Mynediad
Ymfalchïwn yn ein croeso Cymreig cynnes a’n gallu i sicrhau bod pawb yn teimlo bod croeso iddynt pan fyddant yn ymweld.
Rhedeg yn hwyr? Peidiwch â chynhyrfu...
Dewch yn syth i’r Tŷ Dawns gan y bydd gennym ni hefyd gopi o’n gwerthiant tocynnau.
Cynllun Mynediad
Fel rhan o swyddfa docynnau Canolfan Mileniwm Cymru rydym yn aelod o Hynt.
Mae Hynt yn gynllun mynediad cenedlaethol sy’n gweithio gyda rhwydwaith o theatrau a chanolfannau celfyddydau ledled Cymru. Mae gan ddeiliaid cardiau Hynt hawl i gael tocyn rhad ac am ddim i Ofalwr neu Gynorthwyydd Personol.
Dewch i wybod mwy am Hynt yn WMC http://www.wmc.org.uk/yourVisit/AccessInformation/AccessScheme/
Prynu a Chaslgu Tocynnau
Mae’r Ystafell Las yn cynnig 4 sedd i gadeiriau olwyn a gofod i gydymaith.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn hysbysu'r Swyddfa Docynnau pan fyddwch yn archebu eich anghenion mynediad.
Os byddwch yn dod â Chi Tywys rhowch wybod i ni - byddwn yn gwneud siŵr bod lle iddynt yn y Tŷ Dawns a bod dŵr iddynt hefyd!
Cyfleusterau’r Tŷ Dawns
Mae'r tŷ dawns yn gwbl hygyrch drwyddo draw - cyhoeddus a thu ôl i'r llwyfan.
Lleolir lifftiau ym mlaen tŷ ac tu ôl i'r llwyfan i bob lefel ac i bob man.
Parcio anabl
Mae gofod parcio y gellir eu harchebu ymlaen llaw o amgylch Canolfan Mileniwm Cymru. Rhaid archebu’r rhain ymlaen llaw pan fyddwch yn archebu eich tocyn i weld sioe yn y Tŷ Dawns. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
http://www.wmc.org.uk/yourVisit/AccessInformation/DisabledCarPark?lang=cy-GB
Toiledau a chawodydd.
Mae gennym doiledau anabl wedi’u lleoli ar bob llawr, blaen tŷ a thu ôl i’r llwyfan.