Datganiad gan Paul Kaynes, Prif Weithredwr CDCCymru a Lee Johnston, Cyfarwyddwr Cyswllt CDCCymru
"Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad ynghylch cyllid hanfodol ar gyfer y celfyddydau a diwylliant yn y DU, ac mae’n newyddion gwych bod dyraniad arbennig ar gael i Gymru. Mae sector y celfyddydau yng Nghymru’n gyd-ddibynnol - gyda rhwydwaith o gwmnïau, lleoliadau ac artistiaid llawrydd yn chwarae rhan allweddol mewn creu sector amrywiol ac uchelgeisiol, gyda chyrhaeddiad ac effaith bwerus. Bydd y cyllid hwn yn sicrhau bod creadigrwydd ac arloesedd yn parhau i ffynnu. Bydd hefyd yn galluogi newid, fel bod y celfyddydau yng Nghymru yn adlewyrchu bywydau ac uchelgeisiau pawb, yn cynnwys y rhai sydd ddim yn draddodiadol wedi llwyddo i gynnig llais yn y gorffennol. Rydym yn edrych ymlaen at glywed y manylion ynghylch sut fydd y cyllid yn cefnogi’r rhwydwaith hwn o unigolion a sefydliadau, i sicrhau bod sector diwylliannol Cymru yn gallu ffynnu yn ystod, ac ar ôl Covid-19."