Three dancers in purple satin costumes and sparkling swim caps march perfect harmony
Osian Meilir

UN3D

Cydamserol, gwirion ac aruchel - triawd o ddawnswyr yn cydsymud yn berffaith i gyfeiliant trac sain Bjork a The Police a ddaw â gwên i'r wyneb.

Yn cynnwys symudiadau a ysbrydolwyd gan nofio cydamserol, dawnsio llinell a siglo llyfn y Supremes.
Mae UN3D yn waith sy'n hyrwyddo cysylltiad dynol dros berffeithrwydd mesuredig.

Mae'r dawnswyr, mewn gwisgoedd sidan trawiadol, yn archwilio'r gwahaniaeth rhwng symud gyda'i gilydd a chytgord wrth iddynt anelu at undod a chydbwysedd.

Tîm Creadigol

UN3D: Osian Meilir  

Cerddoriaeth:
Synchronicity  - The Police
Unison - Björk

Perfformiad:

Faye Tan, Paulina Porwollik, Samuel Gilovitz

Coreograffwr

Osian Meilir

Osian in a yellow t-shirt against a bright blue sky, thier arms up ovre their head

Mae Osian Meilir yn artist sy'n creu a pherfformio gwaith dawns a symud ac mae bellach wedi'i leoli yng Nghymru. Yn hanu'n wreiddiol o Bentre'r Bryn, ar arfordir gorllewin Cymru, aeth Meilir ymlaen i hyfforddi yn Trinity Laban Conservatoire of Music and Dance. Yno, enillodd radd dosbarth cyntaf cyn bwrw ymlaen â'i astudiaethau a chwblhau ei radd Meistr mewn Perfformiad Dawns yn rhan o Transitions Dance Company.

Mae gwaith Meilir fel perfformiwr yn cynnwys gweithio gyda artistiaid fel Jo Fong, Lizzi Kew Ross & Co, Gwyn Emberton Dance, Satore Tech a Fearghus O'Conchuir gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Mae ei waith hefyd yn ehangu i fyd theatr ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc drwy berfformio gwaith gan Carlos Pons Guerra a Cahoots NI, yn teithio ledled y DU ac yn rhyngwladol, yn ogystal a’i waith solo ei hun ar gyfer Cwmni Theatr Arad Goch - Palmant / Pridd (Pavement / Pasture). Fe greodd ei berfformiad cyntaf graddfa ganol - 'Qwerin', fel cyfarwyddwr a choreograffydd yn 2021 ac ehangu a datblygu'r gwaith i fod yn gyflawn ar gyfer teithio yn 2022. Bu Qwerin yn teithio yn rhyngwladol yn 2023 gan ymddangos mewn gwyliau yn Awstralia. Mae gan Meilir hefyd brofiad helaeth o arwain gweithdai a dosbarthiadau i blant, phobl ifanc ac oedolion.

Mae profiadau cynharaf Meilir, a'i gefndir yn ymhêl â'r ddawns werin Gymreig, wedi golygu bod Meilir yn gwerthfawrogi dawns o bob math o ddiwylliannau gwahanol. Mae hefyd wedi golygu ei fod yn cael mwynhad o ystyried y ffordd y gall dawns godi pontydd pwysig rhwng pobl o bob cwr o'r byd.

Galeri
Three dancers in purple satin costumes and sparkling swim caps march perfect harmony
a dancer in a purple satin outfit and dramatic lighting with swim cap holds his hands in fists near his chest
three dancers crawl around with their shirts over their heads as if masks