Tasgu Llawrydd Cymru: nodyn o'n Krystal Lowe
Ein llais: Casglu profiad artistiaid duon Cymreig neu sy'n byw yng Nghymru
Ar ôl sylwi ar y diffyg cyfleoedd sydd i artistiaid duon i rannu eu profiadau o fewn y sector yng Nghymru, mae Krystal S. Lowe wedi penderfynu defnyddio ei rôl ar y tasglu llawrydd i gasglu a rhannu profiadau byw artistiaid duon Cymreig neu sy'n byw yng Nghymru.
Bydd y profiadau yn cael ei gasglu i sicrhau bod lleisiau'r rhai sy'n cael eu hepgor fwyaf yn cael eu clywed gan y sector o'r diwedd.
Yn sgil y mudiad ' Black Lives Matter ', ac yn seiliedig ar ymateb y sector, hoffai Krystal ddefnyddio'r llythyr cyfunol hwn i sicrhau, wrth i'r sector symud yn ei flaen ei bod yn fwy amrywiol a'i fod hefyd yn amgylchedd iach i artistiaid du, yn enwedig i'r rhai sy'n camu i mewn i'r sector yn ogystal â pharchu'r gwaith angerddol a chyfraniad gwerthfawr y mae artistiaid du eisoes wedi'i wneud.
Ar ôl i'r llythyr hwn gael ei gwblhau, fe wnawn ei gyhoeddi fel rhan o'r 'Zine' sy'n cael ei greu gan y Tasglu Llawrydd Y Deyrnas Unedig a fydd yn cael ei chyhoeddi a'i dosbarthu ar ddiwedd amser y tasglu yn ogystal â'i ddosbarthu i'r holl weithwyr llawrydd a'r sefydliadau sy'n gweithio yn sector y celfyddydau.
Os ydych chi'n artist du a hoffech i'ch profiadau fod yn rhan o'r llythyr hwn, yna cysylltwch â Krystal ar Krystalslowe.contact@gmail.com â'ch straeon ym mha ffordd bynnag rydych chi'n teimlo'n