gan Lea Anderson
Zoetrope
Dewch yn llu i gael eich diddanu a’ch syfrdanu ym myd rhyfeddol Zoetrope!
A yw awr yn ddigon o amser i ddysgu am holl hanes dyn? Mae’n annhebygol.
A yw’n ddigon o amser i gael eich syfrdanu, eich diddori a’ch diddanu? Yn bendant.
Bydd eich dychymyg yn rhedeg yn wyllt wrth i fadfallod, tsimpansïaid a sgerbydau neidio a llamu ar draws llwyfan, yn archwilio cerddoriaeth ac effeithiau clyfar.
Mae’r profiad swynol hwn i’r teulu cyfan yn cyfuno holl hwyl y ffair gyda champau acrobatig a dawns er mwyn archwilio ystyr bywyd, tarddiad ffilm a’n hatyniad at hud a lledrith.
Coreograffi gan yr enwog Lea Anderson MBE.
“With its musical whirrs, clicks and glitches Zoetrope opens up a strange world…the show was very funny. An amusingly offbeat creation from an artist as imaginative as ever.”
The Guardian
“it reminded me how brilliantly playful dance is as a medium, it was funny, it was silly and playful but it was also clever”
Lead Curriculum Achievement Officer, Welsh Government
"Absolutely loved it. Surreal cabaret dance show doesn’t do it justice. Bonkers and stylish."
Audience Member
"An excellent show from NDCWales Zoetrope was amazing and the children loved it!"
School
“fun, weird and funny”.
Young person
Beth yw Zoetrope?
Mae zoetrope yn ddyfais animeiddio cyn y ffilm sy’n cynhyrchu camargraff o symudiad drwy arddangos cyfres o luniadau neu ffotograffau sy’n dangos camau dilynol y symudiad hwnnw.
About Zoetrope
Hyd: 50 minutes
Danswyr: 5-7
Coreograffydd: Lea Anderson
Cyfansoddwyd: Steve Blake
Dylunio: Simon Vincenzi
Dyluniad Goleuo: Marty Langthorne
Goruchwyliwr Gwisgoedd: Deryn Tudor
Gwneuthurwr Gwisgoedd: Danial Thatcher
Gwneuthurwr Prop: Johanna Lloyd
Lea Anderson
Lea Anderson
Coreograffydd a chyfarwyddwr artistig wedi’i lleoli yng Ngogledd Dyfnaint yw Lea Anderson.
Lea yw cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr artistig y cwmni The Cholmondeleys a The Featherstonehaughs. Yn ogystal â theithio’n estynedig o amgylch y DU a thramor, mae’r cwmnïau yn adnabyddus am eu gwaith arloesol mewn gofodau a lleoliadau y tu hwnt i’r theatr.
Yn 2002 derbyniodd Lea MBE am ei gwasanaeth i ddawns, ac yn 2006, derbyniodd Ddoethuriaeth er Anrhydedd yn y Celfyddydau o Dartington College of Arts. Yn 2014, penodwyd Lea yn Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Califfornia yn Los Angeles.
Mae gwaith nodedig diweddar Lea yn cynnwys:
2022: Shuffle: gwaith dawns ryngweithiol ar daith, a welodd y gynulleidfa’n cymryd rhan fel mynychwyr clwb a phleidleiswyr. Yn gyfuniad o berfformiad a gêm
2020: Elvis Legs (Quarantine Mix): gwaith dawns ensemble o bell, a ariannwyd drwy Kickstarter ac a ffilmiwyd ar Zoom yn ystod y cyfnod clo Covid.
2019: Los Amores de Marte y Venus: comisiynwyd gan Danza Contemporanea de Cuba o Havana, Ciwba.
2019: Laberinto: comisiynwyd gan Compania Danza PUCP, Periw.
2019: The Alien’s Guide to Dance Gone Wrong, gwaith comisiwn ar gyfer Maiden Voyage, Belffast (2019).
Duckie Loves Fanny, comisiynwyd gan Duckie 2019
Mae ei gwaith digidol a ffilmiau yn cynnwys:
Dance:Capture:Chelsea-21, 2021. Comisiynwyd gan Chelsea Theatre, Llundain, casgliad ffilm o ddawnsfeydd a ganfuwyd.
Pans People Papers, 2015. Prosiect trawsgyfryngol gyda Marisa Zanotti
How to Talk to Girls at Parties 2017, ffilm nodwedd a ysgrifennwyd gan Neil Gaiman ac a gyfarwyddwyd gan John Cameron Mitchell
The Lost Dances of Egon Schiele 2000, BBC. Cyd-gyfarwyddwyr: Lea Anderson a Kevin McKiernan.
Velvet Goldmine 1997, ffilm nodwedd a gyfarwyddwyd gan Todd Haynes
Mae gan Lea ddiddordeb arbennig mewn treftadaeth ddiwylliannol annirweddol a chasgliadau byw, ac mae hi wedi cynhyrchu arddangosfeydd perfformiadol yn yr amgueddfa V&A (Hand in Glove, 2016), Amgueddfa ac Oriel Gelf Bryste (Trying it On, 2018), ac ar dir safle archaeolegol yn Lima, Periw (Huaca, 2017). Bu Lea yn artist preswyl yn Amgueddfa Horniman, Llundain yn 2019, ac yn Gymrawd Creadigol yn The Bill Douglas Film Museum, Caerwysg 2019-2020.
Rhieni
Rydym yn cynnig gweithdai am ddim i gynulleidfaoedd Zoetrope, ein sioe newydd ar gyfer ysgolion a theuluoedd.
Gall y rheiny sy’n mynychu ddydd Sadwrn 27 Ebrill fwynhau gweithdy creu propiau ac yna cyfle i ddawnsio, cyn gwylio perfformiad anhygoel.
11am-12pm: Creu eich Zoetrope eich hun
12pm-1pm: Gweithdy Dawns Theulu
2.30pm – 3.30pm: Perfformiad
Nid oes angen cadw eich lle ymlaen llaw.
Bydd gweithdai yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar lwyfan Glanfa a Lolfa - galwch heibio a chymerwch ran.
Mae’r gweithdai am ddim i unigolion sy’n meddu ar docynnau ar gyfer y perfformiad Zoetrope.
Ysgolion
Mae dawns yn un o bum disgyblaeth y Maes Celfyddydau Mynegiannol o Ddysgu a Phrofiad
Byddem wrth ein bodd yn eich helpu.
Mwy
Cefnogir gan