alt-routes image

Alternative Routes; Dawns a Dylunio gan egin artistiaid Caerdydd

Dros gyfnod o 10 mlynedd mae Alternative Routes wedi rhoi cyfle i ddawnswyr ddatblygu eu gwaith a’u harddull coreograffi ochr yn ochr â myfyrwyr dylunio sy’n creu gwisgoedd, goleuadau, seinwedd a setiau i gyd-fynd â’r dawnsfeydd. Mae Alternative Routes yn noson o ddawns a dylunio gan artistiaid sydd â’u bys ar bwls diwylliant creadigol a chydweithredol Caerdydd. 

Dros gyfnod o 4 wythnos bydd y dawnswyr a’r dylunwyr yn cydweithio i greu 4 dawns. Eleni bydd y dawnswyr Ed Myhill, Kat Collings, Nikita Goile a Tim Volleman yn creu eu syniadau eu hunain ar gyfer y llwyfan. Yn ogystal â gweithio gyda dylunwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, eleni bydd tri o’r coreograffwyr yn gweithio gyda chyfansoddwyr o’r coleg hefyd.

Mae’r 4 dawns ar gyfer Alt Routes 2018 yn wahanol ac yn unigryw. Ysbrydolwyd dawns Ed Myhill Why Are People Clapping gan ‘gerddoriaeth glapio’r cyfansoddwr Steve Reich, a bydd yn defnyddio rhythm ac offerynnau taro fel sylfaen i’w ddawns. Bydd y gerddoriaeth yn cael ei pherfformio’n fyw gan y dawnswyr, bydd yn archwilio sain syml clapio a sut y gellir ei defnyddio i greu seinwedd ac amgylchedd lliwgar ac egnïol ar gyfer dawns.

Mae Ecrit gan Nikita Goile wedi’i hysbrydoli gan lythyr a ysgrifennwyd gan Frida Kahlo at Diego Riviera. Bydd yn archwilio’r pwyntiau rhwng gwahoddiad a digalondid; i ba raddau y gallwn ddylanwadu ar ein gilydd ac i ba raddau y gallwn wthio’r ffiniau rhwng dylanwadu a cholli rheolaeth.

Mae Panopticon gan Tim Villeman yn ymdrin â phreifatrwydd ar-lein. Faint o wybodaeth amdanom ein hunain ydym ni’n ei datgelu bob dydd heb feddwl dwywaith? A beth yw’r canlyniadau? Bydd Tim yn archwilio’r pwnc ynghyd â’i ddawnswyr, gan drosi’r syniadau’n ddeuawd gorfforol.

Bydd Kat Collings yn creu dawns i fynegi pleser gonest symudiad, cerddoriaeth a rhythm; a bydd yn archwilio’r ffyrdd niferus y gall rhywun fynegi ei hun heb yngan gair.

Mae Alternative Routes yn rhoi mynediad unigryw i brofi’r PRESENNOL a’r NEWYDD, ac ymwrthod â’r hyn sy’n GYFFREDIN mewn awyrgylch agos.

Mae Alt Routes wedi helpu i lansio gyrfaoedd coreograffwyr, dylunwyr a gwneuthurwyr dros gyfnod o 10 mlynedd, ac mae nifer o’r artistiaid a’u gwaith bellach yn cael eu canmol ledled y byd, yn cynnwys Matteo a greodd ddawns Omertá sydd wedi ennill "Coreografia D’Autore" ar gyfer Prix De Sicilie yn 2017 ac roedd yn rhan o daith Roots CDCCymru 2017.

Creodd Mathieu Geffre What Songs May Do a gafodd ei chynnwys yn y 30ain Gystadleuaeth ar gyfer Coreograffwyr yn Hanover a derbyniodd y 3edd Wobr am Goreograffi yn 9fed Gystadleuaeth Coreograffi Rhyngwladol Copenhagen; ac mae They Seek to Find the Happiness They Seem gan Lee Johnston wedi bod ar daith fel rhan o repertoire CDCCymru am y ddwy flynedd ddiwethaf.

Bydd Alternative Routes yn cael ei berfformio yn y Tŷ Dawns, Caerdydd rhwng 7 a 9 Mehefin. Yn ogystal â’r perfformiad bydd Ymarferiadau Agored ddydd Mercher 16, 23 a 30 Mai am 6pm i gynulleidfaoedd gael cipolwg ar y broses greu. Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim.

Mae tocynnau ar werth yn Swyddfa Docynnau Canolfan Mileniwm Cymru. Ffoniwch 029 2063 6464 neu ewch i ndcwales.co.uk