Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn perfformio dawns newydd am y tro cyntaf gerbron cynulleidfaoedd Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos nesaf, cyn cynnal perfformiadau arbennig yn Japan ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2019.
Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn perfformio dawns newydd am y tro cyntaf gerbron cynulleidfaoedd Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos nesaf, cyn cynnal perfformiadau arbennig yn Japan ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2019.
- Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn perfformio’i ddawns newydd Rygbi – Annwyl i mi / Dear to me am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngogledd Cymru eleni
- Yna, bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn perfformio mewn digwyddiadau hollbwysig yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd 2019 yn Japan
- Caiff Rygbi – Annwyl i mi / Dear to me ei ysbrydoli gan angerdd Cymru dros ei gêm genedlaethol – rygbi
Heddiw, cyhoeddodd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru y bydd yn perfformio’i ddawns newydd, sef Rygbi – Annwyl i mi / Dear to me, am y tro cyntaf gerbron cynulleidfaoedd Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst, Gogledd Cymru eleni, cyn mynd ar daith i Japan i berfformio yng Nghwpan Rygbi’r Byd gerbron cynulleidfa fyd-eang.
Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn perfformio dawns o’r enw Rygbi – Annwyl i mi / Dear to me ar y Maes gerbron miloedd o Eisteddfodwyr wrth iddynt ddod yn llu i dref farchnad fechan Llanrwst y mis nesaf. Dawns awyr agored fer fydd hi yn dathlu rygbi yng Nghymru, yn ogystal â’r gobeithion, y bri a’r angerdd sydd ynghlwm wrth ddod ynghyd ar y cae ac oddi arno.
Cafodd y Prosiect Rygbi ei greu gyda, a’i ysbrydoli gan, chwaraewyr a chefnogwyr rygbi ledled Cymru, sydd hefyd wedi cael cyfle i gyfrannu at y ddawns. Hwn fydd perfformiad cyntaf Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol – bydd y ddawns yn cael ei pherfformio ar y Maes ddydd Iau’r 8fed a dydd Gwener y 9fed o Awst 2019.
Mae’r ddawns wedi’i chreu a’i choreograffu gan Gyfarwyddwr Artistig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Fearghus Ó Conchúir, a ddywedodd fod “Rygbi – Annwyl i mi / Dear to me yn cysylltu dawns ag angerdd Cymru dros natur gorfforol, barddoniaeth ac emosiwn rygbi. Mae’n ymwneud â’r cymunedau a gaiff eu creu gan rygbi ar draws y wlad a’r arena ryngwladol lle y gwelir cyrff Cymreig yn perfformio gyda grym, angerdd a sgil.”
Meddai wedyn: “Mae ein prosiect newydd, Rygbi, yn dod ag arbenigedd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru mewn dawnsio ac arbenigedd y genedl mewn rygbi ynghyd, gan ddathlu timau sy’n gweithio gyda’i gilydd i ysgwyddo gobeithion a breuddwydion cymunedau trwy gyfrwng perfformiadau ymroddedig ar y llwyfan ac ar y cae. Er mai Gwyddel ydw i, rydw i’n gobeithio y gall Cymru sylweddoli cymaint o fraint i’r cefnder Gwyddelig hwn yw gallu dangos agwedd ‘ddawns’ ar y gêm genedlaethol.”
Caiff rygbi a dawns eu cysylltu trwy eu harbenigedd mewn symud a thrwy berfformiadau ymroddedig yn llawn grym ac emosiwn. Mae’r gêm yn uno cyflymder a sgiliau, dagrau â llawenydd a chwmnïaeth â balchder. Mae wedi dod ag enw da i Gymru o amgylch y byd ymhlith llawer sy’n hel atgofion am ‘Oes Aur’ tîm rygbi Cymru yng nghanol y 60au a dechrau’r 70au gydag arwyr fel Barry John, Gareth Edwards a JPR Williams. Ddegawdau’n ddiweddarach, gallwn yn awr ddathlu llwyddiant chwaraewyr Cymru unwaith eto wrth i wŷr Warren Gatland ennill tlws y Gamp Gyflawn yn gynharach eleni.
Mae rygbi’n dod â chymunedau ynghyd ac yn creu anfarwolion
Wrth i gefnogwyr rygbi rhyngwladol ddod ynghyd i ddathlu prif dwrnamaint rygbi’r byd, bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn teithio i Japan ym mis Medi i gychwyn cyfres o berfformiadau ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2019. Bydd perfformiad cyntaf y cwmni’n cael ei gynnal yn Nhŷ Cymru Llywodraeth Cymru yn Tokyo, cyn y gêm rhwng Cymru a Georgia.
Mae’r Prosiect Rygbi yn cynnwys amrywiaeth o berfformiadau byw – rhai dan do a rhai yn yr awyr agored – gyda gweithdai, gwaith digidol, sgyrsiau a mannau cymdeithasu. Bydd y rhain i gyd yn cael eu datblygu gyda chymunedau Cymru yn ystod y blynyddoedd nesaf. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.ndcwales.co.uk
Llwyddwyd i greu Rygbi – Annwyl i mi / Dear to me gyda chefnogaeth hael y Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.
Dymuna Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ddiolch i Lywodraeth Cymru, y British Council a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru am eu cymorth parod.