Rygbi image , group of people huddled in one large group

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi rhaglen 12 mis o dan Gyfarwyddwr Artistig newydd.

Heddiw cyhoeddodd Cyfarwyddwr Artistig newydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Fearghus Ó Conchúir, raglen y cwmni ar gyfer y 12 mis nesaf, sy'n cynnwys ei brosiect Rygbi newydd, adfywiad o Lunatic Nigel Charnock, yn ogystal â chomisiynau ar gyfer artistiaid sy'n byw yng Nghymru a rhai rhyngwladol.

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn gwneud gwaith arloesol gyda phob math o bobl, ac ar eu cyfer, mewn pob math o leoedd. Mae'r cwmni yn cyflwyno ei waith mewn cyd-destunau a fformatau gwahanol ar draws Cymru a ledled y byd, gan gomisiynu'n bennaf goreograffwyr nad ydynt wedi'u comisiynu yn y DU o'r blaen, a chanfod perthnasedd cyfoes parhaus mewn repertoire sy'n bodoli eisoes.

Penodwyd Fearghus Ó Conchúir yn Gyfarwyddwr Artistig newydd ym mis Ebrill 2018, a dechreuodd yn y swydd ym mis Hydref. Yn dilyn taith gwanwyn 2019, Awakening, bydd y rhaglen newydd o waith yn parhau uchelgais CDCCymru i rannu gwerth dawns gyda chynulleidfaoedd a chyfranogwyr amrywiol.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Artistig, Fearghus Ó Conchúir, "Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi gwneud ymrwymiad enfawr i amrywio ei raglen.  Mae wedi teithio ar draws Cymru, y DU ac yn rhyngwladol i leoliadau bach a mawr; mae wedi cyflwyno gwaith mewn digwyddiadau a gwyliau awyr agored, ac ar-lein. Wrth imi gyrraedd y cwmni hydref diwethaf, roedd yn cydweithio gyda Music Theatre Wales ar y ddawns-opera Passion, wedi'i gyflwyno mewn lleoliadau mawr ledled Cymru a Lloegr, ac ar yr un pryd yn rhyngweithio gyda llawer o gynulleidfaoedd dawns tro cyntaf drwy ei raglen Roots mewn lleoliadau llai ledled Cymru.  Mae wedi bod yn galonogol iawn i mi weld bod y cwmni yn gallu dod â dawns arloesol o safon i'r ystod hwn ystod o gynulleidfaoedd a lleoedd.  Ers 2015/2016, cynyddodd nifer y bobl a welodd neu a gymerodd ran yng ngwaith y cwmni o 6,000 i 24,000.  Ac rydw i eisiau helpu Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru i barhau i ddatblygu’r arloesedd, y safon a'r cysylltiad hwnnw â phobl a lleoedd, yn hyderus mewn gwerth dawns fel ffurf gelfyddydol ac yn chwilfrydig ynglŷn â'r hyn y gallwn ei ddysgu wrth weithio'n greadigol gydag amrywiaeth o bobl ddawnus."

Yn ystod y 12 mis nesaf bydd Fearghus yn dechrau ei brosiect creadigol cyntaf gyda'r cwmni: Rygbi- Annwyl i mi/Dear to me a fydd yn cael ei premiere fel perfformiad awyr agored, yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym mis Awst.  Bydd Fearghus yn datblygu fersiwn ar raddfa fach fel rhan o'r daith Roots ar draws Cymru ym mis Tachwedd, a darn rygbi ar raddfa fwy ar gyfer taith gwanwyn 2020 ar draws Cymru a'r DU, gyda chyfleoedd i bobl ymuno drwy sgyrsiau a dawnsio a rennir dros oes hwy y prosiect. Caiff y gwaith ei ddatblygu y gwanwyn hwn mewn cyfnodau preswyl ac ymchwil ledled Cymru.

Mae Rygbi-Annwyl i mi/Dear to me yn cysylltu arbenigedd y cwmni mewn dawns ag angerdd y genedl dros rygbi. Mae'n archwilio sut mae cyrff Cymreig yn cael eu gwneud, sut mewn chwaraeon, fel mewn dawns, mae gwahanol bobl â gwahanol gryfderau yn gweithio gyda'i gilydd i greu timau effeithiol. Mae'r timau hynny yn cynnal gobeithion a breuddwydion cymunedau ehangach drwy eu perfformiadau ymroddedig. Cynhelir y timau hynny hefyd gan y cymunedau sy'n eu cefnogi. Mae'r Prosiect Rygbi yn defnyddio dawns i ddathlu ymdrech ogoneddus dod at ein gilydd.  Bydd y gwaith yn cael ei ymchwilio gyda chymunedau rygbi ledled Cymru ac yn cynnwys cyfansoddiad newydd a dyluniad sain gan yr enillydd gwobr BAFTA Cymru, Tic Ashfield.

Ar ôl ei lwyddiant mawr yn 2018, bydd taith Roots CDCCymru yn ôl ym mis Tachwedd 2019 gyda phedwar darn dawns byr, sydyn, fydd yn bodloni'r rhai sydd eisoes yn caru dawns, a gyda'i fformat hamddenol a hygyrch, yn ddelfrydol ar gyfer y rheini sy'n newydd i dawns gyfoes.  Yn ogystal â chyflwyno gwaith o'r Prosiect Rygbi, bydd rhaglen Roots yn arddangos dau ddarn o waith newydd a grëwyd gan ddawnswyr y cwmni. Mae Écrit gan Nikita Goile yn dwyn ysbrydoliaeth o lythyr a ysgrifennwyd gan yr artist eiconig, Frida Kahlo at ei phartner, Diego Riviera. Mae'r darn yn ymdrin â pherthnasoedd ac mae’n edrych ar y cydbwysedd bregus rhwng rheolaeth ac ildio.

Mae gwaith Ed Myhill Why Are People Clapping wedi'i ysbrydoli gan 'Clapping Music' y cyfansoddwr Steve Reich, ac mae'n defnyddio rhythm ac offerynnau taro yn chwareus fel ysgogydd. Caiff y gerddoriaeth ei pherfformio'n fyw gan y dawnswyr ac mae'n defnyddio sain syml clapio i greu cyfansoddiadau lliwgar ac egnïol ar gyfer y ddawns. Y pedwerydd darn yn y rhaglen fydd darn newydd gan Anthony Matsena, a anwyd yn Zimbabwe ac a dyfodd i fyny yn Abertawe. Dechreuodd fynd i ddosbarthiadau hip-hop lleol cyn ymuno â Dawns Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a mynd i hyfforddi'n broffesiynol yn y London Contemporary Dance School.  Ar hyn o bryd mae'n Artist Cyswllt Ifanc gyda Sadler's Wells.

Meddai Fearghus, "Dyma fydd y tro cyntaf i'r coreograffwyr hyn fynd â gwaith ar daith ledled Cymru.  Rhan bwysig o'r hyn y gall y cwmni ei wneud yw cefnogi talent a chyflwyno safbwyntiau a lleisiau newydd i gynulleidfaoedd.  Mae hefyd yn fan lle gall artistiaid ddysgu o gyfarfod â chynulleidfaoedd newydd mewn lleoliadau gwahanol."

"Gan gydnabod ein bod yn byw mewn cyfnod o ansicrwydd gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol, mae taith y gwanwyn yn 2020 yn dwyn ynghyd gwaith sy'n archwilio fersiynau gwahanol o'r gymuned. Byddwn yn adfywio Lunatic, a grëwyd ar gyfer CDCCymru gan un o goreograffwyr mwyaf dylanwadol Prydain, Nigel Charnock. Wedi'i fagu yng Ngogledd Cymru, astudiodd Nigel yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gan gyd-sefydlu'r DV8 arloesol ac aeth ar daith rhyngwladol gyda chyfres unigryw o berfformiadau unigol a gweithiau cwmni. Cafodd Lunatic ei greu ddeng mlynedd yn ôl, ond mae ei gwestiynau ynghylch hunaniaeth genedlaethol, rhyw a dosbarth yn cyseinio o'r newydd yn 2020 sy'n ei gwneud yn bwysig i'w gyflwyno eto i gynulleidfaoedd."  

Hefyd yn 2020, bydd CDCCymru yn cyflwyno gwaith newydd gan y coreograffydd Alexandra Waierstall. Wedi'i geni yn Lloegr, ei magu yng Nghyprus a bellach yn byw yn yr Almaen, mae Waierstall yn creu gwaith cain a disglair sy'n symud grwpiau o gyrff gydag ymdeimlad cryf o gerddoriaeth a chorfforoldeb barddonol.

Y trydydd darn ar gyfer taith 2020 fydd fersiwn wedi'i haddasu o Rygbi-Annwyl i mi / Dear to me gan Fearghus Ó Conchúir, gyda cherddoriaeth gan Tic Ashfield.

Cyhoeddir manylion taith Roots a gwanwyn 2020 yn y misoedd i ddod.

"Yn ogystal â chyflwyno gweithiau gorffenedig i'w perfformio mae'n bwysig bod Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cefnogi'r posibiliadau newydd sy'n meithrin arloesedd yn ein ffurf ar gelfyddyd.  Ym mis Mehefin bydd y cwmni yn cynnal rhaglen Laboratori newydd sy'n dwyn ynghyd artistiaid o'r cwmni a'r sector dawns annibynnol yng Nghymru i brofi syniadau coreograffi a ffyrdd newydd o weithio.  Wedi'i gynnal gan CDCCymru a'i gefnogi gan Groundwork Pro, y grŵp cydweithredol o artistiaid dawns yng Nghaerdydd, bydd Laboratori yn cynnig mentora ac ysgogiad i gyfranogwyr i ddatblygu ac ymestyn eu dulliau arferol o weithio. Y mentoriaid ar gyfer y Laboratori fydd Lea Anderson (sylfaenydd y grwpiau dawns eiconig, The Cholmondeleys a'r Featherstonehaughs) ac Éric Minh Cuong Castaing (Cyfarwyddwr Artistig Shonen, cwmni Ffrengig sy'n gweithio gyda dawns, technoleg newydd ac amrywiaeth o berfformwyr)."

Yn ychwanegol at y rhaglen Laboratori strwythuredig, bydd y cwmni hefyd yn cynnig cyfnodau preswyl ar gyfer artistiaid sy'n byw yng Nghymru yn y Tŷ Dawns ym mis Mehefin. Yn adeiladu ar lwyddiant ei gwaith gyda’r cwmni, bydd ein Coreograffydd Preswyl Caroline Finn yn datblygu syniadau newydd gyda ni a bydd ei choreograffi yn rhan o’n rhaglen teithio rhyngwladol. Bydd y cwmni hefyd yn parhau i gefnogi ein Hartist Cyswllt Matteo Marfolglia.

Mae'r cwmni yn parhau i ddod â dawns o Gymru i gynulleidfaoedd newydd dramor, gan adeiladu cysylltiadau diwylliannol pwysig ar adeg o ansicrwydd gwleidyddol. Dros y 18 mis diwethaf mae'r cwmni wedi teithio i Hong Kong, yr Almaen, y Swistir ac Awstria gyda dros 6000 o bobl yn eu gweld yn fyw ar lwyfan. Yn 2019, bydd CDCcymru yn dychwelyd i'r Almaen, Gwlad Pwyl a Hong Kong, yn ogystal â mynd ar daith i leoliadau newydd yn Sbaen.

Meddai Fearghus, "Mae'r cynlluniau hyn yn adeiladu ar yr hyn y mae'r cwmni wedi'i wneud yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf i gyflwyno ei waith i gynulleidfaoedd newydd gartref a thramor.  Rwy'n gobeithio datblygu uchelgeisiau'r cwmni i fod yn hyrwyddwyr hyderus o werth dawns, yn chwilfrydig am yr hyn nad yw'n ei wybod eto, ac yn gysylltiedig ag arbenigedd pob math o artistiaid, cynulleidfaoedd, cyfranogwyr, a phobl o ddisgyblaethau a sectorau eraill i'n helpu i arloesi."