Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi Artistiaid Cyswllt newydd
Mae'n bleser gan CDCCymru gyhoeddi bod June Campbell-Davies a Osian Meilir yn Artistiaid Cyswllt newydd y Cwmni. Mae rhaglen Artistiaid Cyswllt CDCCymru yn ysgogiad i gefnogi creawdwyr dawns o Gymru ac wedi'u lleoli yng Nghymru, a datblygu dawns fel ffurf ar gelfyddyd.
Mae June Campbell-Davies yn ddawnsiwr, coreograffydd ac Artist Carnifal sydd wedi'i lleoli yng Nghaerdydd. Mae June ynghlwm â sawl cydweithrediad a phrosiectau estyn allan ledled Cymru ac yn arwain dosbarthiadau symudedd ar gyfer Côr Un Byd Oasis.
"Rwy'n dod o hyd i wahanol ffyrdd o barhau fy ymarfer fel perfformiwr ac mae coreograffi yn estyniad o'm creadigedd...fel gadael olion traed yn y gofod...rwy'n edrych ymlaen yn arw at weithio gyda CDCCymru ar y Daith hon."
Mae Osian Meilir yn berfformiwr, creawdwr dawns ac artist symudedd wedi'i leoli yng Nghymru. Mae gwaith Meilir fel perfformiwr yn golygu eu bod wedi cael cyfle i weithio gydag amrywiaeth o artistiaid a chwmnïau ledled y DU. Aethant ati i gynnal ei gynhyrchiad cyntaf ar raddfa ganolig sef 'Qwerin', fel cyfarwyddwr a choreograffydd yn 2021.
"Rwy'n hynod falch o gael fy newis fel Artist Cyswllt CDCCymru. Rwy'n edrych ymlaen at ddatblygu perthnasoedd newydd drwy'r rôl hon, ochr yn ochr â'm hymarfer symudedd a choreograffig gyda chymorth y cwmni - mae'n gyfnod cyffrous iawn i mi!"
Dros ddwy flynedd, bydd yr Artistiaid Cyswllt yn ymgysylltu â'r cwmni ar nifer o brosiectau ar draws ardaloedd, ac mae'r cwmni yn ymrwymo i gefnogi'r artistiaid sydd wedi'u dewis i ddatblygu eu prosiectau annibynnol eu hunain.
Gyda'i gilydd, bydd yr Artistiaid Cyswllt a Chyfarwyddwr Artistig CDCCymru, Matthew Robinson, yn datblygu rhaglen unigryw o gymorth sy'n manteisio ar adnoddau'r cwmni, yn ystyried diddordebau'r artist, ochr yn ochr â gwerthoedd a blaenoriaethau strategol y cwmni - y nod yw rhannu gwybodaeth, magu dealltwriaeth, a gweithio gyda'n gilydd i hyrwyddo dawns fel ffurf ar gelfyddyd.
"Rhagwelir y bydd y cysylltiad yn un chwilfrydig a holgar ar y ddwy ochr, a dymunir perthynas datblygiadol a thrawsnewidiol ar gyfer y ddau barti." meddai Matthew Robinson, Cyfarwyddwr Artistig.
"Drwy'r berthynas, bydd CDCCymru a'r Artistiaid Cyswllt yn ceisio datblygu, gan ddysgu gan arbenigedd unigryw y naill a'r llall, a chefnogi ei gilydd drwy brosiectau sydd o fudd i bawb ynghlwm."
Oherwydd safon uchel y mynegiannau o ddiddordeb sydd wedi dod i law, mae CDCCymru wedi penderfynu comisiynu Daisy Howell i gynhyrchu gwaith newydd i'w berfformio yn y Tŷ Dawns y flwyddyn nesaf, fel rhan o noswaith gyffrous o bedwar darn newydd sbon o ddawns yn para deg munud yr un wedi'u creu gan artistiaid coreograffig o Gymru neu wedi'u lleoli yng Nghymru. Bydd dawnswyr Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn plymio i fydoedd coreograffig y tri artist hyn, y ddau Artist Cyswllt newydd a Daisy Howell a bydd ein Hartistiaid Cyswllt Ifanc yn cyflwyno darn newydd o waith gan ein Cyfarwyddwr Artistig, Matthew Robinson.
"Mae'n flwyddyn gyffrous ar gyfer CDCCymru wrth i ni ddod o'r pandemig. Y dyfodol sy'n bwysig i ni nawr. Rwyf wrth fy modd o gael gweithio gyda'n Hartistiaid Cyswllt, i gefnogi eu hymholiad artistig a chroesawu eu syniadau a phersbectifau i'n rhaglenni perfformio ac ymgysylltu."
Left: June Campbell-Davies (Photo: Ffion Campbell-Davies)
Right: Osian Meilir (Photo: Anest Roberts)