Dances rehearsing in a studio with audience watching

Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cynnal dosbarth dawns byw fel rhan o BBC Culture in Quarantine

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi parhau i greu a rhannu dawns gyfoes wrth hunan ynysu yn eu cartrefi.

Am 11am ar ddydd Gwener 17 Ebrill, bydd y Cwmni yn ymuno â BBC Culture in Quarantine i ffrydio ei ddosbarth dyddiol yn fyw er mwyn rhoi cipolwg ar fywydau'r dawnswyr y tu cefn i'r llen (ystafell fyw) yn ystod y cyfnod hwn.

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn gwmni dawns gyfoes wedi'i leoli yng Nghaerdydd sy'n gwneud dawns gyda, ac ar gyfer bob math o bobl.
Mae gan y Cwmni 10 dawnsiwr o bob rhan o Gymru, a'r byd, fydd yn gweithio'n llawn amser yn creu, ymarfer ac yn mynd â dawns ar daith, yn ogystal ag addysgu gweithdai ac archwilio mentrau newydd mewn dawns.

 
Ers cychwyn gweithio o gartref mae'r dawnswyr wedi parhau gyda'u hyfforddiant dyddiol drwy gyfres o ioga hunandywysedig, dosbarthiadau bar bale a byrfyfyr; yn ogystal â dod ynghyd ar gyfer dosbarthiadau ymgynghori fideo mewn bale neu ddull cyfoes.

 

Yr wythnos hon, maent yn cael gwers gan Angela Towler, cyn Gyfarwyddwr Ymarferion i Rambert Dance Company.

Dywedodd Lee Johnston, Cyfarwyddwr Cyswllt CDCCymru

Mae bod gyda'n gilydd ac wedi cysylltu yn rhan fawr o sut rydym yn gweithio; mae ein dawnswyr yn y stiwdio neu yn teithio gyda'i gilydd am gyfnod o fisoedd. Mae'n bwysig cynnal yr asiad yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau ar symud, felly mae dosbarth dyddiol wedi ennill synnwyr o bwrpas a chymuned ychwanegol wrth i ni gefnogi'r naill a'r llall yn gorfforol, creadigol ac emosiynol yn ystod y cyfnod hwn"



Mae gan CDCCymru hanes sylweddol o gynnig mynediad agored i'w stiwdios yn ystod dosbarthiadau ac ymarferion, ac mae ganddo ethos o geisio gwneud y broses o greu dawns mor hygyrch â phosib. 

Mae Paul Kaynes, Phrif Weithredwr CDCCymru yn nodi bod:
"Dawnswyr yn cyfathrebu mewn ffordd sy'n bwysig i'r byd ar hyn o bryd - drwy adrodd straeon drwy symudiad gweledol a chyfuno ffitrwydd gyda chreadigrwydd. Rydym yn gwahodd pobl i ymuno â ni drwy wylio a dawnsio yn eu cartrefi: mae dawns yn un o'r ffyrdd gwych i ni fwydo ein hochr artistig, ac yn y pen draw, cadw'n heini yn ei hystafelloedd byw!"

Yn ystod eu hwythnos gyntaf o hunan ynysu, bu i ddawnswyr y Cwmni fireinio eu sgiliau creadigol drwy greu, cyfansoddi a golygu ffilm fer “Dancing Together, Apart” fel rhan o #Digithon Wales Arts Review, sydd wedi helpu i godi dros £6500 i artistiaid Llawrydd sydd wedi colli gwaith yn sgil y cyfyngiadau ar symud.

Dilynwch eu cyfryngau cymdeithasol am ragor o fideos 'tu cefn i'r llen' o gyn-gynyrchiadau yn ogystal â gweithiau dawns unigryw, newydd wedi'u creu yn ystod hunan ynysu.


Mae CDCCymru hefyd yn ffrydio rhai o'i weithiau mwyaf poblogaidd a rhai sydd heb eu harddangos yn wythnosol ar ei dudalen Facebook, yn ogystal â chynnal dosbarthiadau i oedolion a phlant yn eu tro.