Polisi Preifatrwydd
Polisi Preifatrwydd
Mae'r termau “NDCW” “CDC Cymru” “Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ” neu “ni” yn cyfeirio at Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Rydym yn gwmni cyfyngedig drwy warant a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr o dan rif cwmni 01672419 y mae ei swyddfa gofrestredig yn Y Tŷ Dawns, Stryd Pen y Pier, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF10 4PH. Mae'r term "chi" yn cyfeirio at yr unigolyn sy'n defnyddio a/neu'n cyflwyno Gwybodaeth i'r Wefan.
Rydym wedi ymrwymo i amddiffyn a pharchu preifatrwydd eich gwybodaeth bersonol: rydym eisiau cadw hyder ac ymddiriedolaeth ein cynulleidfaoedd a chefnogwyr yn ogystal â'n hymwelwyr ar-lein drwy ein gwefan CDC Cymru yn http://www.ndcwales.co.uk/cy, ac unrhyw is-barth neu unrhyw wefan gysylltiedig a/neu gymhwysiad symudol ar gyfer y fath wefan (y "Wefan") a thudalennau cyfryngau cymdeithasol. Mae'n bosibl cysylltu â ni, fel y Rheolwr Data, drwy ein Cynghorydd Diogelu Data, Kelly Twydale (Cyfarwyddwr Gweithrediadau) drwy'r cyfeiriad e-bost data@ndcwales.co.uk neu ffoniwch 02920635600.
Mae'r Polisi Preifatrwydd yn rhoi gwybodaeth fanwl i chi am pryd a pham rydym yn casglu'ch gwybodaeth bersonol, sut rydym yn ei defnyddio a sut rydym yn ei gadw'n ddiogel.
Fel Rheolwr Data rydym yn gyfrifol am, ac yn rheoli prosesu, eich Data Personol yn unol â'r Gofynion Preifatrwydd a Diogelu Data perthnasol. Mae i "data personol" ddiffiniad cyfreithiol ond, yn gryno, mae'n cyfeirio at wybodaeth sy'n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol yn benodol drwy gyfeirio at ddynodwr. Mae'n rhaid diogelu'r fath wybodaeth yn unol â Gofynion Preifatrwydd a Diogelu Data perthnasol (diffinnir hyn ar ddiwedd y Polisi hwn).
Rydym yn defnyddio Data Personol er mwyn sicrhau ein bod yn cysylltu â chi gyda gwybodaeth berthnasol rydych eisiau clywed amdani, megis ein gwybodaeth perfformiad yn y Tŷ Dawns, cartref CDC Cymru, neu CDC Cymru ar daith; gweithgareddau rydym yn eu rhedeg er mwyn i chi ymwneud yn ddyfnach â dawns; ffyrdd i'n cefnogi ni a'r sector; yn ogystal â defnyddio'n gwybodaeth i wella ein gwasanaeth i ddatblygu'r sector dawns.
Mae nifer o fanteision i gofrestru'ch manylion personol gyda CDC Cymru, gan gynnwys y gallu i reoli eich gwybodaeth bersonol a'r wybodaeth a gewch gennym ni am berfformiadau a gweithgareddau. Mewn rhai amgylchiadau (gweler isod), efallai y byddwn yn gofyn i chi ddangos eich cydsyniad i'r ffordd rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol (fel y nodir yn y polisi hwn) pan fyddwch yn cyflwyno gwybodaeth bersonol o'r fath yn gyntaf i neu drwy ein gwefan, er enghraifft, pan fyddwch chi'n optio i mewn i dderbyn gwybodaeth gennym ar unrhyw adeg ar ein tudalen cofrestru yn ogystal â phan fyddwch yn diweddaru'ch dewisiadau.
Pam rydym yn casglu gwybodaeth bersonol?
Rydym yn casglu gwybodaeth bersonol yn dibynnu ar y gwasanaeth rydym yn ei gynnig i chi; gallai hyn fod drwy fod yn aelod o gynulleidfa; neu drwy gymryd rhan, neu os byddwch yn delio gyda ni ar ran eich busnes. Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth am bobl sy'n ymweld â'n gwefan neu â'n tudalennau cyfryngau cymdeithasol.
Pan fyddwch yn aelod o gynulleidfa ein sioe neu ein gwefan
Rydym yn casglu Data Personol amdanoch er mwyn sicrhau ein bod yn gallu darparu gwasanaeth i chi sy'n ateb ein hanghenion ac yn rhoi gwybod i chi am y digwyddiadau neu'r diweddariadau rydych wedi gofyn amdanynt neu i gysylltu â chi os bydd angen inni gael neu ddarparu gwybodaeth ychwanegol.
- Rhoi'r profiad gorau posibl i'r gynulleidfa a'r cwsmer ac ein helpu gyda gweinyddiaeth fewnol.
- Cyflenwi nwyddau, rhoddion a cheisiadau am aelodaeth.
- Prosesu taliadau. Nodwch nad yw'r Tŷ Dawns/CDC Cymru yn storio unrhyw gerdyn credyd na gwybodaeth arall am daliadau ar ôl cwblhau'r trafodyn.
- Prynu drwy PayPal a Just Giving
Gwerthir rhai o weithgareddau a nwyddau CDC Cymru a Thŷ Dawns drwy PayPal. Bydd PayPal yn dal y data personol rydych wedi ei ddarparu iddynt. Byddant hefyd yn rhoi'r wybodaeth hon inni er mwyn ein galluogi i gyflenwi'r pryniant. Edrychwch ar eu polisi preifatrwydd i gael rhagor o wybodaeth am sut maen nhw'n delio â'ch Data Personol.
Mae CDC Cymru hefyd yn defnyddio Just Giving i dderbyn rhoddion. Dim ond y Data Personol rydych am i CDC Cymru ei dderbyn a rennir gan Just Giving, fel arall fe'ch adnabyddir fel rhodd ddienw. Edrychwch ar eu polisi preifatrwydd i gael rhagor o wybodaeth am sut maen nhw'n delio â'ch Data Personol.
- Gwella ein marchnata a chyfathrebu fel y bydd y wybodaeth yn berthnasol i chi. Byddwn yn dysgu amdanoch chi, eich diddordebau a dewisiadau er mwyn gwella ein cyfathrebu yn y dyfodol.
- Er mwyn ein helpu i ddeall ein cynulleidfaoedd, eu hysgogiadau a'u hymddygiad, byddwn yn grwpio cynulleidfaoedd yn segmentau, gan ddefnyddio archebion a gwybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus. Mae'r segmentau hyn yn ein helpu i ddeall ein cynulleidfa'n well ac yn sicrhau ein bod yn anfon negeseuon priodol atoch.
- Mesur ac adolygu sut mae ein cynulleidfaoedd yn ymateb i amrywiaeth o weithgaredd marchnata er mwyn sicrhau bod ein cyfathrebu yn berthnasol ac yn effeithiol.
- Cynnal ymchwil i gynulleidfaoedd: efallai y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn i chi gymryd rhan mewn ymchwil i gynulleidfaoedd ar-lein, neu mewn arolwg dros y ffôn neu'n bersonol. Nid oes unrhyw reidrwydd arnoch i gymryd rhan yn y gwaith ymchwil hwn. Os byddwch yn rhoi rhagor o wybodaeth i'r Tŷ Dawns/CDC Cymru byddwn yn rhoi gwybod i chi sut y bydd yr ymchwil yn cael ei defnyddio.
- Dadansoddi a gwella'n barhaus y gwasanaethau a gynigiwn gan gynnwys ein hallbwn artistig, ein gwefan a'n cynhyrchion eraill.
- Dadansoddi sut rydym yn darparu'r rhaglen artistig, y wefan ac allbynnau marchnata eraill er mwyn i ni allu gwella'r gwasanaeth i gynulleidfaoedd.
- Sicrhau ein bod yn cadw ein cronfa ddata yn gywir ac yn gyfoes.
- Cysylltu â chi i gael gwybodaeth bwysig am eich archeb neu'ch pryniant, megis cadarnhau eich archeb, yn eich atgoffa am berfformiad ar ddod rydych wedi archebu lle ynddo neu roi gwybodaeth bwysig i chi a allai effeithio ar eich ymweliad.
- Rhowch ddiweddariadau i chi am sioeau a chyrsiau tebyg y gallai fod gennych ddiddordeb ynddynt.
Ar y sail ei fod yn ein galluogi i gyflawni ein gwasanaeth a chyflenwi ein contract gyda chi, rydym yn prosesu'r data gan ei fod yn angenrheidiol ar gyfer y buddiannau cyfreithlon rydym yn eu dilyn fel cwmni dawns cenedlaethol.
Mae hyn yn amodol ar i chi fynegi gwrthwynebiad o dan eich hawliau isod yn gofyn i ni wirio nad yw ein buddiant yn y prosesu yn cael ei drechu gan y risg ganlynol i'ch hawliau a'ch rhyddid
Os ydych wedi cytuno i ni wneud hynny, mae'n bosibl y byddwn yn:
- Anfon y newyddion diweddaraf am ein cynyrchiadau drwy e-bost; am ein gweithgareddau ar daith ac yn y Tŷ Dawns, am newyddion neu am ein cefnogi.
Gallwch ddiweddaru eich dewisiadau personol ar unrhyw adeg a dewis peidio â chlywed gennym ni, ond gallai hyn ein rhwystro rhag anfon gohebiaeth atoch yn y dyfodol.
Pan fyddwch yn gyfranogwr
- Gweler yr adran flaenorol ar gyfer aelodau'r gynulleidfa, gan ein bod yn casglu'r un data ag a wnawn ar gyfer aelodau'r gynulleidfa a'i ddefnyddio yn yr un ffordd ac ar yr un sail.
- Yn ogystal, os ydych yn cymryd rhan yn un o'n rhaglenni dawns (megis Dance for Parkinson's, Diwrnoadau Dawnsio, Cwrs Haf, gweithdai a Dawnsio er budd Iechyd, er enghraifft) mae'n bosibl y byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol am eich iechyd a'ch lles.
Data iechyd
Rydym yn prosesu'r data hwn ar y sail gyfreithiol ei bod yn angenrheidiol ar gyfer perfformio'r contract rhyngom. Drwy sicrhau ein bod yn ymwybodol o unrhyw ofynion y gallai fod eu hangen arnoch yn ystod y sesiynau, mae hyn yn ein helpu i gyflwyno a chefnogi eich anghenion ac i gyfleu'r rheini i weithwyr meddygol proffesiynol os bydd argyfwng. Yn unol â'r gofynion Preifatrwydd a Diogelu Data perthnasol, dim ond os ydych wedi rhoi eich caniatâd penodol i ni ei brosesu at y diben hwn y byddwn yn prosesu'r data hwn.
- byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon at y pwrpas a nodwyd yn unig.
- pan fyddwch wedi gorffen y cwrs, neu wedi rhoi gwybod inni nad ydych yn mynychu bellach, byddwn yn dinistrio'r wybodaeth hon ynghyd â'ch gwybodaeth arall. Os na fyddwch yn llwyddiannus wrth fynd ar y cwrs, caiff eich ceisiadau a’ch Data Personol eu dinistrio.
- caiff y wybodaeth hon ei rhannu gyda'r athro / hebryngwyr sy'n cyflawni'r sesiwn.
- ni fyddwn ond yn defnyddio gwybodaeth cysylltu mewn argyfwng mewn argyfwng.
- caiff y ffurflen iechyd ei storio yn y copi caled gwreiddiol a'i chadw'n ddiogel tan ddiwedd y cwrs. Ni fydd CDC Cymru yn cadw unrhyw gofnod o'r ffurflen iechyd a meddygol ac fe'i dinistrir.
- pe digwyddai damwain yn ystod sesiwn bydd y Ffurflen Cofnodi Damweiniau'n cadw cofnod o ddamwain ynghyd ag enw'r sawl sy'n cymryd rhan, y manylion cyswllt a manylion y damwain. Caiff hyn ei logio wedyn fel rhan o weithdrefnau cyfreithiol y sefydliad.
Cyfranogwyr dan 16 oed sydd eisiau cymryd rhan yn ein cyrsiau dawnsio, byddwn yn prosesu Data Personol y plentyn hwnnw at bwrpas neu sail gyfreithiol a nodir uchod yn unig, ond byddwn hefyd, yn gofyn i ddeiliad cyfrifoldeb rhiant i gydsynio i brosesu o'r fath ar ran y plentyn.
Mae gan blant a phobl ifanc dan oed yr un hawliau ag oedolion i wybod pa ddata sydd gennym, i ddiweddaru eu data, i wrthwynebu i brosesu data a'r hawl i gael eu hanghofio (ymhlith eraill). Ewch i adran Eich Hawliau.
Polisi Cadw
Rydym eisoes wedi crybwyll am ba hyd y byddwn yn cadw gwybodaeth benodol, ond mae gennym fwy o fanylion am ein polisïau cadw yma, gan y bydd y cyfnod cadw yn amrywio yn ôl y diben prosesu’ch data.
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth ar gyfer y dibenion a nodir uchod yn unig:
- am yr amser y mae'r prosesu yn angenrheidiol ar gyfer perfformiad y contract rhyngom. Er enghraifft, am hyd y cwrs rydych yn cymryd rhan ynddo, neu tan ar ôl y sioe rydych chi wedi archebu ei gweld;
- byddwn ond yn cadw’ch data categori arbennig o'r eiliad rydych yn archebu'r cwrs, nes y bydd y cwrs yn dod i ben, neu nes i chi adael inni wybod na fyddwch yn cymryd rhan bellach. Fel y trafodwyd eisoes, pan fyddwch yn stopio dilyn y cwrs, am ba reswm bynnag, byddwn yn dinistrio'r ffurflen iechyd rydych wedi'i llenwi. Cofiwch, os bydd digwyddiad anffodus a'ch bod yn cael damwain yn ystod y cwrs neu wrth ymweld â ni fel aelod o'r gynulleidfa, er enghraifft, efallai yr adroddir ar eich Data Personol yn ein llyfr log damweiniau, y mae'n ofynnol i ni ei gadw fel rhan o'n gwaith cyfreithiol a rhwymedigaethau rheoliadol; neu am
- 7 mlynedd neu hyd nes y tynnir cydsyniad yn ôl (pa un bynnag yw'r cynharaf), os yw'r sail gyfreithiol yn gydsyniad datganedig.
Sut rydym yn casglu gwybodaeth bersonol
Rydym yn casglu’ch gwybodaeth bersonol pan fyddwch yn ymwneud â ni, Gallai hyn gynnwys:
-
- prynu unrhyw gyrsiau neu nwyddau eraill (ac eithrio tocynnau) yn Y Tŷ Dawns;
- rydych wedi gweld Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ar daith mewn lleoliad partner;
- cofrestru i dderbyn cylchlythyrau ebost CDC Cymru / Tŷ Dawns gennym neu i ddarparu adborth inni i ddigwyddiad,
- ymuno fel aelod oes (cynllun aelodaeth cefnogwyr CDC Cymru).
- gwneud rhodd
- prynu dosbarthiadau neu nwyddau fel crysau-t o'n siop ar-lein
- rydych wedi cysylltu â ni dros yr e-bost, y ffôn neu yn bersonol
- rydych yn cofrestru ar gyfer rhestrau diddordeb arbennig e.e. ymweliad â lleoliad taith; arolygon a chystadlaethau
- Mynd i'n gwefan:
- rydym yn defnyddio cwcis i helpu i wneud profiad defnyddio'n gwefan yn well ac i bersonoleiddio'r gwasanaeth rydych yn ei dderbyn gennym. Golyga hyn y bydd y wefan yn cofio'ch ymweliadau blaenorol ac yn olrhain y tudalennau ar ein gwefan rydych wedi ymweld â nhw. Byddwn hefyd yn edrych ar sut mae cynulleidfaoedd yn ymwneud â'n gwaith marchnata gan gynnwys ein gwefan a chyfryngau cymdeithasol, er mwyn inni allu cynnig y profiad gorau posibl hyd yn oed pan fyddwch yn ceisio cael rhagor o wybodaeth am ein cynyrchiadau diweddaraf. I gael mwy o wybodaeth edrychwch ar ein Polisi Cwcis.
Beth sy'n digwydd i'ch data pan fyddwch yn prynu tocynnau i un o'n cynyrchiadau
Yn 2007 creodd Canolfan y Mileniwm Gonsortiwm (a ddiffinnir isod) sy'n ei gwneud yn bosibl i gyrff celfyddydau eraill fanteisio ar yr un system docynnau rydym yn ei defnyddio, sef "Tessitura". Rydym yn cynnig ymagwedd gydweithredol tuag at ddefnyddio Tessitura gyda phartneriaid y consortiwm, gan rannu system ar gyfer budd cilyddol yn hytrach na pherthynas gorfforaethol fwy traddodiadol.
Ar hyn o bryd y cyrff sydd yn ein Consortiwm yw:
- Opera Cenedlaethol Cymru
- Cerddorfa Genedlaethol BBC Cymru
- Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
- Theatr Genedlaethol Cymru
- Venue Cymru
- Liverpool Everyman and Playhouse
Er bod yr holl ddata 'sefydliad penodol' yn cael ei gloi i lawr i'r sefydliad priodol (h.y. gwybodaeth trafodion, data taliadau, rhyngweithiadau cwsmeriaid, hanes tocynnau ac ati), mae tab cyffredinol ar gofnod cwsmer sy'n cael ei rannu rhwng partneriaid Consortiwm.
Mae hyn yn golygu y gall pob aelod o'r consortiwm weld y wybodaeth ganlynol wrth brynu tocynnau drwy Tessitura: Enw, Cyfeiriad, Ffôn, Cyfeiriad E-bost. Fodd bynnag, ni chaniateir iddynt, o dan unrhyw amgylchiadau, ddefnyddio'r wybodaeth hon os nad ydych wedi rhoi caniatâd penodol iddynt wneud hynny.
Pe hoffech gael rhagor o wybodaeth am ein System CRM, Tessitura a'r Consortiwm cliciwch yma.
Dolenni trydydd parti
Gall y wefan hon gynnwys dolenni i wefannau, ategion a chymwysiadau trydydd parti. Gall clicio ar y cysylltiadau hynny neu alluogi'r cysylltiadau hynny ganiatáu i drydydd partïon gasglu neu rannu data amdanoch. Nid ydym yn rheoli'r gwefannau trydydd parti hyn ac nid ydym yn gyfrifol am eu datganiadau preifatrwydd. Pan fyddwch yn gadael ein gwefan, rydym yn eich annog i ddarllen y polisi preifatrwydd ar bob gwefan rydych yn ymweld â hi.
Pa wybodaeth rydym ni'n ei chasglu?
Nid ydym ond yn casglu'r wybodaeth bersonol sydd yn angenrheidiol inni ddarparu ein gwasanaeth a'r wybodaeth bersonol rydych wedi cytuno ei darparu er mwyn inni roi'r newyddion diweddaraf i chi.
Mae'r Data Personol hwn yn cynnwys:
-
- gwybodaeth bersonol gan gynnwys enw cyntaf a chyfenw, dyddiad geni, ffotograff a/neu lun;
- gwybodaeth cysylltu gan gynnwys cyfeiriad e-bost preswyl, prif gyfeiriad e-bost a/neu brif rif ffôn;
- gwybodaeth am dalu â cherdyn, gan gynnwys manylion eich cerdyn, yr enw ar eich cyfrif a'ch cyfeiriad bilio;
- gwybodaeth benodol yn ymwneud â'ch iechyd a lles (h.y. y Data Iechyd a drafodwyd gennym yn gynharach);
- gwybodaeth dechnegol gan gynnwys cyfeiriad IP (i gael mwy o wybodaeth am hyn, gweler isod), system weithredu, math ar borwr a gwybodaeth gysylltiedig ynghylch y ddyfais a ddefnyddiwyd gennych i ymweld â'r Wefan, hyd eich ymweliad a'ch rhyngweithiadau gyda'r Wefan;
- gwybodaeth a gafwyd drwy ein cyfathrebu a monitro; a
- manylion unrhyw ymholiadau a wnaed gennych drwy'r Wefan, yn bersonol, neu dros y ffôn ynghyd â manylion unrhyw gyfathrebu pellach (os yw'n berthnasol).
Data o leoliadau/sefydliadau celfyddydol yn annibynnol i chi:
Efallai y bydd sefydliadau celfyddydol eraill, fer enghraifft lleoliadau rydym wedi perfformio ynddynt, yn rhannu eich gwybodaeth â ni.
Dylech wirio eu Polisi Preifatrwydd pan fyddwch yn darparu’ch gwybodaeth er mwyn deall yn llawn sut y byddant yn prosesu ac yn diogelu eich data.
Cyfryngau Cymdeithasol
Chi sy'n rheoli eich gosodiadau personol ar gyfryngau cymdeithasol. Dim ond os byddwch yn dymuno derbyn negeseuon gennym, yn dibynnu ar eich caniatâd i gael mynediad at wybodaeth o'r cyfrifon neu'r gwasanaethau hynny, y byddwn yn cysylltu â chi.
Os byddwch yn defnyddio ein gwefan drwy ddarparwr cyfryngau cymdeithasol, mae'n bosibl y byddwn yn cael gwybodaeth amdanoch drwy'r darparwr cyfryngau cymdeithasol hwnnw yn unol â'u polisïau. Wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, ac rydych wedi dewis ei gynnwys yn eich cyfrif cyfryngau cymdeithasol, mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio gwybodaeth fel eich enw, eich llun proffil, eich rhyw, eich pen-blwydd, eich cyfeiriad e-bost, eich tref neu sir ac unrhyw wybodaeth arall rydych wedi dewis ei darparu. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio gwybodaeth gan ddarparwyr cyfryngau cymdeithasol am eich defnydd o gymhwysiad rydym yn ei redeg ar eu safle.
Cefnogaeth a Chodi Arian
Rydym yn gwybod bod gan rai o'n cynulleidfaoedd presennol ddiddordeb mewn rhoi mwy o gefnogaeth i’r cwmni a hoffem ddeall pwy fyddai'r aelodau hynny o'r gynulleidfa. Cyn belled â bod gennym ganiatâd penodol i wneud hynny, mae'n bosibl y byddwn yn cysylltu ag aelodau'r gynulleidfa os ydych wedi bod i weld CDC Cymru yn amlach dros gyfnod o 3 blynedd, neu wedi bod i ddigwyddiadau codi arian CDC Cymru neu wedi cefnogi'r cwmni yn y gorffennol.
Data Personol Busnes
Pam rydym yn casglu gwybodaeth bersonol?
Mae CDC Cymru yn gweithio gydag amrywiaeth o bobl a sefydliadau i'w alluogi i weithredu. Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o artistiaid, gweithwyr llawrydd, ymddiriedolwyr, mathau gwahanol ar sefydliadau a darparwyr gwasanaeth trydydd parti, ac weithiau gyda'r rhai sydd wedi llogi cyfleusterau'r Tŷ Dawns. Fel rhan o'n prosesau gwaith, bydd angen i ni gasglu a phrosesu data personol os nad oes maes busnes ar wahân ar gael, ac rydych wedi rhoi'r wybodaeth honno i ni fel rhan o gontract.
Er mwyn ein galluogi i gyflawni ein gwasanaeth a chyflawni ein contract gyda chi rydym yn casglu data, fel y gallwn:
- cysylltu â chi ynghylch eich contract a'ch cytundeb busnes gyda ni.
- prosesu taliadau drwy ein systemau cyllid.
Os ydych wedi cytuno i weithio gyda ni o dan resymau dilys, byddwn yn:
- cysylltu â chi ynghylch CDC Cymru a darparu gwasanaeth
- dim ond cysylltu â chi drwy'r caniatadau a roesoch
Os ydych am roi'r gorau i gyfathrebu yn y dyfodol, mae gennych opsiwn i optio allan neu mae gennych yr hawl i gael eich anghofio - gweler eich Hawliau (isod)
Sut rydym yn casglu'r wybodaeth bersonol hon?
Rydym yn casglu’ch gwybodaeth bersonol os byddwch yn rhannu'r wybodaeth hon gyda ni fel rhan o gontract neu gytundeb i gyflwyno gwasanaeth gan CDC Cymru a'r Tŷ Dawns neu ar gyfer ein buddion cyfreithlon fel Cwmni Dawns. Rydym yn gweithio gyda sefydliadau ac unigolion y mae rhai ohonynt yn darparu data personol, er enghraifft enw, rhif ffôn cyswllt, e-bost, cyfeiriad a manylion banc, i CDC Cymru fel rhan o gytundeb busnes.
Pa wybodaeth rydym ni'n ei chasglu?
Dim ond y wybodaeth bersonol sydd ei hangen arnom er mwyn cyflawni ein busnes sy’n cael ei chasglu.
Os na ddarperir meysydd busnes, gall Data Personol gynnwys enw, cyfeiriad, e-bost, rhif ffôn a manylion cyfrif banc.
Gallwch ddiweddaru eich dewisiadau personol neu roi gwybod i ni ar unrhyw adeg os byddwch yn dewis peidio â chlywed gennym ni, ond gall hyn olygu na fyddwch yn derbyn unrhyw ohebiaeth angenrheidiol oddi wrthym sy'n caniatáu i ni gyflawni'r contract gyda chi.
Ein Seiliau dros Brosesu'ch Data Personol:
Mae'r seiliau dros ddal a phrosesu'ch Data Personol fel a ganlyn:
- sicrhau y gall CDC Cymru ddarparu cyfathrebu a gwasanaeth i'r rhai sy'n defnyddio'r cwmni, er enghraifft lleoliadau teithiau, ysgolion neu gyfleusterau'r Tŷ Dawns.
- er mwyn canfod a lleihau twyll a risg credyd byddwn yn cadw data yn gysylltiedig ag arian am hyd at 7 mlynedd.
Pe hoffech gael rhagor o wybodaeth am ein System CRM, Tessitura a'r Consortiwm cliciwch yma.
Sut rydym yn rheoli'ch data
Ni fydd unrhyw Ddata Personol a ddelir gan gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a'r Tŷ Dawns yn cael ei rannu ag unrhyw drydydd parti at ddibenion marchnata heb eich caniatâd.
Fodd bynnag, efallai y byddwn yn datgelu eich gwybodaeth (gan gynnwys Data Personol):
- i gwmnïau eraill o fewn ein grŵp o gwmnïau (sy'n golygu ein his-gwmnïau, ein cwmni daliannol terfynol a'i is-gwmnïau, fel y'u diffinnir yn adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau'r DU 2006);
- i'n partneriaid busnes, darparwyr gwasanaeth neu gontractwyr trydydd parti i'w galluogi i ymgymryd â gwasanaethau ar ein cyfer a/neu ar ein rhan er enghraifft
- Sage International – er mwyn olrhain pob taliad i staff, gweithwyr llawrydd a sefydliadau trwy Sage.
- Lloyds Bank - prosesu taliadau
- PayPal/ eBay i dalu am nwyddau neu wasanaeth yn uniongyrchol.
- HMRC – i brosesu gwybodaeth yn gysylltiedig â Threth ac Yswiriant Gwladol
- Sefydliadau trydydd parti sy'n cyflenwi gwasanaeth cymorth marchnata fel y system swyddfa docynnau Tessitura, gweithwyr llawrydd, tai postio, darparwyr gwe-letya neu wasanaeth anfon e-bost.
- Audience Insight a'r Audience Agency sy'n ein helpu i ddadansoddi ymddygiad y gynulleidfa er mwyn gwella ein gwasanaeth i chi.
- i unrhyw ddarpar brynwr neu werthwr (a'u cynrychiolwyr) os byddwn yn gwerthu neu'n prynu unrhyw fusnes neu asedau;
- os ydym o dan orchmynion neu ddyletswydd i ddatgelu neu rannu Data Personol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) unrhyw gais neu orchymyn asiantaethau gorfodi'r gyfraith a/neu HMRC mewn cysylltiad ag unrhyw ymchwiliad at ddibenion diogelu rhag twyll a lleihau risg credyd; ac
- os ydym o dan ddyletswydd i ddatgelu neu rannu data personol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) unrhyw gais neu orchymyn gan asiantaethau gorfodi'r gyfraith a/neu HMRC mewn cysylltiad ag unrhyw ymchwiliad i helpu i atal gweithgarwch anghyfreithlon; ac
- i drydydd partïon eraill os ydych wedi rhoi caniatâd penodol i ni wneud hynny.
Mae pob darparwr gwasanaeth trydydd parti wedi mynd drwy asesiad trydydd parti a gynhaliwyd gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru i sicrhau ei fod yn bodloni'r Rheoliadau Canllawiau Diogelu Data.
Gallwn ddatgelu gwybodaeth gyfansymiol, ddienw (h.y. gwybodaeth na ellir ei defnyddio i’ch adnabod yn bersonol), neu wybodaeth sy'n seiliedig ar wybodaeth ddienw o'r fath, i drydydd partïon dethol, gan gynnwys (heb gyfyngiad) dadansoddi a darparwyr peiriant chwilio i'n cynorthwyo i wella ac optimeiddio'r wefan. Mewn amgylchiadau o'r fath, nid ydym yn datgelu unrhyw wybodaeth a all ddangos pwy ydych yn bersonol.
Sut rydym yn diogelu ac yn storio'ch data
Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a'r Tŷ Dawns yn cymryd rheoli data personol o ddifrif ac wedi mabwysiadu technolegau a pholisïau cadarn a phriodol, felly mae'r wybodaeth sydd gennym amdanoch wedi'i diogelu.
Rhagor o fanylion
Gall y data personol y mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru/y Tŷ dawns yn ei gasglu oddi wrthych gael ei drosglwyddo i gyrchfan y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd ("AEE") a'i storio yno . Gall hefyd gael ei brosesu gan staff sy'n gweithredu y tu allan i'r AEE sy'n gweithio i ni fel un o'n cyflenwyr trydydd parti. Gall y staff hyn gael eu cyflogi i gyflawni eich archeb, prosesu manylion eich taliad a darparu gwasanaethau cymorth. Trwy gyflwyno eich data personol, rydych yn cytuno i'r trosglwyddo, storio neu brosesu hwn. Byddwn yn cymryd pob cam sy'n rhesymol angenrheidiol i sicrhau bod eich data'n cael ei drin yn ddiogel ac yn unol â'r polisi preifatrwydd hwn.
Caiff yr holl wybodaeth rydych yn ei darparu inni ei storio ar ein gweinyddwyr diogel. Caiff unrhyw drafodion eu hamgryptio. Byddech wedi creu cyfrinair os oeddech wedi prynu tocynnau drwy wefan Canolfan Mileniwm Cymru ac rydych yn gyfrifol am gadw'r cyfrinair hwn yn gyfrinachol. Gofynnwn i chi beidio â'i rannu gydag unrhyw un.
Marchnata ac optio allan
- Os ydych yn delio â ni ar ran cwmni cyfyngedig neu LLP, at ddibenion busnes, yna mae'n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi ar yr e-bost i'ch cyfeiriad e-bost corfforaethol am gynhyrchion tebyg neu gysylltiedig a gynigiwn. Os yw'n well gennych beidio â derbyn unrhyw gyfathrebiadau marchnata uniongyrchol gennym ni, neu os nad ydych yn dymuno eu derbyn bellach, gallwch optio allan ar unrhyw adeg.
- Os ydych wedi archebu cynnyrch neu wasanaethau gennym o'r blaen, efallai y byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn ac ar yr e-bost a thrwy'r post ynghylch cynhyrchion, gwasanaethau, hyrwyddiadau a chynigion arbennig tebyg neu gysylltiedig a allai fod o ddiddordeb i chi. Byddwn yn eich hysbysu (yn ystod y broses werthu) a ydym yn bwriadu defnyddio'ch data at ddibenion o'r fath ac yn rhoi'r cyfle i chi optio allan o dderbyn gwybodaeth o'r fath gennym ni. Yn ogystal, ac os ydych wedi rhoi caniatâd, mae'n bosibl y byddwn hefyd yn cysylltu â chi dros y ffôn a'r e-bost ynghylch ein cynhyrchion, gwasanaethau, hyrwyddiadau a chynigion arbennig eraill a allai fod o ddiddordeb i chi. Byddwn yn eich hysbysu (cyn casglu eich data) ac yn gofyn am eich caniatâd os ydym yn bwriadu defnyddio'ch data at ddibenion marchnata ychwanegol o'r fath. Os yw'n well gennych beidio â derbyn unrhyw gyfathrebiadau marchnata uniongyrchol gennym ni, neu os nad ydych yn dymuno eu derbyn bellach, gallwch optio allan ar unrhyw adeg.
- Os ydych wedi rhoi caniatâd, mae'n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi drwy'r post, dros y ffôn ac ar yr e-bost i roi gwybodaeth am gynhyrchion, gwasanaethau, hyrwyddiadau, cynigion arbennig a gwybodaeth arall a allai fod o ddiddordeb i chi, yn ein barn ni. Byddwn yn eich hysbysu (cyn casglu eich data) os ydym yn bwriadu defnyddio'ch data at ddibenion o'r fath. Pe byddai'n well gennych beidio â chael gwybodaeth farchnata o'r fath gennym ni, neu os nad ydych am ei derbyn bellach, gallwch optio allan ar unrhyw adeg.
- Os ydych wedi rhoi caniatâd, mae'n bosibl y byddwn yn rhannu eich data personol gyda sefydliadau trydydd parti a phartneriaid busnes a ddetholwyd yn ofalus ac y gallant gysylltu â chi'n uniongyrchol (oni bai eich bod wedi gofyn iddynt beidio â gwneud hynny) drwy'r post, dros y ffôn ac ar yr e-bost ynghylch cynhyrchion, gwasanaethau, hyrwyddiadau a chynigion arbennig a allai fod o ddiddordeb i chi. Byddwn yn eich hysbysu (cyn casglu eich data) ac yn ceisio eich caniatâd os ydym yn bwriadu datgelu eich data i drydydd partïon at ddibenion o'r fath. Os yw'n well gennych beidio â derbyn cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol gan ein partneriaid busnes, neu os nad ydych am eu derbyn bellach, gallwch optio allan ar unrhyw adeg (gweler isod).
- Mae gennych hawl ar unrhyw adeg i ofyn i ni, neu i unrhyw drydydd parti, roi'r gorau i brosesu’ch gwybodaeth at ddibenion marchnata uniongyrchol. Os ydych yn dymuno arfer yr hawl hon, dylech gysylltu â ni ar yr e-bost drwy data@ndcwales.co.uk, gallwch gysylltu â'r trydydd parti perthnasol gan ddefnyddio'r manylion cyswllt a roddwyd i ni, a rhoi digon o wybodaeth i ni neu nhw i'ch adnabod ac ymdrin â'ch cais. Fel arall, gallwch ddilyn y cyfarwyddiadau dad-danysgrifio mewn e-byst y derbyniwch gennym neu ganddynt.
Gwybodaeth am unigolion eraill
Os byddwch yn rhoi gwybodaeth i ni ar ran trydydd parti, rydych yn cadarnhau bod y trydydd parti wedi eich penodi i weithredu ar ei ran/ei rhan ac mae wedi cytuno y gallwch: rhoi caniatâd ar ei ran/ei rhan i brosesu ei wybodaeth/ei gwybodaeth; derbyn unrhyw hysbysiadau diogelu data ar ei ran/rhan; a rhoi caniatâd i drosglwyddo ei wybodaeth/ei gwybodaeth dramor (os yw'n berthnasol).
Os ydych yn unigolyn, mae'r adran hon yn nodi'ch hawliau cyfreithiol mewn perthynas ag unrhyw ran o'ch Data Personol rydym yn ei ddal a/neu'n ei brosesu. Os ydych yn dymuno arfer unrhyw un o'ch hawliau cyfreithiol, dylech gyflwyno eich cais yn ysgrifenedig i ni (gan ddefnyddio ein manylion cyswllt isod) gan roi digon o wybodaeth i ni eich adnabod ac ymateb i'ch cais
Mae gennych yr hawl i:
- Gofyn am gael gweld gwybodaeth am ddata personol sydd gennym a/neu rydym yn ei brosesu amdanoch, gan gynnwys: a ydym yn dal a/neu'n prosesu eich Data Personol; faint o Ddata Personol rydym yn ei ddal; a dibenion a maint y prosesu.
- Trefnu i unrhyw wybodaeth anghywir amdanoch chi gael ei chywiro a/neu ei diweddaru. Os bydd unrhyw ran o'r wybodaeth a ddarparwyd gennych yn newid, neu os byddwch yn gwybod am unrhyw gamgymeriadau yn y wybodaeth honno, rhowch wybod i ni yn ysgrifenedig gan roi digon o wybodaeth i ni ddelio â'r newid neu'r cywiro.
- O dan rai amgylchiadau i ofyn am i ni ddileu'r holl ddata personol rydym yn ei gadw amdanoch (yr 'hawl i ddileu'). Sylwch nad yw'r hawl hon i ddileu ar gael o dan bob amgylchiad, er enghraifft pan fo angen i ni gadw'r Data Personol at ddibenion cydymffurfio cyfreithiol. Os nad dyma'r achos, fe rown wybod ichi.
- O dan rai amgylchiadau i ofyn ein bod yn cyfyngu ar brosesu'ch Data Personol, er enghraifft pan fydd eich Data Personol yn anghywir neu pan fyddwch wedi gwrthwynebu i'r prosesu.
- I ofyn am gopi o'r data personol sydd gennym amdanoch a'i ddarparu ar ffurf strwythuredig sy'n addas i chi allu ei drosglwyddo i reolydd data gwahanol (yr 'hawl i drosglwyddo data'). Sylwer mai dim ond o dan rai amgylchiadau y mae'r hawl i hygludedd data ar gael, er enghraifft pan wneir y gwaith prosesu drwy ddulliau awtomataidd. Os gofynnwch am yr hawl i hygludedd data ac nid yw ar gael ichi, fe rown wybod ichi.
- O dan rai amgylchiadau i wrthwynebu prosesu'ch Data Personol. Os felly, byddwn yn rhoi'r gorau i brosesu'ch data personol oni bai y gallwn ddangos seiliau dilys digonol a chymhellol dros barhau â'r gwaith prosesu sy'n drech na'ch buddiannau chi. Os nad oes gennych hawl, oherwydd eich amgylchiadau, i wrthwynebu'r fath brosesu yna byddwn yn rhoi gwybod ichi.
- Mewn amgylchiadau penodol, peidio â bod yn destun penderfyniad sy'n seiliedig ar brosesu awtomataidd yn unig, er enghraifft pan fo algorithm cyfrifiadurol (yn hytrach na pherson) yn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eich hawliau cytundebol. Sylwer nad yw'r hawl hon ar gael o dan bob amgylchiad. Os byddwch yn gofyn am yr hawl hon ac nid yw ar gael ichi, fe roddwn ni wybod ichi.
- I wrthwynebu i farchnata uniongyrchol, gweler uchod.
Cwynion
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut rydym yn casglu neu'n prosesu'ch gwybodaeth, mae gennych yr hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio, sef, yn achos y Deyrnas Unedig, Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth y DU (“ICO”). Gellir cyflwyno cwynion i ICO drwy linell gymorth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ffonio 0303 123 1113. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch codi pryderon gyda ICO ar gael yn https://ico.org.uk/concerns/.
Cyfeiriadau IP a Chwcis
Mae'n bosibl y byddwn yn casglu gwybodaeth am eich cyfrifiadur, gan gynnwys eich cyfeiriad IP, eich system weithredu a’r math o borwr os ydynt ar gael, ar gyfer gweinyddu'r system ac er mwyn ein helpu i fonitro ein hymgysylltiad a'n cyflwyniad i chi.
Mae cyfeiriad IP yn rhif unigryw sy'n galluogi cyfrifiadur, grŵp o gyfrifiaduron neu ddyfais arall sy'n cysylltu â'r rhyngrwyd i bori'r rhyngrwyd. Mae'r ffeil log yn cofnodi amser a dyddiad eich ymweliad, y tudalennau y gofynnwyd amdanynt, y wefan sy'n eich cyfeirio (os yw'n cael ei darparu) a fersiwn eich porwr rhyngrwyd. Gan ddefnyddio Google Analytics, rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i helpu i ddeall cynulleidfaoedd ar-lein; o ble y deuant; pa dudalennau sydd o’r diddordeb mwyaf iddynt; sut y cawsant wybod am y wybodaeth a sut y gallem wella ein hymgysylltiad. Data ystadegol yw hwn ynglŷn â gweithgareddau pori ein defnyddwyr ac nid yw'n adnabod unrhyw unigolyn.
Dylech ddarllen Polisi Cwcis CDC Cymru/Tŷ Dawns i gael rhagor o wybodaeth
Manylion Cyswllt
Ar yr e-bost: data@ndcwales.co.uk
Dros y ffôn: 029 2063 5600
Trwy'r post:
Tŷ Dawns
Stryd Pen y Pier
Bae Caerdydd
CF10 4PH
Defnyddio Teledu Cylch Cyfyng
Rydym yn monitro ac yn recordio delweddau gan ddefnyddio teledu cylch cyfyng yn ein cartref sef y Tŷ dawns ac yn swyddfa docynnau Canolfan Mileniwm Cymru. Rydym yn gwneud hyn at ddibenion atal troseddu a diogelwch y cyhoedd.
Newidiadau i'n Polisi Preifatrwydd
Diweddarwyd y polisi hwn ar 12 Mehefin 2018 yn unol â'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol newydd.
Bydd unrhyw newidiadau y gwnawn i'n polisi preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu postio ar y dudalen hon a, pan fo'n briodol, yn cael eu hysbysu i chi ar yr e-bost.
Mae croeso i gwestiynau, sylwadau a cheisiadau am ein polisi preifatrwydd a dylid eu cyfeirio at data@ndcwales.co.uk
I gael mwy o wybodaeth am y Ddeddf Diogelu Data, gallwch ffonio (DU) 01625 545 700 neu ewch i wefan y Comisiynydd Gwybodaeth yn www.informationcommissioner.gov.uk
DIFFINIADAU
Cyfeiriadau yn y Polisi hwn at:
Ystyr “Gofynion Preifatrwydd a Diogelu Data” yw: Deddf Diogelu Data 1998 (hyd nes iddi gael ei dirymu) (“DPA”), Cyfarwyddeb Diogelu Data (95/46/EC) (hyd nes iddi gael ei dirymu) ac, o 25 May 2018, y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2016/679 (“RhDDC”) neu unrhyw ddarpariaeth gyfwerth a fydd o bosibl yn cymryd lle'r RhDDC yn dilyn gwahaniad gwleidyddol ffurfiol y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd; Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwiliol 2000; Rheoliadau Telathrebu (Arfer Busnes Cyfreithiol) (Atal Cyfathrebiadau) 2000 (SI 2000/2699); Cyfarwyddeb Diogelu Data Cyfathrebiadau Electronig (2002/58/EC); Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig (Cyfarwyddeb CE) 2003 (SI2426/2003); a phob cyfraith a rheoliad cymwys a allai fod mewn grym o bryd i'w gilydd sy'n perthyn i brosesu Data Personol a Phreifatrwydd, gan gynnwys lle y bo'n gymwys yr arweiniad a'r codau ymarfer a ddosbarthwyd gan y Comisiynydd Gwybodaeth neu unrhyw awdurdod goruchwylio, a chyfwerth unrhyw un o'r rhai blaenorol mewn unrhyw awdurdodaeth berthnasol; a
Caiff “Data Personol”, “Rheolwr Data” a “Prosesydd Data” a “prosesu” yr ystyron a roddir iddynt yn y Ddeddf Diogelu Data neu, o 25 Mai 2018, y RhDDC.
Diweddarwyd y polisi ar 12 Mehefin 2018
Polisi cwcis (cwcis)
Beth yw cwci?
Mae cwci yn ffeil ar-lein sy'n cael ei storio gan eich porwr rhyngrwyd ar ddisg galed eich cyfrifiadur. Mae cwcis yn cynnwys gwybodaeth a drosglwyddir i ddisg galed o'n gwefan. Mae cwci yn caniatáu inni fonitro a chyflawni gwasanaeth ar-lein wedi'i bersonoleiddio. Mae rhai o'r cwcis y defnyddiwn yn hanfodol i'r safle weithredu.
Ni all cwci roi mynediad i CDC Cymru i'ch cyfrifiadur neu i wybodaeth y tu hwnt i'r hyn rydych yn ei ddarparu.
Pam rydym yn defnyddio cwcis?
Defnyddiwn gwcis i fonitro ymddygiad ein cynulleidfa ar-lein er mwyn sicrhau ein bod yn darparu'r gwasanaeth gorau; ymgysylltu â'r cynnwys mwyaf defnyddiol a gorau ar eu cyfer, a deall mwy am ein cynulleidfaoedd er mwyn darparu'r ffurf orau o gyfathrebu a negeseua.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y wybodaeth hon, cysylltwch â'r swyddog diogelu data drwy anfon e-bost at data@ndcwales.co.uk
Mae'r tabl isod yn dangos y mathau o gwcis a ddefnyddir yn aml gan wefannau heddiw, ynghyd â'u pwrpas:
Mae'r tabl canlynol yn nodi pa gwcis y mae CDC Cymru yn eu defnyddio, eu diben ac i ba raddau y gellir ystyried eu bod yn ymwthiol.
Cwcis trydydd parti
Cwcis Hysbysebu
Rydym weithiau'n defnyddio cwcis ar-lein ar gyfer hysbysebion ar-lein wedi'u targedu yn seiliedig ar gynulleidfaoedd sydd wedi ymweld â'n gwefan, tudalennau sianelau cyfryngau cymdeithasol neu sydd wedi pennu eu diddordebau a'u demograffeg drwy Google.
Mae Google yn defnyddio Cwci trydydd parti DoubleClick i gasglu data a gweini hysbysebion sy'n berthnasol i chi ar wefannau ei bartneriaid. Nid yw'r cwci yn cynnwys unrhyw wybodaeth sy'n adnabyddadwy yn bersonol ac nid ydym yn ei chyfuno ag unrhyw wybodaeth sy'n adnabyddadwy yn bersonol a gesglir drwy'r wefan. Caiff defnyddwyr optio allan o gwcis DoubleClick ar gyfer hysbysebu sy'n seiliedig ar ddiddordeb trwy ymweld â Gosodiadau Hysbysebion.
Y nodweddion a ddefnyddir yw: Ailfarchnata gyda Google Analytics, Google Display Network Impression Reporting a Google Analytics Demographics a Interest Reporting.
Rydym yn defnyddio data cynulleidfa 3ydd parti Google Analytics fel oedran a diddordebau i ddeall eich ymddygiad ar-lein yn well, ac rydym yn gweithio gyda chwmnïau sy'n casglu gwybodaeth am eich gweithgaredd er mwyn sicrhau ein bod yn siarad â chi am bethau sydd o ddiddordeb i chi yn unig.
Sut y gallwch reoli gosodiadau Cwcis
Ni all cwcis eich adnabod chi ac ni allwn weld unrhyw Ddata Personol ar eich cyfrifiadur. Fodd bynnag, os ydych am newid eich gosodiad ac analluogi cwcis gallwch wneud hyn drwy osodiadau'ch porwr. Drwy newid eich gosodiad bydd hyn yn effeithio ar eich dewisiadau personol i'r wefan.
Mae pob porwr yn wahanol - i gael gwybodaeth gyffredinol am gwcis, dilynwch y dolenni allanol canlynol.
www.aboutcookies.org
www.youronlinechoices.eu
Isod ceir y porwyr mwy cyffredin, a sut i newid eich gosodiadau o ran Cwcis: