London Vocational Ballet School yn Cyflwyno

LVBS Experience Sessions 2024

5 Hydref 2024

Ballet Pop Up

Mae’r London Vocational Ballet School (LBVS) ar daith yn Ne Lloegr ac am gyfnod byr, byddant yn cynnig cyfleoedd profiad newydd i fyfyrwyr rhwng 10 ac 16 oed.

Dydd Sadwrn 5 Hydref 2024:
'Junior Experience Masterclass' (Ifanc: 10-13 oed) 13:00 - 14:30
'Senior Experience Masterclass' (Hŷn
14-16 oed) 14:45 - 16:15

 

Yn ein dosbarthiadau meistr sy’n cynnig profiadau unigryw, cyflwynir sesiynau sy’n canolbwyntio ar dechneg glasurol, lle gall myfyrwyr brofi arddull hyfforddiant LVBS mewn awyrgylch dosbarth meistr gyda hyfforddiant arbenigol gan ein cyfadran ochr yn ochr â chyfeiliant ysbrydoledig piano byw. Mae'r sesiynau profiad yn gyfle i gael blas ar y modd y mae myfyrwyr yn LVBS yn hyfforddi a hefyd yn rhoi cyfle i gyfranogwyr arddangos eu talent i gyfadran yr ysgol amser llawn.

Dywedodd Gavin McCaig, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Busnes:

Rydym wedi bod yn datblygu ein cynlluniau i ehangu ein hyfforddiant enwog ers dros flwyddyn bellach. Ein diwrnodau profiad ni yw'r cam nesaf yn ein cynllun i gyrraedd cynifer o bobl ifanc â phosibl yn Ne Lloegr ac edrychwn ymlaen at groesawu darpar ddawnswyr o Woking, Caerdydd a Brighton ar gyfer y sesiynau sy'n cael eu cynnal ar draws yr Hydref a chyflwyno ein harddull hyfforddi a'n hethos yn LVBS."

Darganfod, Dysgu, Ffynnu: Bydd sesiynau profiad LVBS yn tanio eich angerdd am bale.

 

two ballet dancers with the word CARDIFF over them
Dates
Dydd Sadwrn 5 Hydref 2024, 13:00
Dydd Sadwrn 5 Hydref 2024, 14:45