Dawnswyr CDCCymru yn creu dawns glapio i DDIOLCH i weithiwyr cymorth ar gyfer ymgyrch 'Clapio dros Ofalwyr' y dydd Iau hwn.
Clapiwch am yn hir, clapiwch yn uchel a chlapiwch i ddweud diolch.
Y dydd Iau hwn (23 Ebrill) wrth i'r DU ddod ynghyd ar gyfer yr ymgyrch wythnosol 'Clapio dros Ofalwyr', bydd dawnswyr o Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn perfformio eu dawns glapio fer eu hunain fel diolch i'r GIG a gweithwyr allweddol ar ôl 8pm ar-lein ac maent yn gofyn i gynulleidfaoedd ymuno â nhw wrth glapio am yn hir, clapio'n uchel a chlapio i ddweud diolch.
Ffilm ddawns fer wedi'i recordio ymlaen llaw yw'r dilyniant clapio 1 funud o hyd a ysbrydolwyd gan Why Are People Clapping!? Ed Myhill’s Why Are Crëwyd y darn dawns gwreiddiol fel rhan o dymor Llwybrau Amgen Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn 2018, cyn iddo fynd ar daith fel rhan o daith Roots Cwmni yn 2019.
Mae'r darn Why Are People Clapping!? wedi'i osod i Clapping Music Steve Reich ac mae'n defnyddio rhythm fel grym ysgogi. Mae'r dawnswyr yn defnyddio symudiadau bywiog a chlapio i greu trac sain ar gyfer y ddawns hwyliog ac egnïol.
Mae'r fideo byr yn fodd o ddiolch i'r GIG, gofalwyr a gweithwyr cymorth ledled y DU a thu hwnt. Ymunwch â ni wrth i ni glapio am yn hir, clapio'n uchel a chlapio i ddweud diolch.
Lansiodd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ei raglen ddigidol ar-lein yr wythnos ddiwethaf, KiN: Wedi ein cysylltu gyda dymuniad i greu cymuned ar-lein ar gyfer dawns gyda chynulleidfaoedd, cyfranogwyr a'r sector.