Dance class in a room looking at each other

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ac English National Ballet yn ehangu eu rhaglen Dawnsio ar gyfer Parkinson's ar-lein ac i ddau ddosbarth arall yng ngogledd Cymru

Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) ac English National Ballet yn darparu mwy o gyfleoedd i bobl sydd â Parkinson's i gymryd rhan yn eu rhaglen dawnsio o ansawdd uchel ar-lein ac mewn dau leoliad newydd yng ngogledd Cymru ymhen amser.

Mae dosbarth Dawnsio ar gyfer Parkinson's CDCCymru ar gyfer pobl sy'n byw â Parkinson's, eu teulu, ffrindiau a gofalwyr wedi bod yn rhedeg ers 2015 fel hwb cysylltiedig i raglen Dawnsio ar gyfer Parkinson's English National Ballet.

Lansiwyd y dosbarth cyntaf yn y Tŷ Dawns (Canolfan Mileniwm Cymru) yng Nghaerdydd yn 2015, a'r ail yn Sefydliad Glowyr Coed-duon ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn 2018.

Yn ystod cyfnod clo pandemig 2020, bu'n rhaid i nifer o'r cyfranogwyr warchod eu hunain. Parhaodd CDCCymru i ddarparu cymorth ac ymgysylltiad gyda sesiynau ar-lein i gysylltu â'i gyfranogwyr ffyddlon.

Yn 2021, bydd CDCCymru ac ENB yn parhau i gynnig fersiynau ar-lein o'u dosbarthiadau a byddant hefyd yn creu dau hwb peilot yng ngogledd Cymru, Pontio (Bangor) a Choleg Cambria (Wrecsam).

Mae CDCCymru hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Chymunedau Digidol Cymru yn ystod y pandemig i roi'r hyder a'r sgiliau i'r holl gyfranogwyr ddefnyddio eu gliniaduron a llechi er mwyn cael mynediad i ddosbarthiadau ar-lein.

Yng Nghymru, amcangyfrifir bod oddeutu 6,000 o bobl yn byw â Parkinson's - gyda'r rhan fwyaf yn hŷn na 50 oed.  Profwyd bod dawnsio yn cefnogi pobl â Parkinson's i fagu hyder a chryfder, gan leddfu dros dro symptomau ym mywyd bob dydd rhai o'r cyfranogwyr. Mae dosbarthiadau Dawnsio ar gyfer Parkinson's yn fynegiadol, yn greadigol ac yn hyrwyddo teimladau o ryddid rhag cyfyngiadau corfforol a chymdeithasol Parkinson's.

Mae dosbarthiadau Dawnsio ar gyfer Parkinson's yn canolbwyntio ar un cynhyrchiad gan English National Ballet neu Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ac yn archwilio'r themâu a syniadau y tu ôl i symudiadau'r darn dawns hwnnw.

Bydd dosbarthiadau'r gwanwyn hwn yn canolbwyntio ar ddwy ffilm ddawns o dymor digidol diweddar English National Ballet, 'Senseless Kindness' gan Yuri Possokhov yn gyntaf, yna 'Jolly Folly' gan Arielle Smith i ddilyn.

Y tymor diwethaf, roedd y thema wedi'i hysbrydoli gan gynhyrchiad CDCCymru o Clapping?! gan Ed Myhill, sy'n defnyddio rhythm fel grym ysgogi ac fe gafodd ei ail-ddychmygu ar-lein yn ystod y cyfnod clo. Mae ffilm fer, Ed & Flow, wedi cael ei chynhyrchu o'r dosbarth ac ar gael i'w gwylio ar wefan CDCCymru www.ndcwales.co.uk

Mae CDCCymru a'u partneriaid yn rhoi cynlluniau ar waith i barhau i ddechrau'r sesiynau Zoom rhyngweithiol ar-lein eto, ond pan mae'n ddiogel i wneud hynny, cynnig y dosbarthiadau'n bersonol ym mhob un o'r pedwar hwb.

Dywedodd un cyfranogwr presennol Dawnsio ar gyfer Parkinson's, "Mae'r cyfnod clo wedi bod yn anodd iawn, nid oeddwn yn gallu gweld pobl na fy nheulu rhagor.  Roeddwn yn teimlo'n unig ac roedd fy lleferydd yn gwaethygu.  Helpodd y sesiynau Zoom i mi ailgysylltu ac roedd yn wych gweld yr athrawon a holl gyfranogwyr ein grŵp. Roedd y sesiynau yn codi calon ac roeddwn bob amser yn edrych ymlaen atynt."

Dywedodd mynychwr rheolaidd Dawnsio ar gyfer Parkinson's, Angela Harrison, "Mae'n gwneud i mi deimlo y gallaf ymdopi'n well; gallaf gerdded yn well... dyma'r cyffur gorau. Rwy'n dod i mewn yn teimlo fel hen fenyw, ond rwy'n gadael yn teimlo'n eithaf tal."

Dywedodd Guy O'Donnell, Cynhyrchydd Cyfranogi CDCCymru, "Rydym yn hapus dros ben i allu gweithio mewn partneriaeth â Pontio a Choleg Cambria a darparu'r cymorth hwn yng ngogledd Cymru. Rydym wedi gweld buddion y rhaglen hon a'r effaith mae wedi'i chael ar ein mynychwyr rheolaidd yma yn ne Cymru.

"Er na allwn fod gyda'n gilydd yn y cnawd ar hyn o bryd, mae'r gallu i gysylltu ar-lein wedi galluogi mynychwyr presennol i gymryd rhan o gysur eu cartref a chadw mewn cysylltiad â phobl yn gymdeithasol. Yr adborth a gawsom gan ein cyfranogwyr Dawnsio ar gyfer Parkinson's ffyddlon, oedd eu bod eisiau teimlo mewn cysylltiad o hyd a pharhau i deimlo buddion y rhaglen ar eu hiechyd. Roeddent yn awyddus ac eisiau bod yn fentrus a dysgu am dechnoleg, ac yn ffodus gyda chefnogaeth barhaus gan Gymunedau Digidol Cymru rydym wedi gallu gwneud hyn."

Yn ogystal ag annog cyfranogwyr newydd i ymuno â Dawnsio ar gyfer Parkinson's, mae CDCCymru yn parhau i chwilio am wirfoddolwyr i helpu i gefnogi cyfranogwyr y rhaglen.

Os hoffech ragor o wybodaeth a chofrestru i'r rhaglen fel cyfranogwr neu wirfoddolwr, cysylltwch â Guy O'Donnell, Cynhyrchydd Dysgu a Chyfranogi - guy@ndcwales.co.uk neu 07305 534 981.

Cefnogir Dawnsio ar gyfer Parkinson's gan Moondance Foundation, Hodge Foundation, Austin and Hope Pilkington Trust, a Western Power Distribution.

Am ragor o wybodaeth, ewch i ndcwales.co.uk