Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi Cyfarwyddwr Artistig newydd
Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) yn falch o gyhoeddi Matthew Robinson fel Cyfarwyddwr Artistig newydd y Cwmni.
Bydd Matthew yn ymuno â'r cwmni yn yr Hydref yn syth o'i rôl fel Cyfarwyddwr Artistig VERVE, cwmni ôl-raddedig Northern School of Contemporary Dance (NSCD) lle mae Matthew wedi arwain y cwmni am bum mlynedd. Mae Matthew yn artist gweithredol sydd wedi gweithio fel dawnsiwr, coreograffydd, hwylusydd, Cyfarwyddwr Ymarfer a Chyfarwyddwr Artistig.
Penodwyd Matthew yn Gyfarwyddwr Artistig VERVE yn 2016, o dan ei gyfarwyddyd daeth VERVE yn adnabyddus am ei gomisiynu beiddgar, gan gydweithio â lleisiau coreograffig byd-enwog a ffres fel Botis Seva, Maxine Doyle a Sita Ostheimer i greu rhaglenni gwaith dawns gwahanol, diddorol. Roedden nhw’n cyrraedd miloedd o bobl bob blwyddyn, ar y llwyfan, ar-lein ac mewn gwaith allgymorth.
Mae Matthew yn teimlo’n gyffrous am rannu ei weledigaeth gyda’r hyn y gall dawns ei wneud gyda chynulleidfaoedd a chyfranogwyr yng Nghymru a thu hwnt.
Dywedodd Matthew: “Cefais fy magu mewn tref fach yn Nyfnaint, yn berson ifanc hoyw. Doeddwn i ddim yn gwybod sut i arddel fy hun. Doeddwn i ddim yn fy ngweld fy hun yn y cyfryngau nac yn fy nghymuned. Roedd Dawns yn cynnig lle cynhwysol i mi lle gallai fy hunaniaeth ffynnu, rwy'n arwain gyda hyn mewn golwg bob dydd, gan geisio datblygu dawns fel lle diogel ac uchelgeisiol i bawb.
Gall gwylio neu gymryd rhan mewn dawns gael effaith ddofn ar fywyd rhywun, gall newid sut rydym yn gweld ein hunain, eraill, a'r byd o'n cwmpas. Rwy’n credu hyn oherwydd fy mod wedi byw hyn. Gweld eich hun yn cael eich cynrychioli ar y llwyfan, teimlo eich profiad bywyd yn cael ei gyfleu o'ch blaen, neu gael eich llorio gan fyd fydd yn eich mesmereiddio sy’n cael ei greu o flaen eich llygaid.
Mae dawns, ar ei orau, yn drawsnewidiol, yn ysbrydoledig, yn ddifyr ac yn bryfoclyd. Gallwn herio a bod yn hygyrch, bod yn wefreiddiol yn gorfforol ac yn wleidyddol bwerus. Rwy’n mewn rhaglennu uchelgeisiol, difyr sy'n adlewyrchu cymdeithas yr 21ain ganrif yn ei holl amrywiaeth a chymhlethdod hardd. Rwy'n dod â'm huchelgais i gyrraedd y tu hwnt i gynulleidfaoedd dawns craidd, i fod yn gatalydd ar gyfer y newid rydym yn ei geisio yn ein byd.
Edrychaf ymlaen at gael mewnwelediad i ecoleg unigryw Cymru. Rwy’n awyddus i ddysgu am y maes dawns yma yng Nghymru a gweithio ynddo. Mae gan bob un ohonom ei straeon i’w rhannu, a’n persbectifau i’w datgelu, ac edrychaf ymlaen at gael y trafodaethau a’r cydweithrediadau hyn. Edrychaf ymlaen at rannu fy ngweledigaeth ynghylch beth all dawns ei wneud i gynulleidfaoedd a chyfranogwyr yng Nghymru a thu hwnt.”
Dywedodd Jane McCloskey, Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr:
"Rwyf wrth fy modd bod ein gwaith chwilio am Gyfarwyddwr Artistig newydd wedi denu maes cenedlaethol a rhyngwladol mor dalentog. Roedd Matthew yn sefyll allan fel ymgeisydd eithriadol a chyffrous ar gyfer y rôl a bydd yn ein helpu i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, cyfranogwyr newydd ac uchelfannau newydd.”
Dywedodd Paul Kaynes, Prif Weithredwr Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru: “Cawsom ystod gyffrous a rhyngwladol o ymgeiswyr, ond cipiodd Matthew y cyfleoedd i weithio mewn ffyrdd newydd i greu newid yn ein byd, gan roi cymunedau Cymru wrth wraidd ei gynlluniau artistig, ac adrodd straeon Cymru ledled y byd. Bydd ei ymrwymiad dwfn i gynhwysiant ac amrywiaeth yn ei waith a'r artistiaid y mae'n gweithio gyda nhw yn galluogi'r Cwmni i barhau i gyflwyno dawns o'r radd flaenaf sy’n cael ei wneud gan artistiaid o sawl cefndir. Rydym yn hynod gyffrous i fod yn ei groesawu i Gymru.”
Graddiodd Matthew o Ysgol Ddawns Gyfoes Llundain a dawnsiodd am flynyddoedd lawer ar gyfer Theatr Ddawns yr Alban, gan berfformio gwaith gan amrywiaeth eang o goreograffwyr rhyngwladol, gan gynnwys Sharon Eyal, Damien Jalet, Hofesh Shechter, a Victor Quijada. Yn 2013 ymgymerodd â chyfrifoldebau’r Cyfarwyddwr Ymarfer, gan gefnogi'r dawnswyr a'r artistiaid gwadd yn eu proses greadigol, a'r cwmni ar deithiau rhyngwladol lluosog.
Llun: Genevieve Reeves