Bydd fersiwn fyw o 'Clapping' Ed Myhill yn cael ei chreu gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru gyda Dawnswyr y Cwmni yn ystod y cyfnod o dan gyfyngiadau
Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi'r perfformiad ffrydio ar-lein byw nesaf, sef 'Clapping' Ed Myhill, a fydd yn uno dawnswyr y cwmni'n ystod y cyfyngiadau.
Yn dilyn y perfformiad ffrydio byw cyntaf erioed o 2067: Time and Time and Time Alexandra Waierstall, bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru'n ffrydio perfformiad byw ar-lein unwaith eto, y tro hwn 'Clapping' Ed Myhill. Wedi'i greu ar Zoom ac yn cael ei ddarlledu ar Facebook. Bydd 'Clapping' yn uno'r dawnswyr yn ystod y cyfnod o dan gyfyngiadau ar gyfer perfformiad byw ar Ddydd Iau 25 Mehefin 7yh.
Mae 'Clapping' yn defnyddio rhythm fel grym gyrru. Mae'r dawnswyr yn defnyddio symudiadau bywiog a chlapio er mwyn creu trac sain ar gyfer y ddawns hwyliog ac egnïol.
Ychydig wythnosau'n ôl, creodd y Cwmni fideo byr fel modd o ddiolch i'r GIG, gofalwyr a gweithwyr cymorth ledled y DU a thu hwnt.
Crëwyd y darn dawns gwreiddiol fel rhan o dymor Llwybrau Amgen Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn 2018, cyn iddo fynd ar daith fel rhan o daith Llwybrau'r Cwmni yn 2019. Bydd y fersiwn estynedig, 'Clapping' yn cael ei chynnwys ar daith Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru o amgylch Ewrop ym mis Rhagfyr 2020 , ac fel rhan o raglen y Gwanwyn yn y DU yn y flwyddyn 2021. Yn dilyn y perfformiad ffrydio byw 10 munud ar 25 Mehefin bydd sesiwn cwestiwn ac ateb fyw hefyd.
O 8 Mehefin bydd dosbarthiadau ar gyfer pobl ifanc a'r rheini sydd â symudedd cyfyngedig yn seiliedig ar y darn dawns, yn ogystal â mewnwelediad i'r broses ymarferion drwy ddau Ymarfer Agored ar Facebook ac Instagram. Bydd cynulleidfaoedd yn gallu ymuno â'r Cwmni ar ddydd Iau 11 a 18 Mehefin 2-2.30 yh er mwyn gwylio datblygiad ymarferion, ynghyd â chael cyfle i ofyn cwestiynau i'r Cwmni a rhoi sylwadau byw ar Facebook yn ystod y sesiwn.
Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru eisiau parhau i gysylltu â'i gynulleidfaoedd ledled Cymru a'r byd, yn ogystal ag ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd, llawer ohonynt nad ydynt wedi cael cyfle i brofi dawns gyfoes cyn y cyfnod o dan gyfyngiadau o bosib.
Dros yr wyth wythnos ddiwethaf, mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi bod yn arddangos llawer o'i gynyrchiadau ar-lein am y tro cyntaf er mwyn i gynulleidfaoedd wylio yn rhad am ddim fel rhan o'i raglen ar-lein KiN: Connected, gan gynnwys Afterimage (gan Fernando Melo), Rygbi: Annwyl i mi/ Dear To Me (Fearghus Ó Conchúir) yn ogystal â fersiwn ffrydio fyw Zoom o 2067: Time and Time and Time Alexandra Waierstall, pan unodd y dawnswyr er mwyn creu darn dawns mewn o'u cartrefi.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyswllt, Lee Johnson, “Mae'r darn dawns adfywiol hwn yn hawdd i uniaethu ag o gan ei fod yn neidio o dennis i fersiwn o 'Pen, Ysgwyddau, Coesau, Traed', i gystadleuaeth ddawnsio, ac o'r rhain i ddawnsfeydd egniol sy'n defnyddio'r corff cyfan ac yn llawn llawenydd. Mae'r coreograffi yn soffistigedig a ffraeth ond eto'n hamddenol ac yn hawdd i uniaethu ag o.