pm

taliesinartscentre.co.uk            
01792 602060

Afterimage/Revellers’ Mass/Tundra

Ysgolion yn Darganfod Dawns 5 Ebrill

 

Lawrence Baltey Theatre
Huddersfield
8 Ebrill | 7.30pm

thelbt.org
01484 430 528

Afterimage/Revellers’ Mass/Tundra

Ysgolion yn Darganfod Dawns 10 Ebrill
 

 

Canolfan Celfyddydau Aberystwyth
 24 Ebrill | 7.30 pm
aberystywthartscentre.co.uk
01970 623232

Afterimage/Revellers’ Mass/Tundra

Theatr Sherman
Caerdydd
1 a 2 Mai | 7.30 pm

shermantheatre.co.uk
029 2064 6900

Afterimage/Revellers’ Mass/Tundra

Ysgolion yn Darganfod Dawns 2 Mai

 

Theatre Severn
Yr Amwythig
7 Mai | 7.30pm

theatresevern.co.uk
01743 281281

Afterimage/Revellers’ Mass/Tundra

Ysgolion yn Darganfod Dawns 7 Mai