
Shorts | Byrion
Rhaglan Ddigidol
Mae ‘Shorts | Byrion’ yn cynnwys tri darn byr o ddawns sy’n para tua 10 i 20 munud.
Rhaglen Heno
Infinity Duet: 12 munud
Saib: 5 munud
UN3D: 17 munud
Egwyl: 20 munud
Hang in There, Baby: 22 munud
Digwyddiadau arbennig
Dydd Mercher 19 Mawrth: Sgwrs ar ôl y sioe
Dydd Gwener 21 Mawrth: Perfformiad gydag Iaith Arwyddion Prydain
Dydd Sul 22 Mawrth, 3-4pm: Gwylio Dosbarth Dawns
Croeso i Shorts | Byrion
Yng Nghwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, rydym wrth ein bodd o gael cefnogi doniau newydd a rhannu dawns anhygoel gyda’n cynulleidfaoedd – a heno, cewch brofiad o’r ddau beth.
Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi mwynhau gwylio coreograffwyr y sioe yn torri eu cwys eu hunain ledled y DU, ac rydym yn llawn cyffro o gael rhannu gwaith sy’n ymgorffori eu lleisiau unigryw.
Crëwyd UN3D gan Osian Meilir ar gyfer 4X10 yn 2023, sef rhaglen greu a datblygu ar gyfer artistiaid coreograffig Cymru a oedd yn rhan o ddathliadau ein pen-blwydd yn 40 oed. Mae Meilir wedi bod yn un o Artistiaid Cyswllt Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ers tair blynedd, ac mae ar flaen y gad o ran datblygu’r ffurf hon ar gelfyddyd yng Nghymru.
Cafodd Infinity Duet, a grëwyd gan Faye Tan a Cecile Johnson Soliz, ei berfformio am y tro cyntaf yn In Tandem yn gynharach eleni – sef digwyddiad a aeth ati i bylu’r ffin rhwng orielau celf a mannau perfformio, pan arddangoswyd rhai o weithiau celf mawr Cecile ochr yn ochr â’r ddawns. Mae Tan wedi bod yn un o ddawnswyr y cwmni ers 2019, ac mae wedi mynd ati’n barhaus i hogi ei hymarfer a’i chrefft goreograffig. Mae’n arweinydd y dyfodol yn ein sector.
Yn olaf, cafodd Hang In There, Baby gan John-William Watson ei berfformio am y tro cyntaf ym mhrif dŷ Sadler’s Wells yn 2022. Mae Watson yn un o artistiaid mwyaf digamsyniol ei genhedlaeth, ac mae ei weithiau’n creu bydoedd cyflawn lle mae’r absẃrd a’r hardd yn dod i’r amlwg. Rydym wrth ein bodd o gael ei gwmni yma yn y Tŷ Dawns.
Dawnswyr
Dysgwch ragor am bob dawnsiwr drwy ymweld â'n tudalen isod
cliciwch yma i ddarllen bywgraffiadau ein dawnswyr








CYFARWYDDYDD YMARFER
Victoria Roberts
TÎM TECHNEGOL
Geraint Chinnock, Harvey Evans, Will Lewis
I gwrdd â gweddill tîm Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, cliciwch yma.
Infinity Duet
“The sculpture can't help but yield to gravity, and neither can their bodies. Two people deal with time and weight in this brief reverie.”
Mae dau berson yn mynd i'r afael â phwysau ac amser yn y ddeuawd deimladwy a chynnes hon sy'n plethu ynghyd dyluniad, cerfluniad, dawns a sain mewn cydweithrediad unigryw.
Creodd y coreograffydd Faye Tan a'r artist Cecile Johnson-Soliz y gwaith hwn ynghyd â'r dawnswyr. Gyda cherddoriaeth gan Richard McReynolds, gwisgoedd wedi'u printio â darluniau Cecile a cherflun mawr siglog sy'n hawlio'r sylw, mae'r gwaith hwn yn eich swyno.
Yr Artist: Cecile Johnson Soliz
Cyfansoddydd: Richard McReynolds
Dylunio Gwisgoedd: Cecile Johnson Soliz
Cynllynydd Goleuo: Will Lewis
Gwneuthurydd Gwisgoedd: Elizabeth Catherine Chiu
Chyd-Goreograffwyr: Charlotte Aspin, Alys Davies, Olivia Foskett, Sarah ‘Riz’ Golden, Jill Goh, Edward Myhill
Perfformwyr ar gyfer Byrion (2025): Alys Davis, Jill Goh
Gyda Diolch i: Luca Chiodini, Dan Clark, Elena Grace, Sam Gilovitz, Niamh Keeling, Mario Manara, Matthew William Robinson, Ds Smith, Will Barrett Soliz, Rachel Verner
Faye Tan

Faye Tan: Coreograffwr
Mae Faye yn ddawnswraig a choreograffydd o Singapôr ac ar hyn o bryd yn ddawnswraig llawn amser gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Meithrinwyd ei hymarfer coreograffig gan ei phrofiadau helaeth o weithio gyda choreograffwyr dawns gyfoes o bob rhan o’r byd a’i defnydd o wahanol arddulliau o ddawns, diwylliannau, dulliau a thechnegau. Mae ei gwaith yn aml yn cynnwys cymhlethdod yr emosiwn dynol sydd weithiau’n llethol, ac yn aml yn awdlau i brofiadau dynol o’r dyrchafedig.
Yn aml yn cydweithio gyda cherddorion ac artistiaid gweledol, mae hi wedi creu gwaith ar gyfer amrywiaeth o osodiadau a chyd-destunau gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, VERVE (DU), Frontier Danceland (Singapôr), y Ganolfan Hyfforddiant Uwch (DU) ac Ysgol Gelfyddydau Singapôr.
faye-tan.com/
@fayefayefaye.tan
Cecile Johnson Soliz: Artist
ae Cecile Johnson Soliz yn Americanes ail genhedlaeth o dreftadaeth Bolifaidd a fagwyd yng Nghaliffornia, Mecsico, Bolifia, Brasil, Ghana, a’r Eidal cyn cyrraedd y D.U. i astudio Celfyddyd Gain yng Ngholeg Celfyddyd ac Eurych Caerdydd. Yn dilyn 20 mlynedd yn Llundain, bu i Gymrodoriaeth Henry Moore mewn Cerfluniaeth ddod â hi i Gaerdydd yn 1995 ble mae hi’n byw a gweithio. Mae Cecile wedi arddangos dros gyfnod o 35 mlynedd yn y D.U. a thramor mewn arddangosfeydd unigol a grŵp, gan ennill y Wobr Aur mewn Celfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2017. Ar hyn o bryd mae hi’n cydweithio gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Ar gyfer Bio llawn a C.V. ewch i:
cecilejohnsonsoliz.net
@cecilejohnsonsoliz
Richard McReynolds
Mae Richard McReynolds yn gyfansoddwr o Ogledd Iwerddon, yn artist aml-gyfrwng a chynhyrchydd creadigol wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Mae’n gweithio yn y croestoriad rhwng cyfryngau, ymchwilio i gysylltiadau newydd rhwng perfformiadau, sain ac elfennau gweledol. Mae ei waith yn cwmpasu gwaith sain, celf-berfformiad, delweddau cynhyrchiol, hyper-offerynnau a gosodiadau.
richardmcreynolds.com
@mcreynoldsrich





Creu Infinity Duet
Mae Infinity Duet yn gydweithrediad ar draws ffurfiau celfyddydol, lle rhoddir lle cyfartal i gerfluniau a sain ar y llwyfan.
Cafodd Cecile Johnson Soliz, artist o Gaerdydd, a Faye Tan, un o ddawnswyr Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, eu paru yn 2022 yn ystod prosiect ymchwil a datblygu a gynhaliwyd gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, sef ‘Laboratori’ – prosiect a oedd yn anelu at baru artistiaid gweledol gyda dawnswyr. Wrth weithio gyda’i gilydd, mae Faye a Cecile wedi dod o hyd i dir cyffredin, gan ddarganfod diddordeb cyffredin mewn siapio ystum.
“Mae cerflunio yn debyg iawn i ddawns mewn sawl ffordd. Mae gennym ddiddordeb mewn amser, lle a symud – mae’r pethau hyn i gyd yn berthnasol i gerflunio, a dyna un rheswm pam roeddwn i eisiau gweithio gyda Faye ar y prosiect cydweithredol hwn,” medd Cecile.
Medd Faye, “Yr hyn rydw i’n gwirioni arno yng ngwaith Cecile yw’r ffaith ei fod yn delio’n eithaf penodol â phwysau ac amser a thensiwn, a’r potensial i rywbeth ddigwydd, er bod y cerflun ei hun yn llonydd yn yr ennyd hwnnw.”
Mae’r cerflun sy’n siglo wedi’i wneud o bapur a ddefnyddir i argraffu papurau newydd – diwedd rholiau nad oedd modd eu defnyddio yn y broses argraffu. Yna, mae Cecile yn paentio, yn cordeddu ac yn cerflunio’r papur. Cecile hefyd a ddyluniodd y gwisgoedd – maent wedi’u hargraffu gyda lluniau o linellau croes manwl a chywrain.
Mae’r gerddoriaeth gan Richard McReynolds yn cynnwys tameidiau a recordiwyd yn stiwdio gelf Cecile lle crëwyd y cerfluniau –mae synau papur yn cael ei dorri, ei rwygo a’i wasgu wedi cael eu hymgorffori yn y trac sain hyfryd.
“Mae gweithio gyda Cecile a Faye wedi rhoi cyfle imi edrych ar fy ymarfer trwy wahanol lensys… Rydw i wedi cael fy ysbrydoli i adael i’r synau a recordiaf lywio’r broses, yn hytrach na’u gorfodi i ryw siâp arbennig,” medd Richard.
I gael rhagor o wybodaeth am y modd y cafodd Infinity Duet ei greu, gwyliwch gyfweliad isod gyda’r tri artist.
UN3D
Cydamserol, gwirion ac aruchel - triawd o ddawnswyr yn cydsymud yn berffaith i gyfeiliant trac sain Bjork a The Police a ddaw â gwên i'r wyneb.
Yn cynnwys symudiadau a ysbrydolwyd gan nofio cydamserol, dawnsio llinell a siglo llyfn y Supremes.
Mae UN3D yn waith sy'n hyrwyddo cysylltiad dynol dros berffeithrwydd mesuredig.
Mae'r dawnswyr, mewn gwisgoedd sidan trawiadol, yn archwilio'r gwahaniaeth rhwng symud gyda'i gilydd a chytgord wrth iddynt anelu at undod a chydbwysedd.
Crëwyd UN3D gan Osian Meilir ar gyfer 4X10 yn 2023, sef rhaglen greu a datblygu ar gyfer artistiaid coreograffig Cymru a oedd yn rhan o ddathliadau ein pen-blwydd yn 40 oed. Mae Meilir wedi bod yn un o Artistiaid Cyswllt Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ers tair blynedd, ac mae ar flaen y gad o ran datblygu’r ffurf hon ar gelfyddyd yng Nghymru.
Coreograffwyr: Osian Meilir
Cerddoriaeth: Synchronicity by The Police, Unison by Björk
Dylunio Gwisgoedd: Layla Zheng
Cynllynydd Goleuo: Matthew Robinson and Will Lewis
Cyd-greu Gwreiddiol:Faye Tan, Sam Gilovtiz and Paulina Porwollik
Perfformwyr ar gyfer Byrion (2025): Sarah 'Riz' Golden, Sam Gilovitz and Charlotte Aspin.
Osian Meilir

Yn wreiddiol o Bentre’r Bryn ar arfordir gorllewin Cymru, coreograffydd llawrydd ac artist symudiad yw Osian Meilir, sy’n rhannu eu hamser rhwng Cymru a Llundain ar hyn o bryd. Ers graddio o Trinity Laban yn 2017, bu Meilir yn perfformio ac yn creu gwaith ar gyfer amryw fannau perfformio, yn dilyn ei waith a’i gynyrchiadau dawns ar gyfer yr awyr agored yn bennaf. Bu eu gwaith yn teithio’n helaeth ar hyd a lled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol, ac mae’n cynnwys gŵyl Ten Days on the Island yn Awstralia (2023), Biennale de la Danse yn Lyon (2023) ac yn FIET, sef Ffair Theatr Plant a Phobl Ifanc Ynysoedd Baleares (2024).
Dros y pum mlynedd diwethaf, comisiynwyd Meilir i greu gwaith newydd gan Articulture Wales, yr Eisteddfod Genedlaethol, Gŵyl y Dyn Gwyrdd a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, ac mae gwaith newydd ar y gweill i’r cwmni ar gyfer eu taith Hydref 2025.
Mae magwraeth Meilir yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru, ynghyd â’u diddordeb mewn syniadau yng nghyswllt hunaniaeth, diwylliant a chymuned, yn bwydo eu creadigrwydd ac yn ysbrydoli eu gwaith. Roedd eu profiadau cynnar iawn a’u cefndir ymhêl a'r ddawns werin Gymreig wedi cael dylanwad mawr ar eu hymarfer cyfoes, ac yn golygu eu bod yn gwerthfawrogi’r modd y gall dawns feithrin pontydd ystyrlon rhwng pobl o bedwar ban byd. Gan gofleidio undod a harmoni, o fewn ein hunain a’r naill a’r llall, mae Meilir yn dathlu harddwch, symlrwydd a phŵer cysylltiadau dynol.
osianmeilir.com
@osianmeilir
Hang in There, Baby
“The you of today, but also tomorrow; somehow.”
Richard Life, CEO and Director of Life & Stuff Incorporated
Mae 'Hang In There, Baby' yn archwilio'n perthynas â ffawd a gwneud penderfyniadau. Wedi'i lleoli yng nghanol parti gwaith yn y flwyddyn newydd, daw'r gomedi dywyll hon yn gynyddol swreal wrth i undonedd di-baid bywyd swyddfa chwalu'n 'hunllef bac-man-aidd'.
Gan gyfuno sgript ffuglen wyddonol, dylunio gwych a sgôr gwreiddiol gan Adam Vincent Clarke, mae'r ddawns hynod ddoniol ac annisgwyl hon yn eich annog i ddal eich tir, waeth beth fo'r canlyniadau.
Cysyniad, Creu ac Ysgrifennu: John-William Watson
Cyd-greu: Beth Emmerson, Nya Bardouille, Magdalena Anna Górnikiewicz & Lara Peres Rocha
Dylunio Goleuadau: Ryan Joseph Stafford
Set a Dylunio Gwisgoedd: John-William Watson & Joshua Cartmell
Cyfansoddiad Gwreiddiol a Dylunio Sain: Adam Vincent Clarke
Offerynwyr: Sarah Bayens (Violin), Miko Pablo (Cello), Markiyan Popil (Piano)
Peiriannydd Recordio: Noah Senden
Cymysgu a Chaboli: Adam Vincent Clarke
Cyfansoddwr It’s a Sin to Tell a Lie: Billy Mayhew
Artistiaid Recordio It’s a Sin to Tell a Lie: The JazzMob
Cymysgu a Recordio It’s a Sin to Tell a Lie: Nicholas Thayer
Ymgynghorwyr Creadigol: Jasmine Lily Norton, Joshua Cartmell
Fe’i comisiynwyd yn wreiddiol gan Sadler’s Wells
Gyda Diolch i Nóra Fay
Llun: Foteini Christofilopou & Camilla Greenwell
John-William Watson

Mae John-William Watson yn ddawnsiwr, yn gyfarwyddwr ac yn goreograffydd llawrydd o Leeds. Ar ôl graddio yng Nghonservatoire Brenhinol Antwerp yn 2019, buan iawn y gwnaeth Watson gerfio llwybr iddynt eu hunain, gan greu ‘dramâu-dawns’ hunan-ddisgrifiedig a swreal a lwyddodd i ennyn canmoliaeth y beirniaid – gan fynd ati’n aml i archwilio’r cydadwaith rhwng ffuglen wyddonol, comedi ddu a dawns gyfoes.
Comisiynwyd Watson yn flaenorol gan sefydliadau fel Sadler’s Wells, Messums West a’r Riley Theatre. Roeddynt yn Goreograffydd Cyswllt Ifanc yn Sadler’s Wells rhwng 2020-22, yn Artist ‘Northern Connection’ yn 2021/22, ac yn Artist Messums West 4x20 yn 2023.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, dechreuodd Watson berfformio eu gwaith eu hunain a hefyd ar gyfer Beth Emmerson, artist dawns o’r DU. Dechreuodd sbardun cyntaf Watson ar gyfer perfformio gyda’u gwaith cwmni solo cyntaf ‘Why This Chair Does Not Exist’ yn 2024 sydd, ers hynny, wedi teithio trwy’r wlad a’r byd. Portread swreal, slapstic lle archwilir cydberthynas unigolyn ag ymwybyddiaeth a marwolaeth; gyda dylanwad bydoedd Buster Keaton a Jacques Tati.
Mae Watson wedi cyflwyno gwaith ym Mhrif Theatr Sadler’s Wells yn y DU, yn Stiwdio Lillian Bayliss Sadler’s Wells yn y DU, yn The Riley Theatre yn y DU, yn y Birmingham Hippodrome yn y DU, yn y Pavilion Dance South West yn y DU, yn Messums West yn y DU, yn Bartholomew Fair yn y DU, yn Teatro Vascello yn yr Eidal, yng Ngŵyl Noorderlicht yn yr Iseldiroedd ac yn y Théâtre Basse Passière yn Ffrainc.
Y tu allan i waith coreograffi, mae Watson wedi gweithio fel mentor i goreograffwyr ifanc, yn annibynnol ac ar gyfer rhaglen ‘Young Creatives’ One Dance UK. Maent yn aelod o dîm y Cwmni Dawns Ieuenctid Cenedlaethol, gan gynnig cymorth bugeiliol yn nhîm cymorth y cwmni a chan weithio fel hwylusydd ar draws amryfal brosiectau, yn fwyaf diweddar gyda rhaglen ysgolion NYDC a roddwyd ar waith ledled y wlad.
Llun: Camilla Greenwell a Foteini Christofilopoulou
johnwilliamwatson.com
@johnwilliamwatson
Amdanom Ni
Dawns a grëwyd yng Nghymru, ac a rannwyd gyda’r byd
Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn dathlu lleisiau unigryw artistiaid o bell ac agos. Rydym yn comisiynu cydweithrediadau artistig sydd â dawns yn eu calonnau. Rydym yn rhannu ein gwaith dawns uchelgeisiol a chreadigol mewn theatrau, mannau cyhoeddus, gwyliau, ac amgylcheddau trochol, er mwyn creu profiadau a pherfformiadau bythgofiadwy.
Rydym yn ysgogi pobl i symud drwy feithrin talent a dealltwriaeth, gan alluogi i syniadau newydd gael eu hesblygu a’u datblygu.
Dysgu Mwy
Cefnogwch Ni
Mae rhaglen artistig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi'i hysgogi gan ymrwymiad i greu gwaith newydd, ysbrydoli artistiaid, datblygu dawn ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd a chymunedau drwy brofiadau dawns o safon uchel sy'n cyfoethogi. Fel elusen, ni allwn gyflawni hyn heb haelioni ein cefnogwyr gwerthfawr – cefnogaeth sydd ei hangen nawr yn fwy nag erioed. Bydd cyfraniad o unrhyw faint yn ein helpu ni i barhau â'n gwaith.
Cyfrannwch Yma
Arolwg
Rydym wrth ein bodd yn clywed gan ein cynulleidfaoedd, mae hyn yn cadw cysylltiad rhyngom. Dywedwch wrthym eich barn am y sioe heno drwy dreulio pum munud yn cwblhau arolwg adborth y gynulleidfa.
Fel arall, gallech gwblhau cerdyn post adborth yn y cyntedd a'i bostio i ni'n rhad ac am ddim.
Cadwch mewn Cysylltiad
I gael gwybod y newyddion diweddaraf a'r hyn sydd ar y gweill gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, mae modd i chi ein dilyn ni ar Instagram, Facebook neu Linkedin - neu ymunwch â'n rhestr bostio i gael y wybodaeth ddiweddaraf yn syth i'ch mewnflwch.