Coreograffwyr yng Nghymru yn creu darnau dawns byrion i'w perfformio yn yr awyr agored yr haf hwn.
Teimlwch lawenydd dawns unwaith eto yr haf hwn gyda Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru). Mae eu taith Perfformiad Awyr Agored yn ymweld ag ardaloedd ledled Cymru y mis Awst hwn.
Bydd CDCCymru: Perfformiad Awyr Agored yn cynnwys dau lais dawns cyffrous. Mae dau o ddawnswyr cwmni CDCCymru, Ed Myhill a Faye Tan, wedi bod yn datblygu eu lleisiau coreograffig dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi bod yn archwilio'r syniad o greu darnau ar gyfer yr awyr agored mewn gwahanol leoliadau yng Nghymru.
Mae Faye Tan wedi bod yn gweithio gyda dawnswyr CDCCymru i greu darn dawns newydd, llawn egni - Moving is everywhere, forever. Dyma gerdd foddhaus i'r weithred o ddawnsio; gwahoddiad i ildio i'r awydd cryf i symud i gerddoriaeth y trac sain gan y ddau artist cerddoriaeth electronig o Gymru, Larch.
Dywedodd Faye, "Dechreuodd 'Moving is everywhere, forever' fel gwaith ymchwil i'r syniad o ddawns o foddhad a chatharsis fel ffordd o wahodd cynulleidfaoedd i symud gyda'r dawnswyr, ac ildio i'w greddf naturiol i symud i'r curiad. Roedd hefyd yn archwilio'r syniad fod dawns yn gallu bodoli ar unrhyw adeg, yn unrhyw le.
Wrth feddwl am osod y darn yn yr awyr agored, roedd hynny'n rhoi rheswm cryf i'r darn fod yn fentrus o ran y ffordd mae'r perfformwyr yn cysylltu â'r cynulleidfaoedd a'r ffordd maent yn croesawu elfennau newidiol amgylchedd awyr agored yn hyderus ac yn naturiol; cadarnhad nad oes rhaid i ddawns fod wedi'i gyfyngu i amgylcheddau rheoledig, dan do, nac i amser penodol o'r dydd.
Mae wedi bod yn brofiad anhygoel o dwf a llawenydd i bawb sydd wedi bod yn rhan ohono, ac rydym wedi cyffroi o gael cyfle i gyfnewid egni â chynulleidfa yng ngolau dydd yn ystod ein perfformiadau."
Yn ogystal â chreu perfformiad dawns newydd, mae CDCCymru wedi bod yn ailwampio eu darn poblogaidd, Why Are People Clapping!? ar gyfer yr awyr agored. Mae ‘Why Are People Clapping!?’ gan Ed Myhill yn ddarn dawns calonogol, digrif a chlyfar tu hwnt sydd wedi'i osod i ‘Clapping Music’ gan Steve Reich, ac mae'n defnyddio rhythm fel grym ysgogi. Mae'r dawnswyr yn clapio, stampio a neidio i greu'r trac sain byw. Mae’r cyfan yn 13 munud hwyliog, llawn tynnu ‘stumiau a thapio traed.
Dywedodd Ed Myhill, un o ddawnswyr CDCCymru a’r un a greodd Why Are People Clapping!?, "Mae addasu Why Are People Clapping!? ar gyfer yr awyr agored wedi bod yn broses heriol ond cyffrous. Rydyn ni wedi gorfod ail-fowldio ein hunain i weddu i amgylcheddau mwy agored ac ansefydlog. Heb ein gallu arferol i ddefnyddio golau a sain, yn ogystal ag agor dwy ochr ychwanegol ar gyfer y gynulleidfa, mae'r gwaith creadigol wedi bod yn heriol o ran ystyried sut i ailddychmygu'r darn hwn. Er bod cyfyngiadau wedi codi mewn mannau, rwyf wedi cael fy ngorfodi i fynd ar drywydd gwahanol sydd wedi datgelu posibiliadau eraill gwych, ac mae’n deimlad cyffrous gallu cydweithio â’r dawnswyr i ddatgelu’r syniadau hyn. Rwyf wrth fy modd gyda'r llwyfaniad newydd hwn ar gyfer yr awyr agored, sydd hyd yn oed yn fwy egnïol a hwyliog.”
Ar ôl y ddau berfformiad, bydd cyfle i’r gynulleidfa ymuno a dysgu ychydig o symudiadau o’r ddau berfformiad.
Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru: Perfformiadau Awyr Agored yn Chapter (Caerdydd) - 6 a 7 Awst; Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth - 10 ac 11 Awst; Theatr Clwyd (yr Wyddgrug) - 13 Awst; a Pontio (Bangor) - 14 Awst.
Ac os na allwch fod yn bresennol, bydd y perfformiad hefyd yn cael ei ffrydio fel rhan o raglen ar-lein Gŵyl yr Ymylon Caeredin ar ZOO TV o 18 – 29 Awst. https://zootv.live/zootv/
Mae CDCCymru yn cydweithio â lleoliadau a phartneriaid ac yn dilyn Canllawiau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar weithgareddau Perfformio a Chyfranogi, ynghyd â chyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch lledaeniad COVID-19.