John-William Watson
Hang in There, Baby
Wedi'i lleoli yng nghanol parti gwaith yn y flwyddyn newydd, daw'r gomedi dywyll hon yn gynyddol swreal wrth i undonedd di-baid bywyd swyddfa chwalu'n 'hunllef bac-man-aidd'.
“The you of today, but also tomorrow; somehow.”
Richard Life, Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Life & Stuff Incorporated
Mae 'Hang In There, Baby' yn archwilio'n perthynas â ffawd a gwneud penderfyniadau. Wedi'i lleoli yng nghanol parti gwaith yn y flwyddyn newydd, daw'r gomedi dywyll hon yn gynyddol swreal wrth i undonedd di-baid bywyd swyddfa chwalu'n 'hunllef bac-man-aidd'.
Gan gyfuno sgript ffuglen wyddonol, dylunio gwych a sgôr gwreiddiol gan Adam Vincent Clarke, mae'r ddawns hynod ddoniol ac annisgwyl hon yn eich annog i ddal eich tir, waeth beth fo'r canlyniadau.
Hyd: 20 minutes
Dawnswyr: 4
Premiere CDCCymru: 19 Marwth 2025
Perfformiad: Alys Davies, Edward Myhill, Faye Tan and Jill Goh
Cysyniad, Creu ac Ysgrifennu: John-William Watson
Cyd-greu: Beth Emmerson, Nya Bardouille, Magdalena Anna Górnikiewicz & Lara Peres Rocha
Dylunio Goleuadau: Ryan Joseph Stafford
Set a Dylunio Gwisgoedd: John-William Watson & Joshua Cartmell
Cyfansoddiad Gwreiddiol a Dylunio Sain: Adam Vincent Clarke
Offerynwyr: Sarah Bayens (Violin), Miko Pablo (Cello), Markiyan Popil (Piano)
Peiriannydd Recordio: Noah Senden
Cymysgu a Chaboli: Adam Vincent Clarke
Cyfansoddwr It’s a Sin to Tell a Lie: Billy Mayhew
Artistiaid Recordio It’s a Sin to Tell a Lie: The JazzMob
Cymysgu a Recordio It’s a Sin to Tell a Lie: Nicholas Thayer
Ymgynghorwyr Creadigol: Jasmine Lily Norton, Joshua Cartmell
Fe’i comisiynwyd yn wreiddiol gan Sadler’s Wells
Gyda Diolch i Nóra Fay
John-William Watson
![John-William wears a black jumper, white shirt and gold tie, and a confused expression as they pull a party hat strapped under their chin with elastic away from their head, they have short, softly curled hair and rosy cheeks](/sites/default/files/styles/large/public/2025-02/John%20william%20watson%20by%20camilla%20greenwell_0.jpg?itok=t3Kp-r-u)
Mae John-William Watson yn ddawnsiwr, yn gyfarwyddwr ac yn goreograffydd llawrydd o Leeds. Ar ôl graddio yng Nghonservatoire Brenhinol Antwerp yn 2019, buan iawn y gwnaeth Watson gerfio llwybr iddynt eu hunain, gan greu ‘dramâu-dawns’ hunan-ddisgrifiedig a swreal a lwyddodd i ennyn canmoliaeth y beirniaid – gan fynd ati’n aml i archwilio’r cydadwaith rhwng ffuglen wyddonol, comedi ddu a dawns gyfoes.
Comisiynwyd Watson yn flaenorol gan sefydliadau fel Sadler’s Wells, Messums West a’r Riley Theatre. Roeddynt yn Goreograffydd Cyswllt Ifanc yn Sadler’s Wells rhwng 2020-22, yn Artist ‘Northern Connection’ yn 2021/22, ac yn Artist Messums West 4x20 yn 2023.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, dechreuodd Watson berfformio eu gwaith eu hunain a hefyd ar gyfer Beth Emmerson, artist dawns o’r DU. Dechreuodd sbardun cyntaf Watson ar gyfer perfformio gyda’u gwaith cwmni solo cyntaf ‘Why This Chair Does Not Exist’ yn 2024 sydd, ers hynny, wedi teithio trwy’r wlad a’r byd. Portread swreal, slapstic lle archwilir cydberthynas unigolyn ag ymwybyddiaeth a marwolaeth; gyda dylanwad bydoedd Buster Keaton a Jacques Tati.
Mae Watson wedi cyflwyno gwaith ym Mhrif Theatr Sadler’s Wells yn y DU, yn Stiwdio Lillian Bayliss Sadler’s Wells yn y DU, yn The Riley Theatre yn y DU, yn y Birmingham Hippodrome yn y DU, yn y Pavilion Dance South West yn y DU, yn Messums West yn y DU, yn Bartholomew Fair yn y DU, yn Teatro Vascello yn yr Eidal, yng Ngŵyl Noorderlicht yn yr Iseldiroedd ac yn y Théâtre Basse Passière yn Ffrainc.
Y tu allan i waith coreograffi, mae Watson wedi gweithio fel mentor i goreograffwyr ifanc, yn annibynnol ac ar gyfer rhaglen ‘Young Creatives’ One Dance UK. Maent yn aelod o dîm y Cwmni Dawns Ieuenctid Cenedlaethol, gan gynnig cymorth bugeiliol yn nhîm cymorth y cwmni a chan weithio fel hwylusydd ar draws amryfal brosiectau, yn fwyaf diweddar gyda rhaglen ysgolion NYDC a roddwyd ar waith ledled y wlad.
Llun: Camilla Greenwell a Foteini Christofilopoulou
![four dancers dressed like office workers stand, sit and lie around a small set of an office, one types, one hugs a plant, one stands and the other lies on the floor, screaming](/sites/default/files/styles/banner/public/2025-02/Cream%20and%20Red%20Modern%20Art%20Workshop%20Poster.pdf%20%281420%20x%20610%20px%29%20%284%29.png?itok=7xcWT3cu)
![a vibrant red light covers the stage and set whilst a dancer dressed as an office worker and wearing a party hat addresses the audience in front of a small set of an office](/sites/default/files/styles/banner/public/2025-02/Cream%20and%20Red%20Modern%20Art%20Workshop%20Poster.pdf%20%281420%20x%20610%20px%29%20%283%29.png?itok=1rPKT0U6)