Profundis lead image

CDCC cyflwyno P.A.R.A.D.E yn fyw ar Facebook am y tro cyntaf ar ddydd Gwener 18 Mai 2

Mae’n bleser gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDC Cymru) gael cyhoeddi y bydd cynulleidfaoedd Facebook yn y DU a thu hwnt yn gallu gwylio awr o uchafbwyntiau o P.A.R.A.D.E, a berfformiwyd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd fis Hydref diwethaf fel rhan o ddigwyddiadau canmlwyddiant R17 yng Nghymru.

Roedd P.A.R.A.D.E. a grëwyd gan CDC Cymru a Marc Rees, yn un o brif ddigwyddiadau’r rhaglen Rwsia ’17 yng Nghymru, i nodi can mlynedd ers Chwyldro Rwsia. Ac fel y ‘Parade’ gwreiddiol, mae’n dwyn ynghyd grŵp diguro o artistiaid a chwmnïau – CDC Cymru, Marc Rees, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Rubicon Dance a Dawns i Bawb, y coreograffydd Marcos Morau, yr artist graffiti Pure Evil, y dylunydd pensaernïol Jenny Hall, yr awyrgampwr Kate Lawrence a’r cyfansoddwr Jack White – i ail-greu, gydag elfen Gymreig, un o'r cyfnodau mwyaf chwyldroadol yn niwylliant yr 20fed ganrif.

Dangoswyd yr uchafbwyntiau ar BBC FOUR a BBC Cymru yn unig yn 2017, a nawr gall cynulleidfaoedd Facebook wylio awr o uchafbwyntiau P.A.R.A.D.E ar Facebook Live ar ddydd Gwener 18 Mai am 7pm. 

Mae’r darllediadau’n rhan o bartneriaeth arloesol gyda The Space, sefydliad a gefnogir gan y BBC a Chyngor Celfyddydau Lloegr sy’n ceisio helpu pobl i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd drwy dechnoleg ddigidol.

Gallwch ei wylio o ddydd Gwener 18 Mai am 7pm ymlaen ar Facebook www.facebook.com/NDCWales