yn Cyflwyno
VERVE: Rhaglen Driphlyg 2024
19 – 20 Ebrill 2024
Dewch i weld lle mae dawns y funud hon, a lle allai fynd nesaf.
Yn 2024 mae VERVE yn cyflwyno rhaglen fentrus o waith dawns, yn cynnwys comisiynau newydd gan y Cyfarwyddwr Artistig Matteo Marfoglia a’r coreograffydd Joy Alpuerto Ritter, ynghyd ag ail-lwyfaniad pwerus o ‘People used to die’ gan y casgliad o gwmnïau rhyngwladol o fri (LA)HORDE.
Sylwch fod y sioe hon yn cynnwys y canlynol: Tarth, Goleuadau Fflach, Goleuo Strôb, Synau Uchel
VERVE yw cwmni teithio rhyngwladol Northern School of Contemporary Dance (NSCD) sy’n cynnwys deunaw o ddawnswyr talentog, wedi’u hyfforddi yn rhai o conservatoires mwyaf blaenllaw’r byd. Bob blwyddyn, mae’r cwmni’n comisiynu coreograffwyr o bob cwr o’r byd i greu rhaglen ddifyr o waith dawns sy’n gorfforol feiddgar ac yn unigryw o ran celfyddyd.