Outside The Dance House

Llogi

 

Yn ogystal â bod yn gartref i Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru mae’r Tŷ Dawns hefyd yn gyfleuster cynhyrchu o’r radd flaenaf ac yn ofod perfformio ac ymarfer ar gyfer artistiaid lleol, grwpiau cymunedol a chwmnïau teithiol o’r DU.

Mae gennym ddau ofod trawiadol sy’n seiliedig ar ddawns, ac mae’r ddau ar gael i’w llogi drwy gydol y flwyddyn am bris cystadleuol, yn ogystal ag ardal lolfa, gofod swyddfa a theras to personol.

Os oes gennych ddiddordeb llogi un o'n mannau, llenwch ffurflen ymholiad a byddwn yn ymateb cyn gynted ag y gallwn.

Mae’r Tŷ bellach ar agor…

Bu’n chwith mawr peidio â gallu croesawu cyd-artistiaid a chwmnïau i’r stiwdio yma yn y Tŷ Dawns dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf, felly mae’n bleser mawr gennym allu eich croesawu chi yn ôl o fis Hydref ymlaen.
Bu’r tîm yn y Tŷ Dawns yn gweithio’n galed tu ôl i’r llenni i ofalu bod yr adeiladau a’n systemau yn ddiogel ac yn barod i ailagor.

Bydd tair ffordd y gallwch chi gael lle yn y Tŷ Dawns.

Partneriaethau

Rydym wastad yn barod i drafod yn nyddiau cynnar cyllido prosiectau er mwyn trafod y posibilrwydd o fod yn sefydliad partner ar eich prosiect a chynnig defnydd ymarferol o’r stiwdios.

Stiwdios Wrth Gefn

Ar ddydd Llun cyntaf bob mis, byddwn yn rhannu rhestr o ddyddiadau y bydd ystafelloedd stiwdio yn y Tŷ Dawns ar gael y mis canlynol, yn rhad ac am ddim, i artistiaid dawns annibynnol o Gymru neu artistiaid sy'n gweithio yng Nghymru.

Bydd y dyddiadau hyn yn rhad ac am ddim i'w harchebu a byddant yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Derbynnir archebion yn amodol ar feini prawf addasrwydd, megis gweithgarwch dawns yn unig ac o fewn oriau swyddfa. Mae'r manylion ar y dudalen archebu.  

Llogi Stiwdio

Os ydych chi’n gwybod o flaen llaw y bydd angen i chi gael stiwdio ar ddyddiadau penodol, yna gallwch ofyn am logi stiwdios drwy’r wefan.

Mae galw mawr am le, felly os ydych chi’n llogi lle i ymarfer neu ddim ar gyfer perfformio, rydym yn awgrymu eich bod yn cysylltu â ni o leiaf chwe wythnos cyn dyddiad cyntaf y gweithgarwch. Er mwyn llogi lle i berfformio, rydym yn awgrymu eich bod yn cysylltu â ni o leiaf deg wythnos cyn dyddiad cyntaf y gweithgarwch.

Rydym yn cynnig amryw o gyfraddau llogi yn dibynnu ar eich sefyllfa, o gyfradd artist lleol sydd yn talu am gost agor y lle yn unig, hyd at ein cyfradd logi fasnachol. Cysylltwch ar ein gwefan i holi beth sydd ar gael a’r cyfraddau.

Blue Room

Yr Ystafell Las

Mae gan yr Ystafell Las, y brif stiwdio cynhyrchu, y manyleb technegol o ansawdd uchaf ar gyfer cynhyrchu a chyflwyno dawns
Man Gwyn

Man Gwyn

Mae’r Man Gwyn yn fan delfrydol ar gyfer ymarferion, clyweliadau, gweithdai a chyflwyniadau R&D.
dancers legs standing on a white dance floor in socks

Stiwdios Wrth Gefn

Lle am ddim yn y stiwdio i artistiaid dawns