Cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru yn Cyflwyno
The Boy With Two Hearts
12 – 17 Medi 2022
gan Hamed a Hessam Amiri addaswyd ar gyfer y llwyfan gan Phil Porter
Stori o obaith, o Affganistan i Gymru
Herat, Affganistan. 2000.
Pan mae mam ifanc yn siarad yn erbyn y Taliban, mae’n rhaid iddi hi a’i gŵr ffoi o’r wlad gyda’u tri mab.
Maent yn cychwyn ar daith hir a brawychus ar draws Rwsia, drwy Ewrop i geisio lloches yn y DU.
Ond wrth i gyflwr calon difrifol eu mab hynaf, Hussein, waethygu mae’r daith yn troi’n ras yn erbyn amser iddo dderbyn llawdriniaeth brys.
_
Yn dilyn tymor agoriadol yn 2021 pan werthwyd pob tocyn, mae The Boy with Two Hearts yn dychwelyd i Gaerdydd cyn teithio i National Theatre Llundain.
Yn seiliedig ar y llyfr gwreiddiol gan Hamed Amiri (Llyfr yr Wythnos ar BBC Radio 4) a phrofiadau bywyd anhygoel ei deulu. Mae’r addasiad llwyfan arobryn hwn yn stori bwerus o obaith, dewrder a dyngarwch – ac yn deyrnged deimladwy i'r GIG.
★★★★ The Telegraph
powerful...moving
★★★★ The Stage
thrilling, timely and heartfelt
★★★★ The Guardian
deserves as wide an audience as possible, from schoolchildren to politicians
Gyda chefnogaeth hael gan Peter a Jan Swinburn a Bob a Lindsay Clark. Cefnogwyd y cynhyrchiad gwreiddiol gan Gronfa Diwylliant Garfield Weston.