Jack Philp directing during his residency programme

Mae rhaglen Breswyl 2019 yn mynd rhagddi yng Nghwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

Ar ddydd Llun 3 Mehefin 2019, dechreuom ein rhaglen Breswyl ddiweddaraf yng Nghwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, gan gynnig cyfleoedd i artistiaid dawns Cymreig neu artistiaid dawns sydd wedi eu lleoli yng Nghymru ddatblygu eu gwaith eu hunain ac ymarfer yn y Tŷ Dawns, cartref Cymru i berfformio dawns.

Zosia Jo, Jack Philip, a Skakeera Ahmum yw'r artistiaid dawns ar Raglen Breswyl 2019, y mae gan bob un ohonynt gysylltiad cryf ag ymarfer dawns yng Nghymru.

 "Mae'n hynod bwysig i ni fel cwmni cenedlaethol gefnogi artistiaid dawns o fewn y sector, ac un ffordd yr ydym yn gwneud hyn yw drwy gynnig ardal ffisegol ein stiwdio, ein hamser a'n harbenigedd, fel y gallwn gefnogi'r artistiaid wrth iddynt ymchwilio i syniadau coreograffig newydd, datblygu cyweithiau newydd neu ddatblygu gwaith y maent eisoes wedi dechrau arno," meddai ein Cyfarwyddwr Artistig Fearghus.

Mae Zozia Jo, artist dawns, ysgrifenwraig a gwneuthurwraig sydd wedi ei lleoli yng Nghaerdydd, yn defnyddio'r rhaglen breswyl i adeiladu ar ei hymchwil parhaus sy'n defnyddio cyfuniad o ddychymyg, strwythur y corff a ffantasi i esgyn y tu hwnt i hunaniaeth o ran rhywedd ac ailddiffinio rhywioldeb benywaidd.  Yn adnabyddus am ei themâu ffeministaidd a defnydd o lais a gwaith llafar, mae gwaith Zozia yn tarddu o awydd am gysylltedd a chyfathrebu drwy symudiadau, gwaith byrfyfyr a pherfformio. Mae hi'n gobeithio y bydd y rhaglen breswyl hon yn ei galluogi i greu darn unigol a fydd yn dod yn hedyn ar gyfer corff ehangach o waith.

Mae Jack Philip, athro dawns gyfoes yn y Tŷ Dawns, sydd wedi gweithio ar gyfer sawl cwmni ac sydd wedi creu gwaith a gomisiynwyd ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru, yn artist arall o fewn y Rhaglen Breswyl. Bydd yn cydweithio â'r Athro Paola Borri o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd, a'r cyfansoddwr R. Seliog o Turnstyle Music i archwilio beth sy'n digwydd pan mae microsgopeg optegol yn cwrdd â symudiad. Fel rhan o'u prosiect diweddaraf Opto Nano, maent yn anelu at drosi ymchwil gwyddonol ynghylch delweddu aml-ffoton yn goreograffi dawns.

Eglura Jack fod "Cael lle cefnogol i dyfu camau cyntaf syniad creadigol newydd yn atyniad gwirioneddol wrth ymgeisio am y cyfnod preswyl. Mae'r Tŷ Dawns yn lle hynod ysbrydoledig i weithio, roedd y gefnogaeth gan y tîm yn CDC Cymru, yn ogystal â'r hyfforddiant sydd ar gael fel rhan o'r cyfle, yn sefyllfa gyffrous i ddysgu oddi wrthi."

Gyda'i hwythnos breswyl yn dechrau ar ddydd Llun 17 Mehefin, yr artist olaf o fewn y Rhaglen Breswyl eleni yw Shakeera Ahumn o Gaerdydd, sy'n awyddus i ddatblygu ei syniadau ymhellach wrth archwilio themâu cymuned ac uniad drwy symudiad a chelf weledol. Yn gweithio ar hyn o bryd fel artist dawns a gweledol llawrydd yng Nghaerdydd, mae gwaith Shakeera wedi ei ysbrydoli gan ei magwraeth yn nhawddlestr amlddiwylliannol Butetown.

Gyda nhw'u hunain yn gweithredu fel y grym gyriadol y tu ôl i ddatblygiad eu gwaith a'u hymarfer eu hunain, bydd yr artistiaid dawns yn gweithio gyda Fearghus a fydd wrth law drwy gydol y broses i hyfforddi ac arwain yr artistiaid gyda'r bwriad o'u helpu i fynd â'u darnau a'u prosiectau drwy gam nesaf y gwaith datblygu.

Drwy gydol y cyfnod preswyl, bydd yr artistiaid dawns yn cael eu ffilmio ar bwyntiau allweddol yn ystod eu hamser gyda ni, fel y gallwn ddal rhai o'r adegau allweddol o fewn eu datblygiad. Cadwch olwg ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol wrth i ni gyhoeddi'r lluniau a'r fideos hyn, fel eich bod yn dod yn rhan o fywyd cudd y prosesau creadigol sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni cyn bod y gwaith yn barod i'w berfformio.