CDCCymru yn Cyflwyno
Tundra
gan Marcos Morau
Mae Tundra yn dirwedd hesb lle mae creadigrwydd modern iawn yn dod i fywyd ac yn rhwygo tudalennau o lyfrau hanes am ddawnsio gwerin, USSR a chwyldro Rwsia.
Mae arddull beiddgar Marcos Morau yn cael ei ysbrydoli gan gelf a sinema. Mae Tundra’n cymryd hen syniadau ac yn defnyddio dawns gyfoes i roi ystyr newydd iddynt.
Cynorthwywyr y Coreograffydd: Marinba Rodruguez, Lorena Nogal & Lee Johnston
Artist Gweledol, Set a Dylunio: Joseff Fletcher
Cerddoriaeth: Svadebnie pesni (Duhovskaya) gan Olga Sergeeva, Cradle Song (Russian Dewish) gan Kitka, 1559 W. Cunningham Cosmogr. Glasse 125 gan Akira Rebelais, Fail gan Demdike Stare, Consumed gan The Haxan Cloack, Shisen gan Mariah
Dylunio Golau: Joseff Fletcher
Dylunio Gwisgoedd: Angharad Matthews
Marcos Morau

“Mae pob rhan o’r cynhyrchiad hwn yn hud etheraidd, rhyfeddol”
Wales Arts Review
“Clinigol ond yn rhyfedd o rywiol”
The Stage
“Mae’n cael effaith drawiadol sy’n golygu bod gan CDCCymru waith gwirioneddol unigryw, yn wahanol i unrhyw gwmni cyfoes arall.”
Culture Whisper


