Fearghus Ó Conchúir yn trosglwyddo'r awenau yn CDCCymru
Bydd y Cyfarwyddwr Artistig yn symud ymlaen yn hwyrach yn 2020
Mae Fearghus Ó Conchúir a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn symud ymlaen o'i swydd fel Cyfarwyddwr Artistig ar ddiwedd taith y Gwanwyn 2020, ar ôl mwy na dwy flynedd efo'r Cwmni.
Dywedodd Jane McCloskey, Cadeirydd Bwrdd CDCCymru:
"Yn anffodus, mae Fearghus yn rhoi'r gorau i'w swydd er mwyn cyflawni cydbwysedd gwell rhwng gwaith a bywyd. Ef yw dirprwy gadeirydd Cyngor Celfyddydau Iwerddon, tra bod ei deulu yn Llundain, ac mae wedi'i chael hi'n anodd iawn ceisio cydbwyso hyn gyda gofynion bod yn gyfarwyddwr artistig cwmni mawr mewn trydedd brifddinas.
"Ar ôl dwy flynedd o ddod i adnabod Fearghus a gweithio gydag ef fel ein Cyfarwyddwr Artistig, gwn pa mor anodd oedd y penderfyniad hwn iddo yn bersonol. Fodd bynnag, mae'r berthynas rhwng Fearghus a'r Cwmni yn parhau i fod yn glos. Rydym yn hynod falch o gyfeiriad y Cwmni, ac mae ef wedi bod yn rhan allweddol o sefydlu hynny. Gofidiwn mai eleni fydd ei flwyddyn olaf fel cyfarwyddwr artistig, ond ein bwriad ni i gyd yw y bydd yn dychwelyd yn y dyfodol i weithio gyda ni ar wahanol brosiectau."
Bydd gwaith Fearghus yn parhau gyda CDCCymru, a hynny gyda'r prosiect Rygbi sy'n dal i dyfu a'r rhaglen 2020-22 yr oedd yn rhan sylweddol o'i datblygu.
Fel dywed Fearghus:
"Rydym wedi cwblhau'r gwaith cynllunio ar gyfer y blynyddoedd nesaf a fydd yn mynd â ni drwy'r gylchred artistig a busnes cyfredol, ac mae'r Cwmni ar lwybr cyffrous iawn. Hyderaf fod gan CDCCymru bopeth yn ei le i gyflawni ei uchelgeisiau a chyflwyno dawns wych i bob math o bobl ym mhob math o leoedd. Byddaf yn gweithio gyda'r dawnswyr a'r Cwmni cyfan drwy gydol eleni wrth i ni barhau i gyflawni'r uchelgeisiau hynny, a byddaf yn parhau i hyrwyddo'r gwaith gwych hwn yn y dyfodol."
Gan edrych tua'r dyfodol, dywedodd Prif Weithredwr CDCCymru Paul Kaynes:
Mae ein tymor 2020 cyffrous eisoes wedi dechrau ac mae gennym gynllun busnes cadarn ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod, felly er fy mod yn drist yn gweld Fearghus yn mynd, mae'n ein gadael ni mewn trefn dda. Nawr byddwn yn treulio amser yn ystyried y ffordd orau o sicrhau arweinyddiaeth artistig ddynamig ar gyfer y tymor hir. Bydd Fearghus efo ni tan ddiwedd y Gwanwyn, a dymunwn bob lwc iddo yn y dyfodol."
Cysylltwch â: Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru | Paul Kaynes | Paul@ndcwales.co.uk